Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XXIX.] AWST, 1853. [Llyfr III. BYW YN DDUWIOL YN NGHEIST I£SU. "Ië, a phawb a ewyllysio fyw yn dduwiol yn Ngbrist Iesu a erlidir."—2 Tim. iii. 12. GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. HUGHES, LLUNDAIN. Yr oedd Timotheus yn bregethwr ieuanc pan oedd Paul yn hen bregethwr. Nid bob amser y mae y teimladau goreu rhwng yr ieuanc a'r hen. Weithiau bydd yr ieuanc yn edrych ar yr hen gyda mesur o ddirmyg a diystyrwch; weithiau bydd yr hen yn edrych ar yr ieuanc gyda drwgdybiaeth, ac ambell bryd gyda gradd o genfigen. ìsid felly Paul a Thimotheus. Yma yr oedd yr ieuanc yn hoff iawn gan yr hen; ac yr oedd yr hen yn anwyl iawn gan yr ieuanc. Fel hyn y dylai fod bob amser. Bendith i'r byd yw fod y rhai sydd yn mron myned o hono, a'r rhai sydd yn newydd ddyfod iddo yn coleddu meddyliau caruaiad am eu gilydd. Yr oedd Paul wedi cael prawf ar Timotheus, ac y mae yn adrodd ffrwyth y prawf hwnw wrth y Phillipiaid: "Eithr y prawf o hono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad y gwasanaethodd ef gyda mi yn yr efengyl." Teimlai Paul at Timotheus yn gynes fel tad; ymddygai Timotheus at Paúl yn ufudd fel plentyn. Yr oedd y gwr ieuanc hwn o deulu duwiol; yr oedd y "ffydd ddiffuant" wedi trigo yn gyntaf yn ei nain Lois, ac yn ei fam Eunice; ac nid oedd amheuaeth gan yr apostol nad oedd Timotheus ei hunan wedi ei derbyn hi. "A diameu genyf," medd efe, "ei bod hi ynot tithau hefyd." Nid peth yn cerdded mewn gwaedoliaeth yw gras. Mae y rhai a ailanwyd wedi eu geni "nid o waed;" ond yn fynych ni a'i cawn yn aros am oesoedd a chenedlaethau yn yr un teulu; ac yr oedd yr Arglwydd wedi gweled yn dda iddi fod felly yn y teulu hwn. Groegwr oedd ei dad; ond nid oes genym fantais i wybod pa un a oedd ŵ yn Roegwr duwiol ai peidio. Ystyr yr enw Timotheus yw "anrhydeddwr Duw," ac yr oedd y gwr yn ateb i'w enw. Ysgrifenodd Paul ddau lythyr ato, yn cynwys hyfforddiadau a gocheliadau gyda golwg ar y ffordd y dylasai ymddwyn yn nhŷ ao eglwys Dduw. Mae yn gosod o'i flaen y llwybr y byddai yn fantais iddo ef ei hunan, yn ddaioni i'r eglwys, ac yn fendith i'r byd iddo rodio ynddo; ond y mae yn rhoddi ar ddeall na chai efe rodio bob amser yn y llwybr hwnw heb gytarfod â rhwystrau a gorthrymderau. Trwy ysbryd prophwydoliaeth y mae yn rhagweled äniseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf, ac y mae yn rhybuddio Timotheus o'u dyfodjad: ywybydd hyn hefyd y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf." Efallai ei fod yn S°lygu dyddiau diweddaf Timotheus ei hun; efallai na chaíbdd Timotheus ddisgyn i'r bedd cyn bod yr amseroedd enbyd y cyfeiria yr apostol atynt wedi dechreu. Rhydd olwg fer ar Sytneriad y dyddiau hyny: "Canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hunain; yn arìangar, 5n ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn anufuddion i rieni, yn anuiolchgar, yn ^nuwiol,^ yn anngharedig, yn tori cyfamod, yn enllibaidd, yn annghymesur, yn anfwyn, yn iserch i'r rhai da, yn fradwyr, yn waedwyllt, yn chwyddedig, yn caru melus-chwant yn h neu yn hytrach na charu Duw," ac er hyn ei gyd, "a chanddynt rith duwioldeb." Yr i'r t \ ^ery^ y1} ^wy ° herwydd y rhith. Mae dynion felly yn fwy peryglus i'r eglwys ac ij; Dy^na'r dynion sydd heb gymeryd arnynt êu bod yn grefyddol; a chyngor Paul i gw^eu? ydoed(i bod >'n of»108 i ochelyd y rhai hyn: " Y rhai hyn gochel di." Paid â 7 ^ì ^m cy^e^acû â hwynt; paid hyd y nod a dadleu â hwynt; y maent wedi oaledu; safodH T cydwyDodau wedi ®u serio â haiarn poeth. Mae yn son wedi hyny am y modd y uad và nnes a JamDre8 yn erbyn Moscs. Dau o swynwyr yr Aipht oedd y rhai hyn; er yuynt yn cael eu henwi yn llyfr Exodus, yr oedd Paul yn gyfarwydd ag enwau y ddau. 2 E