Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfees Newydd.] CHWEFROR, 1862. [Rhif. II. Cn«%òaw a ŵj^fóaet^mi. IESU GRIST YN UN MAWE. " Wedi ei wneuthur o hyny yn well na'r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt-hwy."—Heb. i. 4. (PAEHAD O'B EHIFYN DIWEDDAF.) Y MAE yr apostol yn egluro yn mhellach fawredd ein Harglwydd Iesu Grist yn yr etifeddiaeth o ryw ewv, yr hwn sydd fwy " rhagorol na hwynt-hwy." Neu yr hwn sydd enw rhagorach nag un enw yr eti- feddasant hwy, ac nac un enw arall ag sydd o fewn cylch creadigaeth. Y mae yr Arglwydd lesuyn gw?ieyd enw, ac yna yn ei etif eddu. Iesu Grist yn unig allasai ei wneyd, ac efe yn unig állasai ei ddal a'i gadw byth. Nid oes neb all gadw enw ond yr hwn sydd yn gallu ei wneyd. Y mae pob dyn gwir fawr wedi etifeddu enw am iddo ei wneyd; ac y mae yn gallu ei gadw o herwydd yr un rheswm. Y mae rhai yn etifeddu enwau mawrion fel etifeddion i'w rhieni; ond y maent yn suddo o'r golwg, ac yn ddisylw yn nghanol yr enwau. Pan y clywo y bobl yr enwau, y maent yn cofio am yr hanesyddiaeth mewn cysylltiad â'r enwhwnw; eithram ei feddianydd presenol nid ydynt yn gwybod dim, nac yn ymorol am wybod ychwaith, canys nid oes dim o werth gwybod yno. Edrychwch ar yr enwau mawrion sydd ar ddalenau hanesyddiaeth; enwau ag ydynt oll wedi eu gwneyd, ac o ganlyniad wedi eu Jietifeddu, ac mae ceisio eu hetifedduheb eu gwneydyn rhywbeth fel tynu ci wrth ei glustiau. Enwau nid ydynt ddim ond arwyddion gweithredoedd mawrion a gorchestol. Dyna yr achos fod rhyw enwau mor weledig ar ddalenau hanesyddiaeth, am fod eu meddianwyr wedi eu dyrchafu drwy gyfiawni pethau y tu hwnt i'r cyffredin. Pa beth a wnaeth enw Cesar i dreiddio trwy yr holl fyd, a pheri yr holl genedloedd i grynu, ddim ond clywed ? Onid ei dalentau mawrion acuòhelfelcadfridogiawyaf eioes? Dyn oedd Napoleon a wnaeth enw iddo ei hun tra fydd hyà; efe a etifeddoddenwgyda'r mwyaf o gadlywyddion ei oes. Nid am fod ei enw yn Napoleon oedd hyny; fe ddichon fod eraill o'r un enw yn y byd; eithr nid oes neb yr ydych chwi yn ei adwaen ond hwn. Pan sonier am Napo- leon, y mae y meddwl yn rhedeg at hwn mewn'moment, fel pe na buasai neb o'r blaen wedi bod yn ein byd ni ond efe. Ond, fel y mae yn hawdd gweled, y gweith- redoedd a wnaeth efe ddarfu godi yr enw i enwogrwydd a bri tra byddo haul. Y mae y Duc Wellington wedi caiel bod yn ngweithredoedd Syr Arthur Wellesley; ac oni buasai fod Syr Arthur wedi an- farwoli ei hun mewn gweithredoedd milwrol, ni fuasai son am y duc. Fe allai mai nid yr unig Luther oedd yn Germani oedd bachgen tlawd Mansfield; eto efe yw yr unig un yr ydym ni yn teimlo dydd- ordeb ynddo. Yr hwn greodd gyfnod newydd yn Ewrop; yr hwn sydd wedi rhoi bod i gyfrolau o hanesyddiaeth; yr hwn enw sydd wedi treiddio trwy yr holl fyd; ac y mae pawb yn ddiwahan o bobl ddi- duedd yn cyffesu mai un o'r enwau mwyaf dysglaer a glywodd ein byd ni erioed am dano ydyw, gyda'r eithriad, cofiwch, o'r enw yr ydym ni ar fyned i son am dano. Nid, coâwch, am fod ei enw yn Luther y mae yr enwogrwydd hyn, eithr o herwydd enwogrwydd y gweithredoedd y codwyd yr enw Luther i'r golwg. Ond i chwi ddyweyd Imtlier, dyna holl hanes bywyd rhyfedd y dyn hwnw yn codi o flaen eich meddwl. Gellir ychwanegu esiamplau diddiwedd yn mron o bethau cyffelyb, eithr afradaeth ar amser fydd petìi feÜy. Chwi wyddoch fod digon o'x fath eawau