Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Cyfres Newydd,] MAI, 1863. [Rhie. XVII. fötwefyaaim % <§a§Mmfymx. / GWEDDIO A GWEITHIO. "> "Paham y gwaeddi arnaf ? dywed wrth feibion Israel amgerddedd rhagddynt," ElOD. xiv,15. GAN T PAECH. THOS. EEES, CEUGHYWEL. Mae y geiriau hyn yn dwyn cysylltiad ag amgylchiadau hynod ac annghyffredin iawn, pa rài achlysurodd eu llefariad. Y maent yn myned â ni ar ein union i ganol golygfa o'r fath fwyaf rhyfeddol a chyffrous—y f wyaf rhyf eddol a chyffrous, fe allai, a gofnodir ar dudalenau hanes- iaeth Óenedlig neu gysegredig, hynafol neu ddiweddar. Mae y dygwyddiadau digyffelyb hyn,—dyeithrach nag un ffug- chwedl ddyfeisiodd dychymyg dyn erioed, yn lled hysbys yn gyffredinol; yn enw- edig i ddarllenwyr gwybodus y Cylch- grawn. Yr ydych oll yn ddiau wedi clywed cyfeirio mynych atynt yn y wein- idogaeth gyhoeddus o bryd i bryd, ac fe allai wedi eu darllen drosodd a throsodd gyda dyddordeb bywiog a dwfn. Odid nad ydynt yn eich cof yn lled gyflawn, oblegyd ar ol eu clywed unwaith, bydd yn anhawdd eu gollwng yn annghof. Byddant yn debyg o wneyd argraff ddwys ar y meddwl, os nad annileadwy, na chollir yn fuan, ac yn hawdd, beth bynag, os collir hi byth; canys y maent yn amlwg mor addas i hyny yn mhob ystyr. Heblaw hyn, bwriadodd Duw yr am- gylchiadau, mae yn eithaf eglur, i effeithio yn ddwys a pharhaus ar y sawl aeth trwyddynt; ac nis gallant lai arnom ninau, er y pellder mawr mewn amser alle. Ond er mor gyfarwydd y gall y cwbl fod i ni, y maent yn cadw eu blas yn neillduoL Nid oes biino arnynt. Ac heblaw eu swyn anarferol fel darn o hanesyddiaeth tra rhyfedd a diail, y maent yn llawn addysg fuddiol agwerth- jÜJÜL ^yfi-^yuant i ni, yn neülduol os safwn ychydig uwch eu penau yn f eddyl- cyfbol n, gar, amrywiol o wersi pwysig a pherthyn- asol; rhai o honynt yn y golwg yn fwy amlwg, eraül yn f wy cuddiedig, y tâl yrt dda ceisio eu chwilio allan i gael gafael arnynt. Gellir adrodd prif linellau yr hanea mewn ychydig eiriau. Fel hyn yr oedd pethau yn sefylL Yr oedd cenedl plant yr Israel y pryd hwn mewn cyfyngder dir- f awr, dychrynllyd, a bygythiol—^y mwyaf ofnadwy a diobaith yn eu holl hanes; yr oeddynt mewn perygl enbyd. Yr oedd Pharaoh greulawn, a'u gorthrymodd cy- hyd ac mor drwm, wedi cael ei orfodi o'r diwedd gan y Goruchaf—a gorfod caled ydoedd, i roi rhyw fath o ganiatad iddynt i fyned allan o wlad yr Aipht, o'u caeth- iwed maith a blin—^wedi ei drechu yn lân, yn anorchfygol, gan y gyfres pläau ofn- adwy ac andwyol ddygwyd yn olynol arno ef a'r holl wlad yn gyffredinol; yn enwedig wedi y farn drom o ladd y cyntaf-anedigion. Ni allodd y brenirt calon-galed ddal allan yn hẃy heb roddi rhyw fath o genad iddynt, yn ol caia Moses, i ymadael. Yr oedd yr ymweliad trycbinebusdiweddaf wedi ei lwyr goncro, os nad ei ystwytho. Ehoddotíd ffordd o'r diwedd, o dan bwysi anoddefol y ddyrnod anrheithiol orphenol hon, a chydsyniodóî mewn canlyniad, rhwng bodd ac anf odd, i'w gollwng ymaith, er mor dỳned ao mor benderfynol oedd ei afael ynddynt. CymerÔdd Moses y caniatad ar unwaith, a chychwynodd yr Hebreaid i'w taith i ymaaael â gwlad eu caethiwed, i fyned i'r wlad addawedig i'w tadau y caent hẃy a'u hiliogaeth ei meddianu yn etifedd- iaeth. Yr oeddynt yn werin fawr, chwe chan mil, heblaw gwragedd a phlant;