Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Ctfees Newydd.] MAWRTH, 1863. [Rhif. XV. AECH-OFFEIPJADAETH CRIST. 'Eithr Crist, wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus liethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, niä o waith llaw, hyny yw, nid o'r adeiladaeth yma; nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewii i'r cysegr, gan gael i ni dragywyddol ryddhad."—Heb. ix. 11, 12. Weth edrych gyda rriyw gymaint o fan- ylwch i eiriau y testun, canfyddir fod yr apostol yn troi yn gryn sydyn oddiwrth ei ddull blaenorol, er mwyn gwneyd cyferbyniad rhwng y cysgodau a'r syl- weddau. "Eithr Crist," eb efe, "wedi dyfod." Fel pe dywedasai, Mae y cwest- iwn yn cyfnewid yn awr o benbwygilydd, canys y mae Crist wedi dyfod yn Arch- offeiriad y daionus bethau a fyddent. Ni fuom yn siarad ac yn arfer llawer o bethau gynt; ond yn awr, yn gymaint a bod "Crist wedi dyfod," wele y cwbl wedi myned o dan gyfnewidiad. "Crist sydd bob peth, ac yn mhob peth." Bydd llawer yn siarad am y cysgodau o Grist fel pethau gwael, difudd, os nid pethau bryntion, yn-cael eu troi heibio fel hen ddefnyddiau, yn ddibarch a diddefnydd; eithr y mae yr apostol yn siarad yn f wy parchus am danynt na hyny. Nid yw efe yn edrych arnynt yn bethau gwael; nid ydyw efe yn meddwl eu bod fel pethau isel, ond yn hollol i'r gwrthwyneb; y mae efe yn rhoi lle uchel a mawreddus iddynt; ymaentyn "ddefodau gwasan- aeth Duw." Trwy y pethauhynybyddai ein tadau yn arfer dal cymundeb â'r Gor- uchaf, a'i wasanaethu yn eideml; am hyny nis gallasent fod yn bethau gwaelion. Nid amcan yr apostol yw iselu y pethau dwyfol gynt, a'r gwasanaeth crefyddol ardderchog o dan yr hen oruchwyliaeth; eithr nodi allan eu gogoniant a'u har- dderchawgrwydd, er mwyn egluro eu hymsuddiad i mewn i ogoniant mwy go- goneddus. Nid yw bod "Crist wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus bethau a fyddent," yn ddyddimiad ar y pethau a CYFROL II. fu, eithr yn gyflawniad gogoneddus. " Ni ddaethum i dori y gyfraith a'r prophwydi, eithr i'w cyflawni." Yr oedd sylweddau yn y cysgodau. Fe allai fod gryn dipyn o dywyllwch o'u cwmpas; eto nid oedd y tywyllwch yn ormod i ffydd yr hynafiaid dreiddio at yr efengyl drwyddynt. Yr oeddent yn gweled Crist yn ysbryd y brophwydol- iaeth ac yn nghalon y cysgodau, ac yn ymddiried ynddo am fywyd tragywyddol. Y mae yn wir fod y masgl yn drwchus, eithr nid masgl yw y cwbl; y mae yno gnewullyn melus o fewn. Yr oedd ffydd yr hynaíiaid yn alluog i dori trwy y masgl at y cnewullyn, a bwyta y ffrwyth ar- chwaethus gydag hyfrydwch. Yn gy- maint a bod y pethau hyny yn arddangos- iad o Grist, yr oedd o angenrheidrwydd gymaint o sylwedd ynddynt ag oedd o Grist ynddynt; ac y mae yn eglur fod cymaint o Grist ynddynt ag oedd yn d'digon i achub y penaf o bechaduriaid. Achubwyd Manasse; do, a miloedd heb- law Manasse, y rhai a welodd Ioan yn y nef wedi eu selio allan o holl lwythau Israel. Achubwyd y rhai hyn trwy Grist i ddyfod, yn ol eglurhad y cysgodau; eithr yn awr wele Grist " wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus bethau a fydd- ent." Yr ydych chwi yn cael eich achub trwy Grist nedi dyfod; cawsant hwy eu hachub drwy Grist i ddyfod; felly, chwi welwch, trwy Grist y mae achub yn ol acynyblaen. Y peth yw hyn: y mae eich manteision chwi yn llawer mwy, a threfn achub yn llawer eglurach i chwi, yn Nghrist wedi dyfod, nag oedd iddynt hwy yn Nghrist i ddyfod. E1