Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyeees Newydd.] AWST, 1862, [RHIF. VIII. Cntcitòait a (bobdbiacfbair, Y PECHOD O FEDDWDOD A DIOTA. " Ond os dywed y gwas drwg hwnw ya ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechreu curo ei gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon; arglwydd y gwas hwnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn dysgwyl ani dano, ac mewn íiwr nis gŵyr efe ; ac efe a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda'r rliagrithwyr. Yno y hydd wylofain a rhincian danedd." GAN Y PAECH. E. THOMAS, LLANSAMLET, Y mae Iesti Grist yii y benod hon yn galw sylw ei ddysgyblion y pryd hwnw, â'i ganlynwyr trwy yr holl oesau, at sierwydd a sydynrn-ydd ei ddyfodiad i ddinystrio Jerusalem ac i f arnu y byd. Y mae yn galw eu sylw at sicrwydd ei ddyfodiad yn y geiriau canlynol:—"Nef a daear a ánt heibio; eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim." Ac y mae yn eu cyfeirio at sydynrwydd ei ddj'fodiad trwy y gydmariaeth a ganlyn:—"Oblegydfel y daw y fellten o'r dwyrain, ac y tywyna tyd y gorllewin, felly hefyd y bydd dyfod- iad Mab y dyn." Yna y mae yn darlunio agwedd y byd pan ddelai. "Ac fel yr oedd yn nyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. Oblegyd fel yr oeddynt yn y dyddiau yn mlaen y diluw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch, ac ni wybuont hyd oni ddaeth y diluw, a'ucymeryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn." Am hyny y mae yn cynghori ei ganlynwyr i fod yn wyliadwrus, fel meistr yn gwylio ei dŷ rhag lleidr, neu weision ffyddlon, care'dig, a tìnrion, i holl dylwyth y tý, fel na byddai na ffwdan na chywilydd nac euogrwydd pan ddelai. Y mae yn siarad â'i ganlynwyr, nid y cwbl yn un fintai, ond bob yn un ac yn un; nid yn y rhif lluosog, ond yn y rhif unigol—"y gwas hwnw." Y mae Iesu Grist a chymaint o sylw ar bob un a phe na bai neb ond un dyn yn yr holl fyd. Y mae yn dyogelu a phorthi pob un mor f anwl a gof alus a phe byddai dim ond un ar wyneb yr holl ddaear. Ac felly y mae ei wybodaeth mor drylwyr, a'i sylw mor neülduol o actau a gweithrediadau pob un yn ber- sonol, fel pe na bai yn cymeryd hamdden i feddwl nac i sylwi ar neb na dirn ond ar yr un hwnw. Y mae yn dangos agwedd calon a bywyd y gwas drwg. Mae hwn yn dyweyd fod ei arglwydd yn oedi dyfod; nid yw yn dyweyd ei fod wedi penderfynu peidio a dyfod;"na, ni allasai ei gydwybod gan- iatau cymaint a hyny o ryddid iddo. Y mae pechod yn twyllo, ac yn twyllo yn raddol—o ris i ris, o fesur ychydig ac ychydig. Y mae fy arglwydd, mae yn wir, yn dyfod, ond draw, draw, yn rnhell, pell y mae. Mae genyf ddigon o amser yn ol eto; mi allaf gymeryd fy myd ju ddifyr; mi allaf yfed, diota, ac eistedd gyda y nieddwon; y mae digon o amser wed'yn i ymbarotoi erbyn ei ddyfodiad. Ond nid oedd yn dywedyd hyn â'i dafod, ond yn ci galon; nid oedd hyn chwaith yn gredo sefydlog ei galon. Yr oedd yn gobeithio, ac yn dymuno, ac yn rhyw haner gredu na ddeuai yn fuan; a da fyddai ganddo os na ddeuai byth. Fel hyn yr oedd yn ymwenieithio iddo ei hun. Efallai nad oedd yn feddwyn amlwg a chyhoeddus, ond yr oedd yn myned i gyfeillach y meddwon—yn cydyfed â'r meddwon, yn clebran, ac yn ymddigrifu gyda y meddwon, ac yn hoffi y diodydd oedd y meddwon yn hoffi. Neu, fel y mae Luc yn geirio, "Eithr os dywed y gwas hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwyta ac yfed, a meddwi," &c. Efallai fod Luc yn dyweyd ei fod yn meddwi am ei fod mor llawen yn eu cyfeillach, ac yn cyd^ ymfoddloni â'r rhai oedd yn meddwi; fel y mae Paul yn tystio am bethau cyfîelyb;