Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Cyfees Newydd.] MEHEFIN, 1863. [Rhif. XVIII. fämälgoòm n êotybmfym. GWEDDIO A GWEITHIO. "Paham y gwaeddiarnaf ? dywed wrth feibion Iarael amgerdded rhagddynt," E&OD. xìt.15. [PABHAD O'E EHIFYN DIWEDDAF.] Onid yw yn llawn bryd aros bellach i ystyried y mater o'r newydd yn bwyllog, ac ymholi beth all fod yr achos nad ydym yn llwyddo ac yn cael ein cais? "Gofyn yr ydym, ac niä ydym yn derbyn;" ac fe allai y buasai yn llawn cystal, os nad yn well, i ni eistedd i lawr a bwrw y draul cyn codi yr holl beirianwaith hyn, a gwneyd yr holl dwrw. Mae pob un cywir-galon a meddylgar yn troi hyn yn ol ac yn mlaen yn ei feddwl, ac yn chwilio allan gyda dwys ofal, a cheisio dyfalu paham y gomeddir ein cais? paham y mae Efe yn oedi dyfod? Delays are not almays denials, meddir. Y mae hyn yn bert iawn, ac mor wir a hyny; a gadewch i ni, yn ein siomedigaeth a'n helbul, fwynhau hyny o gysur a budd, mae dy- wediadau fel hyn yn gynyg i ni. Ni ddaeth ei awr Ef eto; yr amser i drugar- hau wrth Sion—yr amser nodedig. Gall gweddiau gael eu gwrando heb eu hateb yn union. Yr ydym i ddysgu dyfal- barhau a dysgwyl. Gall gweddi fel hill, i fenthycia eglurhad fasnachol, gael ei dderbyn heb ei dalu yn hir wedi hyny. Ein Tad nefol ẃyr oreu yn nghylch hyny. Pwy. ŵyr? fe allai ei fod fel Dafydd yn cadw Absalom ddwy flyn- edd yn Jerusalem heb weled ei wyneb, i ddyben penodoL Cofier hefyd am ym- ddygiad Joseph tuag at ei frodyr; ni eglurodd ei hun yn y fan iddynt. Ni wnai hyny y tro o dan yr amgylchiadau. Profi ein ffydd y mae; rhoddi ymarferiad ì'n hamynedd y mae, a gwaith i'n dys- gwyliad. Efe a'n hetyb yn y man yn Uawn. Daliwn ati heb ddiffygio. Mae *yn i gyd jnfine iawn. Beth all fod yn íwy felly? Beth all fod yn fwy cymer- CÎFBOL II, adwy genym i'n helpu i ymgynal yn ein profedigaeth? Eithr a yw yn gyfreithlon i ni ddehongli pethau mewn modd mor ffafriol,—yn gwenieithio gymaint i ni ein hunain? Dylem betruso peth, rhag gwneyd camgymeriad o bwys wnelo niwed i ni. Oni fyddai yn fwy gweddus i ni, ac yn fwy dyogel, i ymholi o ddifrif, gyda mawr ofal calon, beth yw yr achos fod yr Arglwydd hawddgar, grasol, ddim yn nesâu—yn achub. Nid yw, ni all fod allan o le i wneyd hyn. Ai nid dyma gyfarwyddyd synwyr ysbrydol? Onid oes Uais gan ddystawrwydd Duw? Oes, yn ddiau; mae ei ddystawrwydd yn llefaru. Y mae yn dyweyd wrth beidio ein hateb, neu yn hytrach yn f wy priodol, y mae ei ateb yn dyweyd yr hyn ydym ni am edrych heibio iddo. Ni fynwn er dim chwanegu at boen na blinder neb trwy fyned yn mlaen dros yr hen benill— "Ai rhyw bechod sydd yn ddirgel, Neu yn gyhoedd yn parhau?" Os felly, gweddiwn y diwedd yn gywir— " Tyr'd yu awr, tor i lawr, Fy anwireddau fach a mawr." Peth cynü i'w ryfeddu yw penderfynu pwnc fel hyn, ac ni ddylid er dim ei wneyd yn frysiog. Nid oes o angen- rheidrwydd unrhyw Achan yn y gwersyll yn andwyo ycwbl. Ni raid oyrchu at unrhyw dyb o'r fath i roddi cyfrif am sefyllfa pethau. Gellir ei esbonio yn. foddhaol ar egwyddor arall. Ar yr tin pryd, yr hyn sydd yn atal a etyL nes ei dynu ymaith, beth bynag ydyw. Ond beth all Duw fod yn ddyweyd? canys y mae yn ddiddadl ei fod yn dyweyd rhyw beth, os gallwn ddeall. Fe allai ei fod