Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. XXXVIII.] MAI, 1854. [Llyfe IV. Y MAB ÁFRÀDLON. ' Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl yn nghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell," &c. Luc xv. 13—24. Ya oedd y sect hono o'r Iuddewon a elwid Phariseaid, y rhai oeddynt yn aml iawn yn nniser ymddangosiad ein Harglwydd, yn hynod am eu hunan-dyb a'u hunan-gyfiawn- der. Un o hynodion eu cymeriad ydoedd cu bod yn hyderu arnynt eu hunain eu hod yn gyfìawn, ac yn diystyru eraill. Mae llawer o weinidogaeth ein Harglwydd wedi ci chyfeirio yn erbyn y duedd hon. Cawn ef yn awr ac eilwaith dros ystod ei weinidog- aeth â gordd y gwirionedd ar ben y rhag- rithiwr hunan-gyfiawn. Y duedd ddrwg hon o'r eiddynt hwy fu yn achlysur i lefar- ìad y tair dameg sydd yn gwneuthur i fynu y rhan fwyaf o'r bennod hon. Yn nechreu y bennod yr ydym yn darllen fod yr holl bublicanod a'rpechaduriaidyn nesâu at y Gwaredwr i wrando arno: a'r Pharis- caid a'r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, " Y mae hwn yn derbyn pech- aduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt." Mewn atebiad i'r cyhuddiad maleisus hwn o'r «ddynt mae ein Harglwydd yn llefaru y tair dammeg hyn, er mwyn dangos iddynt íod yr hyn oedd yn destun grwgnach gan- «dynt hwy, yn destun Uawenydd gan Dduw a r angylion santaidd. Os oeddynt hwy yn anfoddlon fod pechaduriaid yn gwrando y gair ac yn ei dderbyn, fod Duw yn foddlawn jawn i hyny. Os byddai i un o honynt nwy i lawenhau, a gwahodd eraill i «wonhau gydag ef, ar ol cael gafael mewn h!fi -.edi myned M Soll> Uawer mwy y oyadai i'r Duw Irugarog lawenhau a chym- J«U eraill i lawenhau gydag ef, ar ol i'r lachawdwriaeth gael gafael mewn pechadur a gollasid. Mae dyn wedi myned ar gyfeil- rn yn bcth anfeidrol mwy pwysig na dafad víì Gl cholli- Pa faint 8we11 San hW ,T na âafad? sydd ofyniad anatebadwy, fi' bJnY mae achubiaeth dyn yn destun daf Snydd anfeidro1 mw7 na chaffaeliad a<1' Os byddai i wraig lawenhau ar ol cael hyd i ddryll arian a gollasai, llawer mwy y byddai llawenydd yn y nef am edifeirwch un pechadur. Os byddai i dad lawenhau ar ddychweliad mab a gollasid, llawer mwy y byddai i'r Nefoedd lawenhau ar ddychweliad pechadur gwrthgiliedig. Y mae Duw yn caru dynion yn anfeidrol fwy nag y mae un dyn yn caru ei ddefaid, nag y mae un wraig yn caru ei harian, nag y mae un tad yn caru ei blant. Mae y damegion yn cryfhau fel y macnt yn myned yn y blaen. Mae yr ail yn gryf- ach na'r gyntaf, y drydedd yn gryfach na'r oll. Mae y gyntaf yn tybied un ddafad wedi ei cholli o gant; mae yr ail yn tybied un dryll wedi ei golíi o ddeg; ond mae yr olaf yn son am un mab wedi ei golli o ddau. Pe gellid cael dameg fyddai fil o weithiau yn gryfach nag un o honynt, nid yw cariad dyn yn y man cryfaf, a'i ddangos yn y goleu mwyaf manteisiol, ond darlun gwanaidd a gwael o gariad Duw. Ni aroswn ychydig ar ddameg y mab afradlon, ac a geisiwn gasglu ychydig addysgiadau yn mherthynas i bechadur yn ei ymadawiad drygionus a Duw, ei fywyd pechadurus, ei ddychweliad edifarus, a'r derbyniad groesawus a roddir iddo gan Dduw pob gras. Gwelwn ef yn— I. Yn ymadael â tby ei dad. "Ac ar ol ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl yn nghyd." Gallwn ninnau gasglu oddiwrth hyny, yn— 1. Nad oedä ganddo mwyach un pris ar dŷ ei dad—nad oedd mwyach un gofal gan- ddo ef am dano. Pa beth bynag a wnelai ei dad, ai llwyddo ai afìwyddo, pa fodd bynag byddai ei dad, ai yn iach ai yn glaf, ai yn fyw ai yn farw, nid oedd efc mwyach yn prisio gwybod. Yr oedd ei gwbl ef gydag ef yn ei daith tua gwlad bell. Éhyfedd mor debyg i hyn yw pechadur yn ei ymadawiad a Duw! " Pa ran sydd i ni yn Dafydd, a pha etifcddiaelh yn mab JesseY'