Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhip XXVIII.] GORPHENAF, 1853. [Llyfr III. CEIST EIN PASG NI. "Canys Crist ein Pasg ni a abertliwyd drosom ni."—1 Cor. v. 7. Mae Crist i ni yn sylweddol yr hyn oedd yr holl osodiadau a'r seremoniau i blnnt yr Israel yn gysgodol. Goruchwyliaeth y cysgodau oedd yr eiddynt hwy, goruchwyliaeth y sylwedd yw yr eiddom ninnau. Yr oedd ganddynt hwy aberthau yn cyfeirio at Grist; Crist yw ein Haberth ni. Yr oedd ganddynt hwy offeriaid ac archoffeiriaid; Crist yw yr Archoffeiriad mawr sydd genym ni ar dŷ Dduw. Nid ydym ni yn cydnabod un offeiriad nac archoffeiriad o dan y Testament Newydd ond Crist yr Arglwydd. Yr oedd ganddynt hwy boeth- offrymau a phech-aberthau, Crist yw ein Poeth-offrwm a'n Pech-aberth ni. Yr oedd ganddynt hwy eu pasg; Crist yw ein Pasg ni; ac y mae Crist ein Pasg ni wedi ei aberthu drosom ni. Yr oedd parhad yr aberthau o dan yr hen oruchwyliaeth yn brawf digonol nad oedd neb o honynt yn ddigon—nad oedd pawb o honynt yn ddigon i dynu ymaith bechod. Pan byddai yr Iuddewon yn parotoi yr offrwm boreuol, yr oeddynt, wrth wneuthur hyny, yn dystaw gyfaddef fod pechod heb gael ei ddileu gan aberthau y dydd o'r blaen. A phan rwyment yr offrwm prydnawnol, yr oedd eu gwaith yn gyfaddefiad dystaw ond effeithiol nad oedd yr aberth boreuol wedi gwneyd iawn. A phan ddelai mis Tisri o gwmpas, yn mha un yr oedd gŵyl fawr y cymod yn cael ei chynal, yr oedd yr afonydd o waed a dywelltid pryd hyny yn tystiolaethu nad oedd iawn wedi cael ei wneuthur am bechod trwy yr holl waed ag oedd wedi cael ei dywallt o'r blaen. Y gwirionedd yw, yr oedd yn anmhosibl "i waed teirw a geifr dynu ymaith bechod," yr oedd yn anmhosibl i waed anifeiliaid o un math, ac i waed anifeiliaid o bob math wneuthur iawn. Ond pwy a ordeiniodd offrymau ac aberthau ar y cyntaf? Pwy a ordeiniodd yr oruch- ■^yüaeth seremoniol? Yr Arglwydd ei hun. Efe a ddysgodd ein rhieni cyntaf i offrymu aberthau wedi eu cwymp. Efe hefyd a ddysgodd Abel, Noa, a'r patriarchiaid i offrymu aberthau; ac Efe wedi hyny ddysgodd Moses i sefydlu mewn trefn yr oruchwyliaeth seremoniol. Ond a ddarfu i'r Arglwydd ordeinio aberthau a sefydlu gorchwyliaeth, a'r aberthau hyny a'r oruchwyliaeth hono yn methu yn y diwedd ag ateb dyben eu gosod- ìad? Naddo. Ni ddarfu i'n Duw ni fetbu a gwneyd dim a amcanodd ei wneyd erioed, ae ni ddarfu i'r oruchwyliaeth seremoniol na'r aberthau dani fethu ateb dyben eu gosodiad. Mae yn wìr na ddarfu iddynt dynu ymaith bechod na gwneuthur iawn am dano; ond md tynu ymaith bechod na gwneuthur iawn am dano ydoedd dyben eu gosodiad. Darfu iddynt gael eu sefydlu fel y byddai i feibion Israel gael cyfìe i gydnabod eu bod 70 oechaduriaid, i adgoffa pechod bob dydd, ac yn enwedigol bob blwyddyn, a darfu iddynt wyr ateb y dyben hwnw. Rhyw fath o ysgrif addawol ydoedd yr oruchwyliaeth gysgodol ■~~ysgrif yn cydnabod dyled, ac yn addaw talu; a phob tro y byddai plant yr Israel yn aoerthu, hwy fyddent yn adnewyddu yr ysgrif. Mae dyn â dyled fawr arno yn yr ariandy, y^edweh £200: wel, y mae yn adnewyddu yr ysgrif bob dau fis; dyna fe yn myned y& awr i adnewyddu—y mae yn costio gryn dipyn iddo i wneuthur hyny, ond nid yw yo gwneyd y ddyled ffyrling yn llai. Yr oedd yn costio gryn dipyn i Israel adnewyddu m yffi*', costiai ych i un, aner i'r llall, &c; ond er maint y gost, nid oeddynt yn taluffyrlingo'rddyíed. Hefyd- 2A.