Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfres Newydd.] GORPHENAF, 1863. [Rhif. XIX. Craetjmìrait a fâatylnwdỳim* CYFAMOD NEU OEUCHWYLIAETH SINAL GAN Y PARCH. D. HOWELL, ABEETAWY. Ye hyn a feddylir wrtli y gair goruch- wyliaeth yn ei gysylltiad â'r Bibl a chref- ydd, ydyw y wedd neu y ffurf a osodai yr Arglwydd äros ryw ysbaid o amser ar ei achos a'i addoliad yn rahlith dynion. Tair goruchwyliaeth sydd wedi bod; sef, y Batriarchaidd, y Lefiaidd, a'r Gristion- ogol. Gwneir mwy o sylw yn y Testament Newydd o oruchwyliaeth Sinai, yn enw- edig yn y llythyr at yr Hebreaid, nag a wneir o'r un flaenorol iddi. Gelwir Jion hefyd yn gyfamod. Ymdrinia yr apostol yn helaeth ar y mater, a sonia am ddau gyfamod; ac i ddangos y gwahaniaeth rhyngddynt, geilw y naill gyfamod y cyntaf, a'r líall yn ail; y naill yn newydd, a'r llall yn hen; "eithr yr hwn a aeth yn hen acyn oedranus, sydd agos i ddiflanu:" y naill yn gyfamod gwell, a'r llall yn f eius. Ni f eddylir wrth y cyf amod cyntaf yr un a wnaeth Duw â dyn pan yn ei gyflwr santaidd a dedwydd, yr hwn a elwir yn gyfamod gweithredoedd. Yr oedd pob peth perthynol i natur cyfamod yn y cytundeb hwnw rhwng Creawdwr a chreadur, yn nghylch ufudd-dod ac an- ufudd-dod, gwobr a chosp; ond nid oedd gweinidogaeth gyfryngol o un math yn perfchyn iddo. Duw a chreadur oedd yr ttnig bleidiau; ond nid yw y cyfamod hwn yn cael ei alw yn un man yn degta- ment. Y mae yr hwn a enwir yma y Çyntaf, yneael ei alw yn destament, Heb. «• 18, 19, 20: "Hwn yw gwaed y testa- ment a orchymynodd Duw i chwi." Nid cyrohwys yw galw pob cyfamod yn dest- ament; ac nis gaü fod cyfamod yn desta- ment heb fod marwolaeth yn gadarnhad yn ei wneuthuriad. Nid ar f arwolaeth o un math y sylfaenwyd y cyfamod gweith- î»doedd, er fod marwolaetìh mewn bygyth- iad am anufudd-dod ynddo. Wrth edrych ar yr hyn a lefarir gan yr apostol yn yr wytìafed o'r Hebreaid, ac o'r CYFBOIi n. chweehed adnod i'r diwedd, ei amcan wrth ddangos rhagoriaeth y naill gyfamod ar y llall yw, profi gweinidogaeth Crist yn fwy rhagorol: "ondynawrefe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol, o gymaint ag y mae yn Cyfryngwr cyfamod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell." Os yw y cyfamod yn well na chyfamod Sinai, rhaid bod gan Grist, Cyfryngwr y cyf amod, weinidogaeth mwy rhagorol na'r offeiriadaeth Iuddewig. Er mai y swydd offeiriadol yn benaf oedd mewn golwg gan yr apostôl, eto nid hon oedd yr oll o'r weinidogaeth gyfryngol, er fod hon oll yn gyfryngdod. Mae yr apostol, wrth roddi hanes am ddiflaniad goruchwyliaeth Sinai, yn dan- gos hefyd ei dechreuad yn adnod 7, 8, a 9. Yr oedd gogoniant yn perthyn iddi yn ei dechreuad, ond mwy yn ei diflaniad. Gwnawn sylw ar neillduolrwydd de- chreuad yr oruchwyliaeth hon. Cyfnod pwysig yn hanes eglwys Dduw ydoedd y pryd cafödd hon ddechreuad. Nodir hyn gyda manylrwydd yn y geiriau. Yn gyntaf, yr amser: sef "yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt." Yn aml mae dydd yn golygu amser penodol, nid dydd o bedair awr ar ugain, ond tymhor penodol at waith neillduoL Yn yr ystyr hyn gelwir holl ddyddiau ymddangosiad Crist yn y cnawd, a'i drigfa gydadynion, yn "Ddydd Crist." Yr amser penodol i gael iachawdwriaeth yn "Ddydd gras." Y trydydd mis wedi gwareduybobl allan o'r Aipht, gwnaed y cyfamod hwn â hwy, Exod. xix. 1. Petìiau arweiniol oedd y cwbl a gymerodd le yn ftaenorol i'w dyfodiad at Sinai, yn arwain at dde- chreuad goruchwyliaeth newydd. Nod- wyd y tymhor hwn gan y f ath waith mawr, nes oedd yn anmhosibl peidio gweledllaw yr Arglwydd yn gweitìaia. Gelwir yr holl dymhor ar enw dydd,