Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfres Newydd.] MAT, 1862. [Rhif. V. f&Xtafyoòmx n (&al$Mixúhwx* 'DYN YN NGHEIST." GAN Y PARCH. THOS. JOHN, PENCLAWDD. Fe arferîr y frawddeg hon yn yr ysgryth- yrau er dynodi y sefyllfa gadwodig yn y byd liwn; nid yn y nefoeää,—" gyda Christ" y gelwir hyny. Bid sicr, hawdd i ni weled mai ymad- rodd cymhariaethol—figure—ydyw. Yn llewyrch y gymhariaeth gallwn weled amrywiol bethau perthynol i'r< sefyllfa hon. Y MAE YN SEFl'LLFA DDYOGEL. Dyn yn Nghrist. Od yw Crist yn ddyogel, y mae y dyn sydd ynddo yn ddyogel; gan fod y breswylfa yn ddyogel, y mae y preswylydd yn ddyogel hefyd. Noah yn yr arch, y mae yn dd}rogel; agored ffenestri y nefoedd, rhwyged ffynonau y dyfnder mawr, a gorchuddied y dyfroedd arwyneb y mynyddoedd uehaf,—-dirn gwa- haniaeth, y mae Noah " Yn burlan yn ei barlwr, Heb ofni na defni na dwr." Y mae Duw wedi " cau" arno—y mae yn yr arch—y mae yn ddyogel. Y llofrudd anfwriadol yn y noddfa; y mae yn ddyogel. Fe'lly hefyd " dyn yn Nghrist," y mae yntau yn ddyogel. Nid dyogel rhag pob peth. Na; "aml ddrygau a gaiff y cyfìawn." "Yn y byd gorthrym- der a gewch," &c. Ond eto dyogel rhag pob peth sydd â gwir niwed ynddo. "JSTis gall croes, na gwae, na cliystudd Wneuthur niwed iddynt hwy." Y mae " pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw." Ydyw, y mae gwreiddyn pob drwg—pob niwed— wedieisymud; ymaeeifywydyn ddyogel am dragywyddoldeb—"dim damnedig- aeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu." Y MAE YN SEFYLLFA SYDD YN FFUEFIO UNDEB AGOS HHWNGr Y COLLEDIG- A'E Ceidwad. Dyn yn Nghrist. Cluda y frawddeg i m feddylddrych am yr tui- deb agosaf. Materol o angenrheidrwydd yw meddylddrychau penaf, ^mwyaf ys- brydol dyn, tra yn y "daearbl dỳ;" a'r 'tdea oreu am agosni'ydd a fedda, ond odid, yw fod y naill yn y llall. Wel, dyn yn Nghrist jrw y cadwedig. Y mae undeb hynod agos yn cael eì íf urfio rhyngddynt. Pa mor agos, pwy a anturia ddyweyd ? Gormod gorchwyl, onide, i "bin ysgrifen- ydd buan ?" A phe y lleferid â thafodau dynion ac angylion, digon tebyg mai gormod gorchwyl fyddai rhoddi atebiad cyfiawn i'n gofyniad. Ond os na fedrwn fesur yr eang fôr, gadewch i ni sefyll rhyw dipyn ar ei lan. Os na fedrwn blymio hyd waelodion yr eigion mawr, gadewch i ni hwylio ein owch am ryw yehydig ar hyd ei arwyneb, ac edrych ryw dipyn i lawr iddo. Y berthpias agos sydd rhwng Orist a'r Cristion ar y ddaear. Ymae y naill yn cael ei dramsffurfio i ddslw y ìlall. Hynod o. annhebyg yw y ddwy 'ddelw ar y cyntaf; ond o radd i radd y mae yr annhebygrwydd yn lleihau, a'r te'bygrwydd, bid sicr, yn mwyhau. Y mae y pethau hyny sydd yn nelw y cadw- edig nad ydynt yn nelw y Ceidwad o fesur ychydig ac ychydig yn myned i golli, a'r pethau hyny sydd yn nelw y Ceidwad, nad ydynt yn nelw y cadwedig, y maent hwythau o radd i radd yn cael eu cludo i'w ddelw; a phan y gorphener yr oruch- wyliaeth, fe fydd y ddwy ddelw yn "un- rhyw ddelw"—wedi ei wneyd yr "ud, ffurf a delw ei Fab ef." Y gorchwyl wedi ei berffeithio, " o ogoniant i ogoniant, gan yr Arglwydd—yr Ysbryd," trwy fod y Cristion "yn edrych ar ogoniant yr Ar- glwydd" (Crist). Ond eto. Ystyrui y naìll ymddygiadau pob un tvag at y llall yn ymddygiadau tuag ato ef'ei hwian. Y mae hyn yn wir odúyCristion. "Dy gaseiondi * * *