Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGEAWN. Cyfres Newydd.] EBRILL, 1862. [Rhif. IV. Cracftrjìniit a 60Íj£biacfíjiut. CYFLAWNDER CRIST YN CYFLAWNI Y CREDADYN. "Oblegyd ynddo ef ymae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol. Ac yr ydych cli'wi wedi eich cyflawni yuddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod."— Colossiaid ii. 9, 10. GAN Y PAKCH. J. DAYIES, LLANDYSUL. Llefabwyd y ddegfed adnod, y mae yn debyg, mewn gwrth-gyferbyniad i'r wyth- fed adnod o'r benod hon. "Edrychwch," medd yr apostol, "na bo neb yn eich an- rheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ol traddodiad dynion, yn ol egwydd- orion y byd, ac nid yn ol Crist." Y philo- sophi y cyfeirir ati yn fwyaf neillduol yn yr adnod hon, ydoedd eiddo yr Iuddewon ar y pryd. Dywedir fod yr Iuddewon, yr amser yrysgrifenodd Paul yr epistol hwn, yn cymysgu athroniaeth baganaidd a thraddodiadau Iuddewaidd â'u gilydd, fel nad oedd eu holl ddysgeidiaeth ddim ond gwag dwyll o'r dechreu i'r diwedd. Un ochr, megys, i wirionedd, fedrent hwy osod allan. Yr ochr anianol yn unig i wirioneddau allasent hwy ddangos i'w dysgyblion. Nid oedd eu hathroniaeth hwy yn ol Crist, yr Irwn yn unig yw sylfaen cymeradwyaeth dyn ger bron Duw; ac felly yr unig gymeradwyaeth iawn i ddyn ger ei fron ef ei hun hefyd. Rhaid i bob athroniaeth, y mae yn debyg, a ddeil bob goleuni, ddechreu a diweddu yn Nghrist, yn yr hwn y mae holl gyf- lawoider y Duwdod yn preswylio. Ar- wydd o Dduw oedd ganddynt dan yr hen oruchwyliaeth—cysgodau oedd yno. Ar- wyddion o briodoliaethau Duw oedd yn cael eu gosod allan yno. Ac y mae yn debyg mai yr arwyddion hyn yn unig oedä y gau athrawon Iuddewig yn eu dangos. Nid oeddent hwy yn myned trwy yr arwyddion a'r cysgodau at y syl- weddau a ddangosent; nid oeddent yn myned trwy yr anianol at yr ysbrydol a gysgodasid gan yr arwyddion hyn ; na, nid oeddent yn myned yn mhellach na thraddodiad dynion ac egwyddorion y byd jn eu Ond ni wna arwydd o Dduw y tro i ddyn; cysgodau heb y Sylwedd mawr, gwag dwyll ydynt. Eithr y mae sylwedd trugaredd yn Nghrist—y mae gwirionedd cyiiawnder ynddo ef; mewn gair, y mae holl gyflawnder y Duwdod ynddo ef yn preswrylio—mae y cyflawnder yma gartref ynddo ef. Y mae holl gyflawnder y Duw- dod yn preswylio yn gorphorol yn Nghrist yn awr hefyd ; neu, fel Cyfryngwr pres- wyliasai holl gyflawnder y Duwdod yn Iesu Grist fel Gair, heb ei wneuthur yn gnawd erioed; ond presw^ylia ynddo yn awr fel G-air wedi ei wneuthur yn gnawd, a thabernaclu yn ein plith ni. 'Ac yr ydych chwi," medd yr apostol, "wedi eich cyflawni ynddo ef;" neu, Yr ydych wedi eich llanw ynddo ef—yr ydych wedi eich. llanw i fyny ynddo ef, fel nad oes arnoch. angen am, na Ue i'r hyn mae y gau athr- awron yna yn ei gynyg i chwi; y mae digon ynddo ef i'ch llanw i fyny am byth. Y mater a gymerwn oddiwrth y ddwy adnod a roddwyd uwch ben y sylwadau hyn ydyw—Fod y cyflawnder sydd yn Iesu Grist yn ddigonol i wneyd yr enaid sydd ynddo yn gytìawn tragwyddol, oble- gyd fod holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol yn Nghrist. Y mae yn eglur fod coron wredi bod ar ben dyn ryw bryd; ac os crefflr, gwelir fod ei hol yno yn bresenol. Ond y mae mor amlwg, ar y llaw arall, ei bod wedi syrthio oddiar ei ben erbyn heddyw; a gwae dyn yn awr oblegyd bechu o hono yn erbyn Duw. Ac un prawf o'r wae yma mewn cysylltiad â dyn ydyw, y mae pechod wedi gwneuthur ei enaid ef yrt wag, o herwydd taflodd Dduw allan oddi- yno ; a'r foment yr aeth Duw allan, nid oedd ond gwagedd truenus a marwol i