Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Cyfres Newîdb.] MEDI, 1862. [Rhif. IX. (Lracíljobaat n Ûa^émú^wx, PRYNU ODDIWRTH FELLDITH Y DDEDDF. ' Crist a'n lrwyr brynodd oddiwrth felldith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom."—Gal. iü. 13. GAST Y DIWEDDAB, BABCH. T. BICHARDS, ABEBGWAEN. MAE y geiriau gogonecldus hyn yn gryn- odeb byr, cynwysfawr o drefn gras y nef- oedd, i fod yn iachawdwriaeth i fyd coll- cdig trwy y brynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu. Mae y "gwneuthur" a nodir yn- ddynt yn dangos arfaeth a chyfamod gras y Duw tragywyddol. Mae y "trosom" a nodir ynddynt yn dangos meichniaeth. Mae "gwneyd yn felldith" yn dangos haeddedigaeth pechod, a chospedigaeth ddyledus am dano. Mae "llwyr brynu" yn dangos prynedigaeth a gwaredigaeth —llwyr brynu a llwyr waredu. Goruch- wyliaeth lwyr oedd prynedigaeth Crist: talu, gwaredu, rhyddhau, a chyfoethogi, sydd oll trwy y brynedigaeth sydd yn Nghrist. Yr athrawiaeth a ddengys y geiríau yw trefn y nefoedd i gyfiawnhau troseddwyr ei ddeddf. Canys ni chyfiawnheir neb trwy y ddeddf ger bron Duw eglur yw; gan hyny "pa fodd y cyfìawnheir dyn ger bron Duw?" sydd ofyniad priodol iawn. Mae y testun yn ateb yn eglur. Er na chyfiawnheir neb trwy y ddeddf, hyny yw, trwy weithredoedd y ddeddf, eto 'trwy ffydd yn Nghrist, "yr hwn a wnaethpwyd dan y ddeddf, f el y prynai y rhai oedd dan y ddeddf," y derbynir y cyûawnder sydd yn Nghrist, sef y cyf- iawnder sydd o Dduw trwy ffydd. Fel hyn y mae gwneyd yn gyfiawn i gael bywyd, ac i'r bywyd hwnw i fyw wedi ei gael. " Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd." Dyma y drefn i gyfiawnhau troseddwyr y ddeddf, nas gellir eu cyfiawnhau trwyddi, 3*r hyn yw yr anrhydedd mwyaf iddi. Fe ddangosir yn y geiriau rhyfedd hyn—I. Gwrthddrychau prynedigaeth. II. Trefn y brynedigaeth. III. Natur.a chynwysiad y brynedigaeth. I. Y gwrthddrychau a brynwyd: rhai oedd o dan felldith y ddeddf. 1. Y ddeddf. Pa beth yw y ddeddf ? Pa ddeddf yw hon ? Deddf Duw i ddyn, deddf Creawdwr i'w greadur. Creu oedd bodoli. Deddf i'r holl greadigaeth yw trefn, harddwch, a defnydd y cwbl a grewyd. Creu heb ddeddf i'r greadigaeth fyddai creadigaeth heb drefn, defnydd, na dyben. Yn y ddeddf a roddwyd i bob peth yn y greadigaeth mae eu trefn, eu defn^-dd, a'u dyben yn cael eu dangoa. Felly y dengys deddf y gwlaw, deddf y môr, y gwynt ystormus, rhew ac eira, mellt a tharanau, dydd a nos, haf a gauaf, ehediaid ac ymlusgiaid, bwystfilod ac ani- feiliaid. Mae deddfau y greadigaeth yn gymaint o ddangosiad y Creawdwr a gwneuthuriad y greadigaeth. Mae gallu a Duwdod mor amlwg yn neddfau y greadigaeth ag yn hanfodau y gread- igaeth. Megys nas gallasai neb fod yn Greawdwr ond yr Hollalluog, nis gallasai neb ychwaith f od yn Rheolwr ond yr un. Rheoleiddiad y greadigaeth yw ei deddf- au; canys y maent yn gymhwys at natur, a phriodol yn ol natur y gwrthddrychau yrhoddir y ddeddf iddynt, a "bydded" bywyd y greadigaeth, a "bydded" def- nydd y greadigaeth; ac yn y bydded hwnw y mae y cwbl yn sefyll heddyw. "Trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a'r ddaear yn cyd-cefyll o'r dwfr a thrwy y dwfr," 2 Pedr iii. 5. Ehoddwyd deddf hefyd i ddyn yn ei natur, a hefyd cymhwys i'w natur, helaethach a gogon- eddusach na hollddeddfau y greadigaeth, canys yr oedd yn greadur helaethach na phob creadur yn y greadigaeth isod; am hyny yn un cymhwys i roddi delw Duw arno. Yr oedd y ddeddf roddodd