Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. XLVII.] CHWEFROR, 1855. [Llyfr IV. SWYDD DIACONIAID. "Am hyny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn Uawn o'r Ysbryd Glàu a doethineb, y rhai a osodwn ar hyn o orchwyl."—Actau vi. 3. Mae swydd diaconiaid yn un a berthyna i dŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw. Mae Paul yn dweyd wrth Timotheus mai ei ddyben yn ysgrifenu ac yn anfon ei gyfar- wyddiadau iddo, gyda golwg ar osodiad esgobion a diaconiaid yn eu gwahanol swyddau, ydoedd, fel y gwybyddai pa fodd yr ocdd yn rhaid iddo ymddwyn yn nhŷ Dduw; gan hyny mae swydd diaconiaid yn gystal ag esgo'bion yn swydd yn nhŷ Dduw; chan hyny, y mae yn gweddu i'r rhai a osodir ynddi ymofyn ac ystyried pa beth yw cyfraith y tŷ mewn perthynas i hyn; heb hyny, nid yw yn debyg yr eir yn mlaen yn ol ewyllys ac wrth fodd Perchen mawr y tŷ; ac nis gellir dysgwyl ei wyneb ar, na'i fendith i ddylyn yr hyn a wneir. Yn awr, ceisiwn allan o lyfr yr Arglwydd beth a ddywcd yr ysgrythyr, a pha bcth a ddysga o barth i'r swydd' hon, yn nghyda'r gwaith a berthyn yn briodol iddi, a'r cymhwysderau gofynol tuag at weinu ynddi. Diacon, yn y Testament Newydd, sydd enw cyffredin ar was neu wcinidog. "Pwy hynag a fyno fod yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn weinidog," neu yn ddiacon i chwi, Mat. xx. 26. Yna y dy wed y Brenin wrth y gweinidogion, diaconiaid, neu weis- wn, "Rhwymwch ef draed a dwjdaw," &c. Mat. xxii. 13. Gclwir swyddog gwladol yn ddiacon. Gweinidog neu ddiacon Duw ydyw efe, Rhuf. xiii. 4. Gelwir canlynwr nen ddysgybl i Grist yn ddiacon. "Lle yr wyf n, yno y bydd fy ngweinidog hefyd," neu fy niacon, ìoan xii. 26. Mae athrawon neu ddysgawdwyr crefydd Crist yn cael eu galw yn ddiaconiaid. "Pwy gan hyny yw Paul, a phwy Apolos?" Onid gweinidogion, onid diaconiaid trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglvfydd i bob un? 1 Cor. jn. 5. "Ein digonedd ni sydd o Dduw." ' Yr hwn a'n gwnaetti ni yn weinidogion," neu yn ddiaconiaid cymhwys y Testament ^ewydd, 2 Cor. iii. 5. 6, a'r vi. 4. Ond er fod y gair diacon yn enw cyffredin ar weinidog neu was, mae yn debyg fod ei gyf- eiriad blaenaf at rai yn gweinu yn nghylch y byrddau {tcaiters), Ioan ii. 5. Ac er ei fbd yn cael ei roddi i unrhyw weinidog neu was, eto fe'i defnyddir i ddynodi swyddog penodol yn nhŷ Dduw. Mi feddyliwn fod yr holl swyddogion yn eglwys y Duw byw yn cael eu galw yn henuriaid, a bod yr henuriaid yn cael eu gwahaniaethu wrth yr enwau esgobion a diaconiaid. " Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg: yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth," 1 Tim. v. 17. Y gair a gyfieithir poeni yma, a gyf- ieithirmewn lle arall llafurio, 1 Thes. v. 12. Yr henuriaid a lywodraethent yn dda, fel y tybiwyf, oedd yr holl swyddogion,yn cynwyg y diaconiaid, y rhai a gyflawnent eu swyddau yn ffyddlon a doeth, trwy ofalu am, a dwyn yn mlaen holl achosion yr eglwys. Yr oedd yr holl rai hyn yn deilwng o barch dau- ddyblyg oddiwrth yr holl frodyr santaidd. Y rhai oedd yn poeni, neu yn llafurio yn y gair a'r athrawiaeth, oedd yr esgobion neu weinidogion y gair. Yr oedd y rhai hyn yn deilwng o barch dauddyblyg yn cnwedig. Gan hyny nid oedd yr hoìl henurìaid yn llafurio yn y gair a'r athrawiaeth, o herwydd pe felly buasent oll yndeilwng o'r un parch ar y cyfrif hyny'; ac ni buasai llafurio yn y gair a'r athrawiaeth, yn gwahan-nodi rhai oddiwrth eraill, yn sail i'r rhoddiad o barch chwanegol iddynt. Yr oedd yr holl henur- iaid a lywodraethent yn dda yn deilwng o harch dauddyblyg, sef parch mawr a helaeth; ond y rhai o'r henuriaid a lywodraethent yn dda, y rhai a lafurient yn y gair a'r athraw- iaeth, a deilyngent barch dauddyblyg yn enwedig; gan hyny rhai o'r henuriaid a lyw- odraethent yn dda, a lafurient yn y gair a'r athrawiáeth, ac nid pawb. Yr oedd y rhai a lafurient yn y gair a'r athrawiaeth yn