Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Cyfees Newîdd.] EBRILL, 1863. [Rhif. XVI. Cri&tfjrámtt n (&otyhmú}ímt ARCH-OFFEIRIADAETH CRIST. "Eithr Crist, wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hyny yw, nid o'r adeüadaeth yma; nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i'r cysegr, gan gael i ni dragywyddol ryddhad."—Heb. ix. 11, 12. [PARHAD O'H BHIFYN BIWEDDAF.] Y MAE y testun yn ein harwain i feddwl yn mhellach fod crefydd, o dan weinyddiad arch-oífeiriadaeth Crist, yn cymeryd ffurf mwy sefydlog, yr hyn, yn ol dangosiad yr apostol, sydd yn fantais i'r byd. Gwelir yn amlwg fod Paul, wrth drin y cyf- newidiadau yn ngoruchwyliaethau Duw tuag at ddynion, yn gwneyd hyny er mwyn dangos fod dynion yn derbyn y manteision mwyaf yn y goruchwyl- iaethau hyn. Yr ydym yn canfod pethau yn myned "o ogoniant i ogoniant," yr hyn sydd yn egluro mai yn y blaen ac nid yn ol y mae pethau yn myned. Yn gymaint a bod yr arch-offeiriadaeth wedi cymeryd ffurf sefydlog yn Nghrist, y mae manteision y byd yn fwy o lawer nag oeddynt o dan ansefydlogrwydd Iudd- ewig. Crist sydd yn aros yn dragywydd; ac yn gymaint a'i fod "yn aros yn dra- gywydd, y mae offeiriadaeth dragywyddol ganddo." "Am hyny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Ni a welwn fod yr apostol yn cysylltu pob man- teision â bod yr arch-offeiriadaeth wedi cymeryd ffurf sefydlog yn Nghrist. Yn ol ei addysg ef, y mae cyfnewidiolrwydd yn y mater hwn yn annghymhwysder ac aneffeithioldeb; ac o'r tu arall, y mae sefydlogrwydd yn gymhwysder ac effeith- ioldeb. Wrth edrych gyda rhyw gymaint o f anylwch ar eiriau yr apostol, gwelwn ei fod yn gosod y pwys mwyaf ar yr arch-offeiriàdaeth wedi cymeryd ffurf sefydlog, er dangos mawredd a digonol- CYFEOL n. deb yr aberth dros bechod. "Yr hwn," meddai, "nid yw rhaid iddo beunydd, megys i'r offeiriad hyny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo'r bobl: canys hyny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ei hun. Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt yn arch-offeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi y gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd." Mae bod yr arch-offeir- iadaeth, gan hyny, wedi cymeryd ffurf sefydlog yn Nghrist, yn profi i foddlon- rwydd fod Crist yn íachawdwr digonol, ac nad oes eisiau neb arall. Pe buasai angenrheidrwydd am offrymiad mynych, buasai hyny mor fynych yn pregethu an- effeithioldeb; eithr yn gymaint ag nad oes eisiau i neb ddyfod ar ol Crist yn y cymeriad o arch-offeiriad, eglura hyny fod pob peth yn gyffawn ynddo ef. " Eithr yr awi hon, unwaith yn niwedd y byd, yr ymddangosodd efe i ddileu pechod, trwy ei aberthu ei hun." Offrymwyd ef unwaith i "ddwyn ymaith bechodau llawer; ymddengys yr ail waith heb bechod, i'r rhai sydd yn ei ddysgwyl, er iachawdwriaeth." Ac, fel y dywed y testun, "gan gael i ni dragywyddol ryddhad." Wel, bellach ni a welwn yn amlwg fod holl ymdrafodaeth Duw â'r byd, yn awr ac i dragywyddoldeb, yn unig yn athrwy yr Arglwydd Iesu Grist, fel "Arch- offeiriad mawr ar dý Dduw." Yr oedd Paul yn methu adnabod yr arch-offeiriadi