Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. RHIF. XXXIV.] IONAWR, 1854... [Llyfr IV. UNDEB YR YSBEYD YN EGLWYS CRIST. 'Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." GAN Y PARCH. W. GRIFFITHS, GOWER. Harddwch a chryfder eglwys Crist yw ei hundeb ysbrydol. Ei hundeb a'r sylfaen lle mae wedi ei gosod yn dŷ ysbrydol at wasan- aeth Dnw, ac a'r Pen bywiol, o ba un y mae yn derbyn ei holl luniaeth meithrinol; a'i hundeb tu fewnol ynddi ei hun trwy y cymalau a'r cysylltiadau trefnus a doeth sydd wcdieu gosod ynddi gan ei Phen a'i Phriod. Rhaid bod yn ofalus i gadw yr undeb hwn rhag cael ei anafu gan ei gelynion. Yr unig tfordd cin dysgir at hyn yw cadw yr undeb yn nghwlwm tangnefedd. Mae hwn yn gwlwm cryf, medrus, a rhinweddol; a'i ddefnydd oll o'r Ysbryd, ac o'r efengyl. Mae yn llawer hawddach ei ddryllio a'i ddatod nag yw ei glymu. Gall pob hurtyn ddryllio mewn ychydig amser waith cywrain a defnyddiol nas gallodd erioed ddeall ei elfenau dechreuol, na gwneuthur dim i"w ddwyn yn mlaen. "Dyn cyndyn a bair ymryson; a'r hustyngwr a neilldua dywys- ogion." Un o brif ddicheilion Satan tuag at rwystro ac atal Uwydd crefydd Crist yn em dyddiau ni, yw magu cynenau ac ym- rysonau yn mblith brodyr. Gŵyr y diafol yn^dda, os gall efe lwyddo i gaely rhai hyn 1 l8noi a thraflyncu eu gilydd," eu bod ar J tfordd at ddyfetha eu gilydd. I'r dyben i ff^? yn mlaen ei amcan drwg yn fwy enoithiol, y mae Satan yn gwylied ei am- serau, ac os bydd rhyw ymrafael neu gynen ^•edi dechreu, y mae ganddo ef at law ryw "\r\î maD **icr* * udganu mewn udgorn, JNid oea i ni ddim rhan yn Dafydd—pawb 1 * pebyll, 0 Israel." Eto y mae yn methu Pasfa[u perthynasau y brenin. Mae y ♦,„ rWno1 wedi eu dymu yn nghwlwm wngnefedd, yn glynu wrth eu güydd, aò wrjn eu brenin. mvfV cynortnwyo ein deall ac arwain ein '"y^yrdod, y mae'r Ysbryd Glân yn cydmaru eglwys Crist i gorph dyn, lle y mae rhyw luaws o esgyrn, a giau, a chnawd, mawr a mân, wedi eu cymhwys gydgysylltu, ac yn derbyn lluniaeth cynyddoi o'r pen trwy y cymalau, &c, Col. ii. 19. Yn mhob cymàl y mae cwlwm trefnus ac esmwyth y gwa- hanol ranau, at gynoithwyo eu gilydd, ac yn ymddibynu ar gymalau cyffelyb nesaf atynt, ac felly yn y blaen trwy yr holl gorph, o'r pen i'r traed; fel nas dichon yr un o honynt ddywedyd wrth y llall, " Nid rhaid i mi wrthyt." Canys y corph nid yw un aelod, eithr llawer. Mae ei nerth a'i gysur yn ymorphwys i fesur mawr ar ei gymalau a'i gysylltiadau. Clefyd y cymalau (y gym- alwst) yw un o'r doluriau gwaethaf; beth bynag íyddo yr achos dechreuol o hono, anaml y ceir gwaredigaeth oddiwrtho nes myned i'r bedd. Y cymalau sydd yn clymu corph Crist fel eglwys ar y ddaear yw ei grasau cgmdeithasol, a'i swyddogaeth usein- yddol. Trwy y cymalau hyn y mae yn der- byn lluniaeth. Oddieithr clymu y rhai hyn oll â chwlwm tangnefedd yn dyn, eto yn csmwyth (oblcgid pa mwyaf tyn y bydd y cwlwm hwn, mwyaf esmwyth a chysurus a fydd), nid oes fawr obaith yn y corph am gysur na defnyddioldeb. Mae y gymahcst eglwysig, fel yn y, corph dynol, yn chwyddo yn y cymalau,ac weithiau yn datod yr esgyrn oddiwrth eu gilydd, nes yw pob gwaith yn myned yn bocn, a thrafaelu yn y blaen yn anmhosibl. Pa faint a welir heddyw ar faes y byd, yn eithaf caled ac anystyriol, fu unẁaith yn eglwys Dduw; a rhai o hon- ynt yn uchel mewn doniau a öwyddau eg- lwysig, yn tynu sylw y werin, ond yn awr yn gân i'r meddwon, ac yn ddiareb gan el- ynion crefydd. Yr oedd rhy w chwydd gteyn yn y cymal oedd yn eu cysylltu ag eglwys Crist; pan oeddynt yn oreu eu gwaed, nis