Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfres Newîdd.] HYDREF, 1862. [Rhif. X. föttuábabm n (Bohéàwtihüu. "Y MODDION MWYAF EFFEITHIOL I ADFERYD DYLANWAD Y " WEINIDOGAETH," CEYNODEB O'R HYN A DRADDODWYD YN NaHYMDEITHASFA LLANBEDR, AWST 7FED. GAN Y PAECH. B. D. THOMAS, LLANDILO. Bod yn weinidog yr efengyl yw y swydd bwysicaf yn y byd. Swydd ydyw ag sydd yn cynnrychioli Mab Duw ar y 'i'laear. "Am hyny," meddai yr Apostol 3 'aul, " yr ydym ni yn genadau dros Grist, megys pe byddai Duw yn deisyf arnocn trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cyrnoder chwi â Duw," 2 Cor. v. 20. Ac ebai Iesu Grist ei hun, "Nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd; a myii sydd yn dyfod atat ti." l'r wyf fi yn rhoddi fy lle iddynt hwy; fte "fel yr anfonaist fi i'r byd, felly yr an- fonais inau hwythau i'r byd," Ioan xvii. 11, 18; ac i'r un dyben; hwynt-hwy a fyddant yn"dystioni mi yn Jerusalem, ac yn holl Judea, a Samaria, ac hyd eithaf J'ddaear." "Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt-hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny, a chwmwl a'i der- [jyniodd ef allan o'u golwg hwynt," Act. i. 8, 9. "A nyni ydym ei dýstion ef," Act. v. 32. Onid ydym yn sefyll mewn jle ofnadwy? lle Mab Duw, ac i ddyben- ion pwysig—i geisio ac i gadw yr hyn a ffollasid. Priodol yw gofyn, "Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" 2 Cor. ii. 16. I'r graddau ag y byddo y weinidogaeth yn eifeithiol er dyehwelyd pechaduriaid at Dduw, ac adeiladu ỳ saint ar y sant- eiddiaf ffydd, y mae yn ateb dyben eu hordeiniad. Y mae wedi ei phrofi felly íiloedd o weithiau, a hyny yn mhob oes, oddiar pan ei sefydlwyd hyd yn awr. Ond y galarnad presenol yw, nad ydyw mor nerthol a grymus ei dylanwad ag y Jm. Y cwyn yw, fod y weinidogaeth yn Uai effeithiol a'r pwlpud yn Uaidylanwad- ol ar y byd yn y dyddiau hyn nag oeddynt ••'n y dyddiau a aethant heibio. Os felly, y mae yn olwg sobr iawn—fod yr unig foddion^ydd wedi eu hordeinio er iach- awdwriaeth y byd yn llai effeithiol er cyrhaedd yr amcan. Ac onid oes gormod o brofion mai felly y mae, i raddau mawr, beth bynag. Onid oes rhyw farweidd- dra cyffredinol wedi meddianu yr eg- lwysi ? Argyhoeddiadau yn fasach—dy- chweliadau yn anamlach, a grym duw- ioldeb yn beth mwy annghyffredin. Hun- anolrwydd, hyfdra cnawdol, a balchder ysbryd yn cynyddu; a hen arferion dryg- ionus yn ymddangos yn adfeddianu eu tiriogaethau gynt mewn llawer ardal? Rhy wir, medd amryw o honoch. Beth a wnawn yn wyneb hyny ? Ofer ym- dawelu, gan ddywedyd mai amser felly ydyw ar hyn o bryd, ac mai felly y mae y Duw mawr yn ewyllysio iddi fod. Nid yw ef yn ymhofíì yn marwolaeth yr an- nuwiol, ond dychwelyd ohono a byw, Ezec. xviü. 23,32. Gwir yw, pa le bynag y^ mae felly, mai yr achos nniongyrolwl o hyny yw, fod dylanwadau achubol a sant- eiddiol yr Ysbryd Glân yn cael eu hatal. Ond ai yr achos o fod, y dylanwadau dwyfol yn cael eu hatal, yw fod Duw yn ewyllysio iddi fod felly? Ai nid rhyw ddiffyg ynom ni sydd yn ymarferyd â'r moddion, pa rai y mae Duw y nefoedd wedi ordeinio i'w Ysbryd weithredu trwy- ddynt, yw yr achos o hyn ? Pwy wrth farw fydd yn beio ar "Ssbryd Duw am beidio ei ddychwelyd, ei santeiddio, a'i wneuthur yn f wy def nyddiol gyda'r achos? Onid beio eu hunain y bydd pawb y pryd hwnw ? Yn awr, fy mrodyr anwyl, gyda'rgwyl- eidd-dra sydd yn gweddu i mi fel yr an- nheilyngaf o honoch, gadewch i mi ofyn i chwi am ddyfod gyda mi am ychydig i edrych beth a ellir wneyd er adferu a