Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. XL.] GORPHENAF, 1854. [Llyfr IV. SAMSON. Byr yw yr hancs a gawn am Samson, ond llawn o addysgiadau. Yr oedd yn un o'r dynion rhyfeddaf a ymddangosodd ar chwareufwrdd amser. Mae yn ymddangos iddo ddisgyn o rieni ag oedd yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Gan fod Samson y fath gymeriad hynod, nid an- mhriodol sylwi pa fath ddynion ocdd y rhai y cyflwynwyd cf iddynt i'w fagu. Samson oedd eu eyntaf-anedig; ac o ran dim a wyddom ni, efe oedd yr unig blentyn a gawsant. Yr oedd ei fam yn anmhlant- adwy. Enw ei dad oedd Manoah. Hancs ymddangosiad yr angcl i'r wraig, ac i Manoah a'i wraig wedi hyny, a gynwys agos yr holl hanes a gawn am danynt. Mae yr hanes fer hon yn dangos eu bod yn rhagori mewn ffydd a duwioideb. Pan ragfynegodd angeî yr Arglwydd i'r wraig y byddai iddi feichiogi ac csgor ar fab, nid amheuodd hi addewid Duw trwy annghrediniaeth. Wedi ir genad nefol ymadael â hi, ni a'i gwelwn a'i Hygaid yn tanbeidio, a'i mynwes yn orlawn 0 syndod a llawenydd, a'i dwylaw wedi colli pob gallu i weithio, o achos ei hawyddfryd i fynegu y llawen-chwedl i'w hanwyl Manoah, oedd allan yn bugcilio y defaid; nis gallasai feddwl am aros heb adrodd y newydd hyd nes dychwelai ei gwr i'r tŷ i giniaw, ncu yn hwyr y dydd. ìna y daeth y wraig, ac a fynegodd i'w gwr, gan ddywedyd, Gwr Duw a ddaeth ataf fi; a'i brỳd oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynais iddo o ba Ie yr oedd. ac ni fynegodd yntau i mi ei enw Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele « a ierchiogi ae a esgori ar fab. Ac yn awr na? yf win na diod gadarn, ac na fwyta adimaflan, canys Naaaread i Dduw fydd l :u»gen.0'r groth Qyd d(iydd ei farwol- aetn. • Nid yn fynych yr aeth gwraig at ei gwr i adrodd y fath newydd am ymddan- gosiad angel iddi. Mae effaìth adroddiad yr CSi ar îIanoah yn ei weddi daer ac ys- wyaol, yr hon a wrandawyd mor ddioed, yn dangos ei dduwioldeb mawr. Nid yw yn gofyn gair am fawredd dyfodol ei fab, nac am ei lwyddiant fel gwaredwr a barnwr Israel. Yr unig ymholiad a godai yn ei feddwl ydoedd niewn perthynas i'r modd y dylid trin y fath fachgen. Daeth yr angel yr ail waith yn ol dymun- iad Manoah, ac ail-adroddodd y gocheliadau cyntaf a roddes i'r wraig; ond ni roddodd un cyfarwyddyd am y modd y dylid trin y bachgen. Mae dystawrwydd yr angel am addysg grefyddol y fath blentyn ag oedd i fod yn ddyn mor nodedig, yn siarad yn uchel am dduwioldeb ei rieni. Mae hyny yn ymddangos yn fwy amlwg, pan gofiom iddo gael ei eni yn y fath amser tywyll ac isel ar grefydd. Yr oedd Israei y pryd hwnw yn nwylaw y Philistiaid o achos eu llygredigaethau a'u heilunaddoliaeth flîaidd. Gallem feddwl fod gwybodaeth am y gwir Dduw bron myned ar goll o Israel. Yn yr adeg dywyll hon, wcle Samson yn cael ci eni i fod yn waredwr i Israel orthrymedig. Yr oedd Manoah a'i wraig yn bryderus am addysgiaeth grefyddol eu mab annghyffredin —hynod waredwr Israel. Yr oedd yn an- genrheidiol ei egwyddori yn fanwl yn hanes ei genedl, a dywedyd llawer wrtho am y gwyrthiau a wnaeth Duw Israel er gwaredu ei bobl yn y dyddiau gynt. Ond nid ystyr- iai yr angcl fod un angenrheidrwydd rhoi anogaethau i Manoah a'i wraig i roi addysg grcfyddol i'w mab, am yr adwaenai eu ffydd a'u auwioldeb. Lle mae gras yn teyrnasu yn y galon, nid oes eisiau cymhell y cyfryw i gyflawni eu dyledswyddau. Y dysgybl goreu a mwyaf awyddusam wybodaeth sydd yn rhoddi llciaf o waith aphoeni'wathraw; nid rhaid rhoi llawer o rybuddion i blentyn da ac ufudd; ac nid rhaid ychwaith i gym- hell y Cristion flyddlon i gyflawni ei waith yntau—y mae yn barod i bob gweithred dda. Yr oedd yr egwyddorion da ag oedd yn ngbalonau y Daniad gonest a'i wraig rasol, yn ddigon o feichiai dros cu ffyddlondeb. 2 A