Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGBAWN. Cyfres Newydd.] J IONAWR, 1863. v/ [Rhie. XIII. Crrfj0Òmt a #0^cirbeí^aw. CYMHWYSDERATT CRIST YR EFENGYL, O RAN EI GYMERIAD MOESOL, I FOD YN ESIAMPL I BAWB O'R HIL DDYNOL. GAN T PAECH. J. H. JONES, M.A., PH.D. Mae bywyd Iesu Grist yn gystäl a'i farwolaeth yn llawn o ryfeddodau. Nis gallai ei angau fod mor rinweddol oni bai fod ei fywyd yn ddifeius, a'i gymeriad yn ddif rychau. Mae yr holl weithredoedd a gyfiawnodd yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus yn rhyfedd; ac y mae y rhai hyn yn derbyn gwerth a theilyngdod chwanegol oddiwrth y ffaith eu bod wedi cael eu gwneuthur gan ddyn a'r Duwdod ynddo yn trigo. Tuag at i ni weled mawredd a rhag- oriaeth gweithredoedd yr Iesu, mae yn angeurheidiol i ni edrych arnynt yn eu cysylltiad â'i berson a'i gymeriad. Yr oedd undeb y natur ddwyfol a'r natur ddynol yn mherson yr Immanuel yn ar- graffu anfeidrol werth ac effeithioldeb ar ei holl weithrediadau a'i ddyoddef- iadau. Gweithredoedd dynion sjdd yn anf arwoìi eu henwau; pe na buasai iddynt gyflawni gorchestion yn eu dydd, neu wneuthur darganfyddiadau yn eu hoes, nibuasai eu personau mewn coffadwr- iaeth, nac hyd yn oed eu henwau yn adnabyddus. Darganfyddiadau Newton a waredodd eí enw o dir ebargoíìad. Nid oedd Bacon yn ddyledus am ei enwogrwydd i'w gymeriad moesol, ond yn. gyfangwbl i'w weithrediadau meddyliol. Yr oedd gweithredoedd Crist yr efengyl ynddynt eu hunain yn rhyfedd, ac wedi derbyn anfeidrol werth oddiwrth urddasolrwydd ei berson. Yr oedd y dyoddefìadau yr aeth trwyddyntmewn cysylltiad ag eraill yn ddyledus am eu heffeithiolrwydd a'u rhinwedd i'w berson a'i gymeriad. Yr oedd y ddau leidr yn myned trwy yr un arteithiau corphorol ag Iesu o Nazareth. Yr oeddent yn nghrog ar bren melldig- CyfEOL XI. edig y groes fel yntau; eto yr oedd gwa- haniaeth annhraethol rhwng effaith mar- wolaeth y naill a rhinwedd angau y llall; a'r gwahaniaeth hyn yn codi yn benaf oddiwrth y ffaith fod eu cymeriadau mor dra gwahanol. Yr oedd bywyd diniwed yr lesu yn gwneyd ei angau yn aberth ac offrwm o arogl peraidd. Yn ngoleuni y groes yr ydym yn cael mantais i weled rhagoriaethau ei fywyd a godidogrwydd ei gymeriad. Coron ei fywyd oedd ei angau. Ni buasai ei hanes yn gyflawn oni bai iddo farw. Yr oedd ei fywyd, fel ei angau, yn aberth. Yr act olaf yn y drama oedd ei farwolaeth. Beth oedd ei fywyd? Onid rhyw fath o flwch o enaint gwerthfawr? Ac yn ei angau y torwyd y blwch hwn; ac hyd y dydä heddyw mae y blwch yn perarogli yn ein byd ni. Y ffaith hynotaf cysylltiedig â hanes rhyfedd yr Iesu yw, iddo farw mewn prjd dros yr annuwiol. Nid yw yn ymddangos mor fawr a gogoneddus yn ei fywyd ag ydyw yn ei farwolaeth, ao ar ol ei adgyfodiad. Canwriad wedi ei weled yn marw, yr hwn nid oedd yn can- fod ynddo ond dyn cyffredin yn flaenorol, a ddywedodd, " Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.'' Fe daflodd tywyllwch y groes oieuni tragywyddol ar ei gymeriad. Fe ddaeth ei anfeidrol fawredd i'r golwg drwy y ty wyllwch yma. Y datguddiad mwyaf gogoneddus o Dduw sjdd yn marwolaeth yr Iesu, gan mai yma mae wedi amlygu ei hun fwyaf; a gogoniant Duw ydyw datguddio ei hun. Mae holl drysorau ei ras yn cael eu har- ddangos drwy y groes. Yno y cyrhaedd- odd haul y cariad tragywyddol ei haner dydd; a chymaint oedd ei danbeidrwydd