Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. XLVI.] IONAWR, 1855. [Llyfr IV, T FFOEDD I DDIANC. "Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn ; ac am farn, pwy a ddadleu drosof ?"—Job, Mae Job yn enwog am ei amynedd; y rheswm am hyny yw, ei fod wedi dy- oddef collodion a phrofedigaethau mawr- ion. Nis gellir adnabod dim nes ei brofi; ac y mae holl rasau yr Ysbryd yn rhai a ddeií brawf. Nid aur yw pob peth melyn, ac nid gras yw pob peth tebyg iddo. Gosodwch y counterfeit yn y tân, bydded mor ddysglàer ag y byddo, ac fe gyll ei ddysgleirdeb; gosodwch yr aur yn y tàn, ac fe ddaw allan yn ddysgleiriach. Fe gaiff holl blant Duw eu profi. Mae yn rhaid iddynt gael eu profi, ond nid ydynt oll yn cael eu profi yn yr un pethau. Ffydd Abraham a brofwyd; Uarieidd-dra Moses fu yn y prawf; ond amynedd Job a brofwyd; ac fe ddaeth pob un o honynt trwy brawf mewn ífordd fydd yn ogoniant tragwyddol i enw eu Duw. Mae gwaith yr Ysbryd yn waith cyflawn. Pan fyddo dyn yn cael ei wneuthur yn gyfranog o'r dduwiol anian, y mae yn cael oi wneuthur yn gyfranog o holl rasau yr anian hono; ac fe fydd i bob nn o honynt gael cyfle i ddangos ei bresen- oldeb yn y byd hwn; ond y gras sydd yn cael ei brôfi fwyaf sydd yn dyfbd yii fwyaf anilwg. Dywedir fod braich ddeheu y gof J'n bratfach ac yn gryí'ach na'r aswy, am toai hono sydd yn cael mwyaf o'i harfer, am ttai hono sydd yn taro fyth. Yr oedd amynedd gan Job cyn dechreu ei dywydd gnrw. Nid gofidiau a gynyrchodd y gras D^n, ond fe ddarfu i ofid'iau ei gryfhau yn gystal a'i wneuthur yn adnabyddus. "Clywsoch am amynedd Job," medd yr aPostoí. Do, ni a glywsom am dani; ond m fuasem yn clyw^ed byth oni buasai ei ofìdiau, ac y mae yn fwy na thebyg na biasem yn clywed am Job ei hunan chwaith °ni buasai y rhai hyny. Pe buasai wedi pfirhau yn gyfoethog a llwyddianus, er ei l0(ì yn ddyn da, fe fuasai ei enw ef wedi ^yned yn annghof er ys oesoedd lawer ^dag enwau llawcr o ddynion da eraill. •Mae hyn o fantais yn perthyn i orthrym- derau; y maent yn coroni ag anfarwoldeb y sawl sydd yn myned trwyddynt yn anrhyd- eddus. 0 achos i Job gaeì ei osod yn y pair, a chael ei gadw yn hir ynddo, y mae yn sefyll o'n blaen yn golofn o fuddugol- iaethau gras, ac y bydd iddo ef gael ei ddal allan fel siampl o amynedd hyd ddiwedd y byd. Er mor boenus oedd gorthrymderau Job—nage, oblegid eu bod mor boenus, y mae ei enw ef wedi ei wisgo ag anrhydedd oesol; fe fydd amynedd Job yn ddiareb hyd ddiwedd amser. Ond y mae gorthrymderau yn orthrym- derau serch hyny; y maent yn bethau gofidus a phoenus i'w dwyn, ac onide nid gorthrymderau a fyddent. Nid yw gwres nad yw yn gwneyd i'r fetel ildio a thoddi, ddim yn ddigon i'w brofi chwaith. Nid yw profedigaethau nad ynt yn peri i chwi deimlo, a theimlo yn annghysurus a gofidus—nid ydynt, meddaf, yn brofedigaethau i chwi. Nid yw yr ystorm sydd yn myned dros eicb pcn heb gytf'wrdd â chwi, yn ystorm i chwi mwy na hono sydd yn chwythu yr ochr draw i'r môr. Nis gall un dyn pan yn dyoddef profedigaethau, lai na dymuno cael ei waredu allan o honynt. Tra byddom yn y ffwrnes yr ydym yn cael ein llesâu, pryd hwnw y mae ein hanmhuredd yn ymadaeí â ni; ond wedi'dyfod allan yr ydym yn mwyn- hau y llesâd. Nid oes un cerydd dros yr amser presenol yn byfryd, ond yn anhyfryd; tccdi hyny y mae yn dwyn "heddychoi ffrwyth cyfìawnder i'r sawl sydd wedi eu cynefino ag ef." Yr oedd profedigaethau Job yn drymion ac yn boenus i'w dwyn. Dacw ef yn syrthio mewn un diwrnod, mewn darn o ddiwrnod yn wir, o uchder cyfoeth i ddyfn- deroedd tlodi; ac uwchlaw y cwbl, yn colli ei holl blant trwy un ddyrnod ofnacìwy; ac i wneyd y drwg yn waeth, yn cael ei orcbuddio â chornwydydd blin. "Fy nghnawd," medd efe, "a wisgodd bryfed a thom priddlyd; fy nghroen a ageuodd ac a