Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Cyfees Newtdd.] IONAWR, 1862. Ehif. I.] CrattJHrìmu a 6.o^biattíjan4 IESU GRIST YN UN MAWR. " Wedi ei wneuthur o hyny yn well na'r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw nrwy rhagorol na lrwynt-hwy."—Heb. i. 4. Y mae y testun hwn yn cynwys yr Epistol at yr Hebreaid mewn talfyriad. Yr hyn ag y mae yr apostol yn amcanu sefydlu yn benaf yn yr epistol, a gynwysir mewn geiriau byr yn y testun; sef bod yr Argl- wydd Iesu Grist yn un mawr iawn. Ac nid yn unig yn un ma/ror, ond hefyd y mwyaf o bawb. Y mae rhai yn meddwl fod amcan gan yr apostol wrth wneyd y cyferbyniad rhwng Crist a'r angylion, i dynu meddylian y bobl oddiwrth addoliad. angylion at Grist. Gall hyny fod; ar yr un pryd, nid ydwyf yn benderfynol iawn yn nghylch hyny ychwaith. Ond y mae yn ddigon sicr fod y f ath beth ag addoliad angylion, ac nid yw hyny yn beth i'w ryfeddu. Y mae llawer o bethau yn fwy synedig na bod y bobl, yn enwedig yr Iuddewon, wedi myned i f eddwl yn fawr am yr angylion. Yr oedd yr angylion a phobl yr Iuddewon, yn ngweinyddiad datguddiad dwyf ol, yn lled gymydogol; yr oeddynt fel pe buasent yn byw yn yr un ystryd, neu yr ochr arall i'r heol o bellaf: yr oedd yr angylion yn ol ac yn y blaen beunydd ar ryw neges neu gilydd. Ac yr oedd eu hymddangosiadau mor f awr- eddus, mor ardderchog, ac mor ofnadwy, f el ag yr oedd y bobl, wrth bob rheswm, wedi myned i feddwl yn fawr iawn am danynt. Fe allai, yn wir, yn rhy f awr; y mae yn naturiol ddigon i feddwl felly, beth bynag. Byddai yn rhy f aith, ac yn ddibwrpas hefyd, i fyned i nodi allan ymddangos- iadau angylion yn y dyddiau gynt, yn nghyda'u cenadwri at wahanol bersonau o oes i oes; canys y mae yn ymddangos fod yr Arglwydd yn dal cymunaeb â'r byd, ac yn rhoi ei f eddwl iddo o bryd i bryd drwy gyfrwng yr angylion. Hwynt-hwy, i fesur mawr, oedd y cyfryngwyr rhwng Duw a dynion yn y dyddiau hyny. Angel yr Arglwydd aeth at Agar â chenadwri; dau angel aeth i Sodoma; angel alwodd Abraham ; ag angel y bu Jacob yn ym- drechu; angel ymddangosodd i Moses yn y berth; angel oedd yn myned o flaen byddin Israel; angel safodd o flaen Balaam ; angel oedd yn llawr-dyrnu Or- nan, y Jebusiad; angel oedd yn gwaredu yn ffau y llewod; angel oedd yn ym- ddyddan â Zechariah y prophwyd ; angel ddaeth at Joseph ar neges genedigaeth Crist; angylion oedd yn gweinu iddo; angel oedd yn sefyll wrth y bedd, ac yn pregethu yr adgyfodiad gyntaf wrth y gwragedd; angel ymddangosodd i Cor- nelius; angel ddaeth â Pedr o garchar. Bobl anwyl, yr oeddynt yn ol ac yn y blaen o hyd ar ryw negesaeth neu gilydd; a phob amser, pan y gwnaent eu hym- ddangosiad, yr oeddynt yn dra ardderchog, yn gyflawn o ogoniant, ac yn ofnadwy i ddynion. Nid yw yn rhyfedd yn y byd, gan hyny, fod yr Iuddewon wedi myned i feddwl yn uchel am yr angylion. Fe ddichon fod y pethau hyn wedi perí iddynt feddwl nid yn unig yn uchel, ond yn rhy uchel, a bod yr apostol yn y testun yn amcanu gwella y cyfeiliornad hyny trwy ddyf od â'r Arglwydd Iesu yn y blaen, a'i gyferbynu â hwynt-hwy. "Y mae Iesu Crist, ebefe, yn well na'r angylion; y mae efe wedi etifeddu enw mwy rhagorol na hwynt-hwy." Os oedd- ynt yn dyfod yn aml i'r byd, ac yn ym- gymysgu â dynion gynt, y mae hyny i fesur mawr yn afreidiol bellach, canys "ynnghyflawnder yr amser Duw a ddan- fonodd ei Fab ei hun;" gan hyny, y mae un Iesu Grist yn well, ie, yn anfeidrol well na miloedd, 'ie, rhif y gwlith o angyl- ion. Os oeddent hwy yn weinidogion y gair, ac yn cario gair o enau y Mawredd at yr hil ddynol, y mae hyny mwy wedi