Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfees Newydd.] MAWIITH, 1862. [Rhif. III. Craetjpta a fàoỳiMmifym* ATTTNIAD CROES CRIST. "A minau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dynaf bawb ataf fy hun."—Ioan xii. 32. Mae sylfaenwr pob cyfundrefn yn gosod egwyddor neu egwyddorion i lawr yn y cychwyn, ag sydd yn gwau trwy yr holl gyfundrefn i gyd. Mae tynged y gyfundrefn yn dibynu, i faddau helaeth, ar graffder a medrusrwydd y sylfaenwr yn gosod egwyddorion i lawr a fyddo yn ateb i archwaeth y genedl neu y cenedl- oedd i ba rai y byddo yn ei chynyg. An- aml hefyd, os byth, y sylf aenir cyf undrefn heb gysylltu addewidion âhi; oblegyd un o'r pethau cyntaf mae dyn yn edrych iddo yw y canlyniad—pa beth mae yn debyg o gael arni ei drafferth; ac mae dynion cyflym eu deall, a chraffus eu llygaid, yn gwybod mor dda am y duedd hon, nes y maent yn gofalu fod y rhwyd yn ateb Uiw y dwfr, fel y dywedir. Mae y ddau beth hyn i'w gwelea yn amlwg yn ngor- uchwyliaeth yr Hen Destament. Mae yr egwyadorion a osodwyd i lawr yn y cychwyn yn gwau trwy yr holl gyfundrefn i gyd; ac mae yn anmhosibl syllu mynyd arni heb ddyfod i gysylltiad ag addewid- ion. Dyna un o'r pethau blaenaf wnai godi awydd yn y bobl i ymadael â'r Aipht —yr Arglwydd yn addaw eu dwyn i wlad oedd yn llif eirio o laeth a mel—i wlad Ue ycaentfwynhaupobrhyddid, aphreswylio ynddi yn nghanol pob tawelwch. Cyf ar- fyddir â'r unrhyw egwyddorion yn nghy- chwyniad y grefydd Fahometanaidd. Md oes dim newydd yn hon ond a osodwyd i lawr gan ei sylfaenwr yn y cychwyn. Gofalodd Mahomet hefyd gysylltu llawer o addewidion â'i grefydd, er mwyn codi yr Arabiaid i'w gefnogi; ac addewidiono bethau ag oedd yn hollol gydweddol â'u tueddiadau llygredig hwy. Pe byddai y mwyniant pechadurus, pleserau cnawdol, y rhai sydd yn gosod dyn yn yr un sefyllfa a'r anifail—pe byddai y rhai hyn yn cael eu symud ymaith o'u crefydd, elai yn chwüfriw mewn ychydig amser, Mae yr un peth i'w weled yn y gyfun- drefn G-ristionogol. Cyf arfyddir â'i phrif egwyddorion yn y bregeth ar y mynydd; ac mae yn gyfíawn o addewidion drwyddi oll. Yr ydym yn cael ein tueddu i feddwl fod y geiriau hyn yn fwy o addewid nag o ddim arall, er dangos cysylltiad ei farw ef â'r byd mewn amser dyfodol. " Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear a marw," medd efe, " hwnw a erys yn unig; eithr os bydd ef e marw, ef e a ddwg ffrwyth lawer." " Felly minau os byddaf farw, os gosodir fi i farwolaeth, fe ddaw ffrwyth lawer o hyny; mi dynaf bawb ataf fy hun." Pan dalodd satan ei ymweliad cyntaf â'n byd ni, penderf ynodd godi cof-golof nau iddo ei hun, fel na byddai i'w ymweliad fyned yn annghof, a bu yn dra llwydd- ianus yn ei ymdrech. Adeiladodd hwy yn gadarnach na phyramidau yr Aipht. Cafodd gyfleusdra i gymdeithasu â'r trig- olion, ac effeithiodd ei gymdeithas gy- maint arnynt, nes y daethant i'r un ysbryd ag ef ei hun. Hauodd hadau llyg- redigaeth o'u mewn, cynhyrfodd ysbryd gwrthryfel yn eu caíon yn erbyn eu cýf- iawn Frenin, cyhoeddodd ei hun yn ben- aeth, daeth yn dywysog y byd hwn. Oddiar yr adeg hyn, pan hauwyd hadau llygred- igaeth yn eu calon, mae y byd yn myned oddiwrth Dduw—yn cefnu arno, yn ym- bellhau oddiwrtho, ac yn myned yn fwy annhebyg iddo. Bilun-addoliaeth yn cael ei sefydlu; dynion gawsant eu creu ar ddelw Duw yn syrthio o flaen, ac yn ym- grymu ger bron, pethau islaw iddynt eu hunain mewn graddfa bodolaeth. Pe edrychem i hanes yr Aipht, Assyria, Groeg, a Rhufain, gellid gweled fod dyn- ion yn myned o ddrwg i waeth—yn fwy eofn a digywilydd i gyfiawni pechodau fel yr oedd y byd yn myned yn henach. Mae yn wir fod llawer cynyg wedi ei