Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyeres Newtdd.] MEHEFIN, 1862. [Rhif. VI. Crattíŵau % (bohhmäb'âu. Y DYODDEFGAR 0 YSBRYD A'R BALCH 0 YSBRYD. "Gwell yw diweddiad i^eth na'i ddechreuad : gwell yw y dyoddefgar o ysbryd na'r balch o ysbryd."—Pregethwe vii. 8. GAN Y DIWEDDAR BARCH. E. MORGAN, CAERDYDD. Sonir yma am ddau ysbryd, y naill yn rhagori ar y llall. Yr hyn a olygir yw, syniadau gwahanol yn gweithredu y naill mewn ymostyngiad ger bron Duw, a'r Uall mewn ymddyrchafiad pechadurus yn ei erbyn. Wrth ddyoddefgarwch y meddylir teimlad neu agweddiad y meddwl sydd yn tarddu o ostyngeiddrwydd y galon,— gostyngeiddrwydd a wna dyn yn deimlad- wy o'i ymddjrbyniaeth ar Dduw, fel na all oddef i un rinwedd ddynol fod yn fantell rhyngddo a'r Arglwydd. Eff aith gostyng- eiddrwydd yw cydnabyddiaeth yr enaid o'i wendidau, ac effaith dyoddefgarwch yw, iddo gyd-ddwyn â gwendidau eraill. Yn hyn y mae yn rhagori ar y balch o ysbryd; y mae gan hwnw lygad craff i ganfod diffygion eraill, pan y mae yn ddall i'w feiau ei hun. Gwell yw y dy- oddefgar o ysbryd na'r balch o ysbryd, am fod y blaenaf yn arwain i ddyrchafìad, a'r olaf i ddinystr. Uchder ysbryd oedd yr arwyddion o fiaen cwymp yr angylion, Diar. xvi. 18. Nid oedd y nefoedd ei hunan ond pen ffordd i ddinystr i'r ysbryd oedd yn teymasu arnynt hwy ; ond wele Fab Duw yn rhodio iselderau y ddaear yn batrwn addfwwnder— cafodd afael yn nhroed y greadigaeth yn ben ffordd i gyr- haedd gorseddfainc Duw. Os darllenir y testun mewn cysylltiad â'r adnod flaenorol, gellir edrych amo yn rheswm dros feithrin tawelwch meddwl o dan drais a gormes. '' Yn ddiau trawrsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddyfetha y galon." Ẁaill ai trawsedd trwy weithred annghyfiawn a wna y doeth yn ynfyd, neu y doeth, trwy arfer trawsedd neu an- nghyfiawnder tuag ato, a yrir i ynfyd- rwydd ; yna cynghorir y gorthrymedig i fod yn dawel, a'r rheswm yw, mai gwell yw diweddiad peth na'i ddechreuad. Cy- mered arafwch, a chaiff wreled mai gwell yw diweddiad peth na'i ddechreuad. Yr hwn a arfero drais fydd y colledwr mwyaf yn y diwedd; am hyny gwell yw y dy- oddefgar o ysbryd na'r Dalch o ysbryd. Ond gan nas gellir penderfynu cysyllt- iad yr ymadroddion, ni gymerwn synwryr cyffredin y gair—rhagoriaeth dyoddefgar- wch ar f alchder ysbryd. Gellir edrych ar falchder yn wahanol i bechodau eraill yn helaethrwydd ei yiner- odraeth. Pechodau y byd hwn yw Uawrer; yma y mae eu dechreuad a'u diweddiad.- Pechodau corphorol, megys meddwdod, &c.—yma jn unig y gellir eu cyíiawni; na welir ond eu cospedigaeth yn uffern, tu allan i gyfiiniau y byd hwn. Ond balchder, pechod yr ysbryd yn benaf yw hwrn; fe fedr wêithredu heb gorph nac aelodau. Gosododd ei orsedd i fyny mewn bod oedd yn sylwedd ysbrydol ar ei darawiad cyntafallan ; o'r fan hono goll- yngodd ei saeth gyntaf at orseddfainc Duw; ac fe'i gwelwyd mewn man na fedrai pechodau eraill hanfodi am daraw- iad. Yr ydym yn darllen am ddrygau ysbrydol yn y nefolion leoedd, Eph. tì. 12. Y nefolion leoedd y^v maes y frwydr, ac nid yw balchder fel blaenor y gâd byth yn ei elfen gymaint ag yn y cyfryw fanau; a dim ond olrhain hanes yr eglwys yn ei hadfeiliadau, yn ei hymraniadau, ac yn ei chyfeiliornadau, o ddyddiau yr apostolion i lawr, fe welir mai balchder ysbryd yw y prif olwyn yn y peiriant. Yr oedd yr apostol yn rhagweled effeithiau yr ysbryd hwn wrth anerch yr eglwjrsi. " Eithr bu gau brophwydi hefyd yn mhlith y bobl, megys ag y bydd gau athrawon yn eicií plith chwithàu, y rhai yn ddirgel a àdjg