Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfres Newîdd.] GORPHENAF, 1862. [Rhif. VII. &tKÚlẁm r (Stfbdbrattlratf, GWAEEDIGAETH YR ENAID RHAG ANGATJ. GAN Y PAECH. T. JOB, LLANDDAEOG. 0 bob cyfeiliornad, cyfeiliornad enaid yw y mwyaf peryglus. Os bydd yr enaid, y meddwl, y galon, heb fod yn iawn, mae y cwbl allan o le, yn berwydd mai o helaetbrwydd y galon y mae y genau yn llefaru, yr aelod.au yn ysgogi, y dyn yn gweithredu, yn mhob peth, a chyda phob peth; a chan nad pa le ar y ddaear y gwelir dyn yncyfeiliorni bob amser yn ei weithredoedd allanol, fe ellir penderfynu fod y meddwl yn ddrwg, a'r enaid yn llygredig; oblegyd y peth sydd yncaely flaenoriaeth yn y meddwl sydd yn debyg o enill y fiaenafiaeth yn y weithred; ac mae yn anmhosibl i ddiwygiad gwirion- eddol gymeryd lle yn y gweithredoedd allanol, heb i'r meddwl gael ei ddiwygio a'i weUa ya gyntaf, a hyny mewn natur yn gystal a gras. Y mae rhagoriaeth a gwelliant yr oes hon, mewn ystyr gelf- yddydol ar yr oesoedd sydd wedi myned heibio o'r byd, i'w briodoli yn unig i'r ymdrech mawr sydd yn cymeryd lle yr oes yma i wella y meddwl dynol trwy ei wrteithio a'i ddysguiddeall egwyddorion natur a'i deddfau. Pa fwyaf fyddo y meddwl yn treiddio i fewn i ddirgeledig- aethau anian, mewn trefn i gael allan ddarganfyddiadau newyddion, mwyaf i gyd y mae celfyddyd yn myned rhag ei blaen. Y mae diwygiad celfyddydol fel yma bob amser i'w briodoli i welliant meddyliol, yn gymajnt ag mai gwybod- aeth a dysg sydd yn gwella y meddwl, ac yn eangu y deall mewn ystyr naturiol. Pelly yn hollol gwybodaeth am Dduw, yn nghyda datguddiad o ogoniant trefn gras trwy yr efengyl, sydd yn gwella y meddwl mewn ystyr ysbrydoL Ymarferiad ag ordinhadau crefydd ac â gair y bywyd, trwy ddylanwad yr Ysbryd Glan, yw yr arfau mewn gwirionedd: "Md ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr," a chaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist, i oleuo y deall a chy- weirio y syniadau gyda golwg ar bethau ysbrydol a thragywyddol, a thrwy hyny "gadw yr enaid rhag angan," Iago v. 20. " Fy mrodyr (meddai yr apostol yn yr adnod flaenorol i'r adnod hon), od aeth neb o honoch ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef." An- nghydffurfiad â'r gwirionedd sydd gyf- eiliornad; ac i'r graddau y byddo dyn yn annghydffurfio â'r gwirionedd, i'r graddau hyny y mae yn dyfnhau ac yn dyrysu yn ei gyfeiliornad. "Ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw un ef " trwy ddylanwadu ar ei feddwl, ac enill ei sylw at reolau uniondeb a rhinwedd, fe wnaeth hwn yma weithred fythgofiadwy ; gan hyny," Gwybydded y bydd i'r hwn a drodd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd gadw enaid rhag angau, a chuddio lluawa o bechodau.'' Dyna weithred fendigedig— icuddio y pechod a chadw yr enaid; cuddio y gwarth, a chadw y gwerth. Y gwarth yw y pechod, ac mae trefn gan yr efengyl i'w guddio; a'r gwerth yw yr enaid, ac mae yma drefn i'w gadw. "Cadw enaid rhag angau." Yronaid, a'i gadwedigaeth rhag angau, fydd dan ein sylw yn bresenol. Mae bodolaeth yr enaid yn athrawiaeth ag sydd wedi ei dysgu, ei chyf addef, a'i ehredu gan athronwyr paganaidd yn gystal a chan Gristionogion. Y mae awydd am fythol fodolaeth a thragwyddol dded- wyddwch yn gydweuedig â phob meddwl rhesymol; y barbariaid gwylltion ac an- waraidd yn gystal a rhai sydd wedi eu gwareiddio gan ras a gwybodaeth; fel mae yn ymddangos fod yn anmhosibl i greadur rhesymol gofieidio y drychfeddwl o ddihanfodiaeth gydag unrhyw orfoledd a chysur, yr hyn sydd biawf diymwad nid yn unig o fodolaeth yr enaid, ond hefyd o'i anfarwoldeb. Nid oes dim a fyno dyn â meddwl am syrthio i ddy? ddimdra. Y mae yr enaid yn rhjV