Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyeees Njswîdd.] RHAGFYR, 1862. [Rhif. XII. föracfjjoòmt u djoljémfymh Y CYNGHOR A DRADDODWYD YN NGHYMDEITHASFA LLANBEDR. GAJJ Y PAECH. D. JONES, TEEBOBTH. Mewn amgylchiad fel hyn mae yn deil- wng galw i sylw gynghor yr apostol Paul i Tiinotheus—"G-wna waith efengylwr." Dyma air y cynghor wedi ei grynhoi i le bychan; ac y mae yn cymeryd i mewn y cyfan, fel nad oes eisiau ond ei ystyried a'i weithio allan. Oblegyd y mae gwaith efengylwr ynneillduedig; yn meddu holl gysegreiddrwydd swydd. Ië, y mae y swydd uchaf yn nheyrnas yr Arglwydd Iesu ar y ddaear; a rhaid fod pwys ei chyfrifoldeb yn gyfatebol; gan fod i bob braint ei dyledswyddau; a pho uchaf y dyrchafiad, mwyaf oll y rhwymedig- aethau. Mae yr ystyriaethau hyn yn cau allan ddigalondid a rhyfyg. Os ydyw ystyriaeth o'r fraint yn gweithio i fyny, y mae ystyriaeth o'r cyfrifoldeb yn gweithio i lawr i'r llwch. Os ydyw y naill yn cymhell i lawenhau, y mae y llall yn peri llawenhau mewn dychryn. Dylai dyn f wynhau pob dyrchafiad mewn ymdeimlad o'i gyfrifoldeb, gan ei ddefnyddio yn fantais i weithio mwy dros Iesu Grist. I allu gwneuthur gwaith efençylwr mae yn rhaid meithrin ysbryd y wasan- aeth; yn debyg fel y mae eisiau gwr- teithio y maes i gael cnwd. Wrth gj- meryd golwg ar wahanol orchwylion y bywyd hwn, yr ydym yn canfod nas gellir gwneuthur nemawr o unrhyw orchwyl heb ymroddi iddo; ac nis gellir ychwaith ymroddi i orchwyl heb gael raesur o hyfrydwch ynddo. Pan yr ydys yn cael difyrweh mewn gwaith, yr ydys jn ymroddi iddo; ac y mae llwyr ym- roddiad iddo yn sicrhau cynydd. Nid hawdd yw mesur gallu y meddwl dynol pan y mae yn parhau i roddi ei holl ym- adferfchoedd i weithio yn yr un cyfeiriad. Tuag at iddo allu gwneuthur hyn rhaid ei fod ju ysbryd y gwaith. ìíid oes neb yn dyfod yn mlaen mewn dysgeidiaeth heb feddu ysbryd dysgu; ac nis gellir gwneuthur fawr o farddoni heb fod yn ysbryd y gwaith hwnw. Yr un modd y gellir dywedyd am waith efengylwr; nis gellir gwneuthur nemawr o hono heb fod yn ei ysbryd. Er meddu gwybodaeth helaeth, ac ymadrodd hyawdl, nis gallant wasanaethu yn lle ysbryd y gwaith. Pan y mae -dyn yn cael ei lenwi ag ysbryd unrhyw waith, mae yn Uwyddo ac yn rhagori; ac yn raddol daw uwchlaw iddo ei hun. Gwnaeth yr hen bregethwr, Dafydd Cadwaladr, farwnad ragorol i Mr. Charles o'r Bala. Am ei fod yn teimlo yn fywiog oddiwrth ei destun, aeth o dan ei ysbrydoliaeth, a chyfan- soddodd f arwnad uwchlaw iddo ei hun. Wrth i efengylwr goleddu ysbryd ei waith, mae yntau hefyd yn sicr o lwyddo ac o ragori; i'e, daw yn mlaen o dan ysbryd- oliaeth ei waith pwysig i weithio uwch- law iddo ei hun. Daw ei gynydd yn eglur i bawb, fel ag y bydd ei adnabydd- ion yn dywedyd wrth. eu gilydd am dano, "Onid ydyw hwn a hwn yn cynyddu yn rhyfeddol? nid yw yn debyg yr un dyn ag oedd flynyddau yn ol." Bhaid i an- sawdd ysbryd efengylwr gael gweithio ei hun allan yn gyhoeddus. Nis gellir ei gadw dan lestr; rhaid iddo gael bod mewn canwyllbren. Mae pob bywyd a'r sydd yn adnabyddus i ni yn ffurfio iddo ei hun gorph yn ol ei ryw. Bhaid i ysbryd pregethwr gael ffurfìo iddo gorph yn ol ei ryw. Os dilafur a balch fydd yr ysbryd, ffurfia iddo gorph yn ol ei ryw; ac os gostyngedig a llafurus fydd yr ysbryd, ffurfia yntau iddo ei hun gorph yn ol ei ryw. Cymerwn olwg ar y darluniad dwyfol o ysbryd yr efengyl, ac o ysbryd ei gweáa^