Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfres Newidd.] TACHWEDD, 1862. [Rhif. XI. CractjÄttt a^nljcbiattljìut. CEIST YN WAREDWR ODDIWRTH BECHOD. "A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Iesu: oblegyd efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau," Mat. i. 21. GAN Y PARCH. D. C. DAYIES, M.A., LLUNDAIN. Fe lefarwyd y geiriau hyn wrth Joseph mewn breuddwyd. Pan y mae dyn yn eysgTi, y mae ei synwyrau dan glo, y mae ei feddyliau yn gymysglyd, y mae ei fod ;ni eu galw yn freuddwydion yn gyhoedd- i ad nad ydyw yn eu cyfrif yn deilwng o'r enw meddyliau. Ac yn gyffredin y mae ei freuddwydion yn llawer ffolach na ilim a feddyliodd am dano pan yn effro. Fe gyfrifid y dyn hwnw yn wallgof na feddyliai ac na ddywedai pan yn effro ddim uwch o ran synwyr nag y mae yn ei freuddwydio. Ac y mae meddyli.au y dyn gwanaf ei alluoedd yn annhraethol uwchlaw breuddwydion y callaf. Y mae dyn, yn ei gwsg, islaw iddo ei hun—ei hunan ydyw mewn gwawdlun. Fe ym- tìdangosodd angel yr Arglwydd i Joseph üiewn breuddwyd. Y casgliad angen- lìieidiol ydyw, i Joseph tra yn cysgu y tio hwn weled a theimlo a ehlywed. gwir- ioneddau uwch o ran natur na dim a íeddyliodd ef ei hun pan yn effro: yn gymaint uwch, ag yr oedd angel effro yn u,vch na Joseph effro. A mwy; yr unig l>eth a allasai brofi dwyfoldeb breuddwyd oedd mawredd a phwysigrwydd y gwir- ioneddau yr ymaüai meddwl y breudd- vydiwr ynddynt y pryd hwnw—eu bod tu hwnt i ddim y gallasai eu darganfod ]>an yn effro trwy nerth neu resymiad eu iryneddfau ei hun. Ac os dygwyddai i •loseph ar ol hyny amheu ai nid breudd- wyd oedd y cwbl, fe fyddai mawredd y ínvirioneddau a glywodd yn ei freuddwyd yn ddigon í'w argyhoeddi fod yr angel a lefarodd wrtho yn effro, pan yr oedd ef ei hun yn cysgu. Ond pa ffordd sydd genym i wybod pa rai oedd meddyliau «'oseph pan yn effro, gan nas gwyddom fnd mor Heied am dano? Ni allwn gymeryd yn ganiataol, heb berygl cyfeil- iorni Hawer, mai syniadau Joseph oedd syniadau y genedl Iuddewig yn gyffredin y pryd hwnw. Ac y mae syniadau y genedl y pryd hwnw am y Messiah yn wybyddus i ni trwy y Bibl, heb son am lyfrau eraill. Am hyny, gan mai angel ymddangosodd i Joseph mewn breuddwyd, yr oedd y geiriau a lefarodd wrtho yn cynwys gwirioneddau uwch o ran natur i'r syniadau yr oedd y genedl y pryd hwnw wedi eu ffurfio am y Crist yr oeddynt yn ei ddysgwyl. Ac yr oedd Joseph yn ei freuddwyd wedi ei godi yn uwch nag ef ei hun—yn uwch na'r genedl yr oedd yn perthyn iddi, yn gymaint ag y mae y nefoedd yn uwch na'r ddaear. Y cwestiwn cyntaf i'w ateb ydyw, Pa beth yn yr adnod hon oedd y gwírionedd newydd, y gwirionedd mawr, nad oedd raid i angel yr Arglwydd gywilyddio ym- ddangos mewn breuddwyd i Joseph er mwyn ei hysbysu. (1.) Nid y gwirionedd hwn oedd, mai Iesu a fyddai enw y Mab; oblegyd yr oedd angel cyn hyn wedi hysbysu i Mair mai Iesu a fyddai ei enw, Luci. 31. Ao nid oedd raid am angel i'w hysbysuyrail waith i Joseph.. (2.) Nid y gwirionedd hwn oedd y gwaredai,ybyddai yn waredwr; oblegyd ystyr y gair Iesu yw gwaredwr. A chan y byddid y pryd hwnw a chyn hyny yn rhoddi enwau ar blant, yn aml oddiar ddysgwyliadau eu rhieni o'r hyn a fyddent ac a wnaent, yr oedd Joseph pan yn clywed mai Iesu a fyddai ei enw, yn credu ac yn dysgwyl o angenrheidrwydd mai gwaredwr a fyddai, fel nad oedd angen ar Joseph am esboniad yr angel, "Oblegyd efe a wared."