Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfres Newydd.] CHWEFROR, 1863. [Rhif. XIV. Craráfwtwtt u 60Jíítocííjätt. TYNTJ YN OL I GOLLEDIGAETH. "Eithr nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynu yn ol i golledigaeth • namyn o ffydd i gadwed- igaeth yr enaid."—Heb. x. 39. GAN Y PARCH. THOS. HUGHE3, GELLI. Ysgrifenwyd yr epístol hwn at Grist- ionogion oedd yn ymyl gwrthgiliad. Yr oeddynt yn cael eu gorthrymu, eu hen- llibio, a'u herlid gan eu gelynion. Yr oeddynt beunydd yn agored i'r triniaethau chwerwaf. Yr oedd geiriau Crist, " Yn y byd gorthrymder a gewch," wedi cael eu gwirio yn eu profìad. Yr oedd yr Iuddewon yn gwneyd eu goreu i'w dwyn yn ol at eu nen farnau a'u hen arferion; ac oblegyd na allasent lwyddo, yr oeddynt yn eu herlid. Yn gymaint a'u bod yn dyoddef y fath driniaeth.au chwerwon oblegyd eu hym- lyniad wrth grefydd, yr oeddynt mewn perygl i wrthgilio oddiwrth grefydd. Am ûyny y mae yr apostol yn fynych yn yr epistol hwn yn eu hanog i ddal cyffes eu gobaith yn ddisigl. Ac i'w cefnogi i wneuthur hyn, y mae yn eu cynghori i alw i'w cof y dyddiau o'r blaen. "Ond gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dyoddefasoch ymdrech mawr o helbulon." Yn gym- aint a'ch bod wedi cael eich galluogi y pryd hyny i fyned trwy eich ty wydd garw, gellwch fod yn sicr y bydd i chwi gael eich galluogi yn awr; yn gymaint a'ch bod gynt wedi eich galluogi i wrthsefyll y brofedigaeth i wrthgüio, bydd i chwi eto gael eich cynorthwyo. " Gelwch i gof y dyddiau o'r blaen." Y mae adfywiad a nerth i'w gael trwy adgofio gweithred- oedd arwraidd y buddugoliaethau yr ydym eisoes wedi eu henill. Samson un diwrnod a gyfarfu â chenaw Uew ar ei ffordd i Timnath; nid ofnodd, ond aeth i'w gyfar- fod, ac efe a holltodd y llew fel yr holltir îayn; ac yna efe a äeth i'w ffordd. Ac CYFROL II, ar ol ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd, ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew, ao wele haid o wenyn a mêl yn nghorph y llew; ac efe a'i cymerth yn ei law, ac a gerddodd dan fwyta, Barn. xiv. 5. Trwy alw i gof y brwydrau yr ydym eisoes wedi eu henill, yr ydym yn cael nerth i ryfela rhag llaw. Peidiwch a brawychu yn wyneb eich gelynion. Y mae Duw yn sicr o'ch galluogi i'w gorchfygu. Peid- iwch â digaloni yn wynab y brofedigaeth; fe rydd Duwnerth i chwi i'w gwrthsefyll. "Gelwch i gof y dyddiauo'r blaen." Y mae yn eu cefnogi i ddal cyffes eu gobaith yn ddisigl, trwy eu hysbysu fod dydd eu gwaredigaeth yn agos. '' Oblegyd ychydig bachigyn eto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda." Y mae yma gyfeiriad yn ddiamheuol at ddinystr Jeru- salem. Cymerír ymaith allu eich gelynion cyn bo hir; ni fyddant yn alluog i'ch gorth- rymu mwy. Fe ddaw eich tristwch a'ch trallod i ben ar fyr dro, am hyny byddwch amyneddgar, nid ydy w amser eich gwared- igaeth yn mhell. " Deliwch gyffes eich gobaith yn ddisigl." Y mae yn eu cynghori hwy i ymddiried yn Nuw. "A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd." Y mae yn gosod ei holl ymddiried yn yr Arglwydd. Dyma yr unig ffordd i chwi sefyll; nid trwy ymddiried ynoch eich hunain, ond trwy bwyso ar Dduw. "Eithr o thyn neb yn ol," os bydd i ryw un wrthgilio, bydd Duw yn ddigllawn wrtho, bydd yn agored i ddigofaint Duw; "nid yw fy enaid yn ymfoddloni ynddo.'^ "Eithr," meddai yr apostol am dano ei hun a'i frodyr, "nid ydym ni o'r rhai sydd yn tynu yn ol i golledigaeth;" ond