Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. XLVIII.] MAWRTH, 1855. [Lltfr IV. LLYWODEAETH CEIST. GAN Y PARCH. WILLIAM G R I F F I T H S, GOWER. "A bydd y Uywodraeth ar ei ysgwydd ef." Yn nghanol terfysg teyrnasoedd, a swn gof- idus y rhyfel presenol, y mae geiriau Ciist yn werthfawr, ac yn sail eysur i'w bobl ef. "A chwi a gewch glywed ara ryfeloedd, a son am ryí'eloedd: gwelwch na chyffroer chwi; canys rhaid yw bod hyn oll; canys nid yw y diwedd eto." Fe ddaw y diwedd; a'r gorchymyn yw i'r holl saint, "Dos dithau hyd y diwedd: canys gorphwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau hyny." Mae Uywodraeth yn arwyddo hawl ac awdurdod swyddogaeth i lywodraethu a threfnu dynion, ac achosion gwledydd a theyrnasoedd, wedi ci rhoddi gan Dduw i ryw benaethiaid sydd wedi eu galw ganddo ef i'r swyddogaeth hon. "Trwof fi y teyrnasa breninoedd, ac y barna penaethiaid gyfiawnder." Ond y mae gwahaniaeth mor í'awr rhwng Hywodraeth dynion a llywodr- aeth Duw, fel prin y gellir eu cydmaru. Y mae llywodraeth Duw yn berífaith, yn anianyddol ac yn foesol; yn dragwyddol ac annghyfnewidiol; yn cyrhaedd holl eithaflon a hoíi achosion adnabyddus ac anadnabyddus ei greadigaeth fawr. Mae pob creadur yn mhob byd, a phob amser ac amgylchiad, yn gwbl dan ei lywodraeth ef. Nid yw llyw- odraeth y mwyaf o ddynion, pa fodd bynag y maent yn gweinyddu, ond byr a brau, wedi ei rhoddi iddynt dros ychydig ddydd- iau, i'r naill ar ol y llall, fèl offerynau yn ei law ef i ddwyn i ben ei arfaeth a'i ddy- henion ei hun. * Hyd yn hyn y mae y rhan amlaf o honynt wedi llywodraethu eu cyd- ddynion trwy drais ac annghyfiawnder, ac obíegid hyny wedi cael eu symud o'u swydd- ogaeth yn aml mewn barn, a'u gwysio i'w hresenoldeb ef i roddi cyfrif am eu gor- uehwyliaeth. Mae holl lywodraeth Duw yn cael ei gwcinyddu gan Grist, yr hwn yw gwir lun ei berson ef, adysgleirdeb ci ogon- iant ef; yr hwn sydd yn cynal pob peth trwy air ei nerth, a'r lly wodraeth ar ei ysgwydd ef. Mae llywodraeth Crist, o ran hawl, yn ddeublyg; sef naturiol a swyddol. Mae yn naturiol ganddo ef fel Person dwyfol yn hanfod y Tad a'r Ysbryd Glân; ac yn swyddol, í'el y mae yn Gyfryngwr, wedi ei ddewis a'i alw gan y Tad i fod yn ben pob peth i'w cglwys: "Goruwch pob tywysog- aeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwydd- iaeth; a phob enw a enwir, nid yn unig yn y byd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw." Mae Efe yn ben pob peth, i'r dyben i fod yn ben cynihwys i'w gorph dirgeledig ei hun. Mae llywodraeth Crist felly yn gyffredinol yn mhob man, ar bawb a phob peth, pob creadur, a phob achos ac effaith yn nhrefn ei ragluniaeth ag sydd yn bosibl o gymeryd lle; ond eto y mae yn neillduol yn ei dyben cyfryngol, er llesàd a pherffeithiad ei deyrnas ci hun, yr hon nid yw o'r byd hwn. Mao hyn yn gweinyddu y cysur mwyaf i'w ffyddlon ganlynwyr ef. Efe a ddywedodd, "íthoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. "Wele, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd." Sylwn ar natur, hclaethrwydd, sicrwydd, a pharhad lly wodraeth Crist, a'r canlyniadau dedwydd o hyn. 1. Natur líywodraeth Crist, yn y cwbl o honi, sydd dduyfol ac nid dynol. Er fod ei ddynoliaeth ef, yn undeb ei Berson dwyfol wedi ei dyrchafu i'r orsedd i deyrnasu yn dragywydd, goruwch pob awdurdod, ar- glwyddiaeth, a nerth, yn y nefoedd ac ar y ddaear, eto nid yw dynoliaeth Crist mewn un modd yn hanfodol iddo ef, fel Uywodr- aethwr, ond yn unig mor bell ag y mae efe yn Frenin Sion, i lywodraethu yn ac ar ei saint. Nid yw ei lywodraeth yn ddynol chwaith yn "ei eglwys, ddim pellach na defnydd undeb dirgelaidd rhwng y pen a'r corph—mewn perthynas briodasol a chyf- amodol. Rhaid cael hollwybodaeth a holl- alluogrwydd i drin pob amgylchiad sydd yn