Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XXVII.] MEHEFLN, 1853. [Llype III. EIN CWYMP YN ADDA, A'N CODIAD YN NGERIST. "Oblegid megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd-dod uu y gwneir llawer yn gyfiawn." Yn yr adnod hon y mae Adda a Christ yn cael eu dal gyferbyn a'u gilydd—y cyntaf yn anufuddhau, ac oblegid ei anufudd-dod yn cwympo, ac yn ei gwymp yn tynu ei holl had gydag ef i ddyfnder yr euogrwydd a'r trueni mwyaf; a'r ail yn ufuddhau, ac am ei ufudd- dod yn cael ei ddyrcnafu, ac yn ei ddyrchafiad yn cyfodi ei holl had gydag ef i fwynhad o'r dedwyddwch a'r gogoniant mwyaf. Ni bu dau erioed yn y byd mor debyg i'w gilydd, ar rai ystyron, ag Adda a Christ, nac mor annhebyg, ar ystyron eraill. Edrychwch. ar eu sefyìlfaoedd. Ni ddarfu i chwi weled erioed debygolrwydd mwy cywir. Edrychwch ar eu hymddygiadau yn y sefyllfaoedd hyn. Ni ddarfu i chwi erioed weled gwahaniaeth mor nodedig. Maent mor debyg yn eu sefyllfaoedd fel y geilw yr apostol hwynt, " y dyn cyntaf," a'r "aii ddyn;" fel pe na buasai dyn erioed wedi bod rhyngddynt; ac mor annhebyg yn eu hymddygiadau, fel y mae anufudd-dod y naill yn ddiareb, ac ufudd-dod y llall yn cael ei ddal allan fel siampl i bawb, yn ol maint eu cylchoedd, i'w dylyn. Y ddau amgylchiad pwysicaf a gymerasant le erioed yn ein byd ni ydoedd anufudd-dod a chwymp yr Adda cyntaf, ac ufudd-dod a chodiad yr ail Adda. Mae Üawer o amgylchiadau a elwid yn bwysig wedi cymeryd lle oddiar hyny, ond mae eu heífeithiau erbyn heddyw wedi Uwyr fyned heibio; nid oes genym ddim o'u holion hwy ond yr hanes; ond y mae effeithiau y ddau hyn yn parhau yn awr, a pharhant yn oes oesoedd. Edrychwn am enyd o'n cwmpas, a gallwn weled effeithiau y cwymp mor amlwg ac amlycach yn wir na'r boreu cyntaf wedi ei ddygwydd. M ae un yn rhegu, arall yn meddwi, arall yn cybydda, crib- ddeilio, a gwasgu y tlawd hyd yr asgwrn; y mae y byd yn llawn cynhwrf, a'r cynhwrf hwnw gan mwyaf yn gynhwrf pechadurus; ond pa beth yw yr holl swn? Nid yw mwy na llai na swn adfeilion y codwm, yn treiglo ac yn rhuthro ar draws eu gilydd, ac yn gorthrymu eu gilydd, ac yn lladd eu gilydd wrth dreiglo tua dinystr. Ond cewch yma a thraw rai eithriadau i'r ffordd gyfrredin. Clywch ambell un yn cwyno gan galedrwydd ei galon; wrth fyned heibio i ambell dý, gellwch glywed y preswylydd yn tywallt ei galon ger bron gorsedd y nef: dyna un neu ddau o effeithiau ufudd-dod Adda'rail; plant y codiad yw y rhai yna sydd yn dystaw "dynu ar i fynu." Yr Arglwydd a'u lluosogo fil myrddiwn. Ond nid yw eu heffeithiau yn cael eu cyfyngu i'r byd hwn; gwelir effeithiau y ddau yn amlwg i dragywyddoldeb yn y byd a ddaw. I. Sylwn ychydig ar bechod Adda. Mae llaẁer o bechodau wedj eu cyflawni yn y byd o hyny hyd yn awr, ond hwn yw y pechod hynotaf a gyflawnwyd erioed—dyma y boncyff ar ba un y tyfodd pob pechod arall; dyma y llif-ddor trwy ba un yr ymruthrodd pob pechod arall fel rhyw raiadr ofnadwy ar hyd a lled y ddaear. Mae rhai yn rhyfeddu paham y gosodir y fath bwys ar weithred a ymddengys mor fychan. *'Dim ond estyn ei law," ebe awdwr diweddar, "a chymeryd a bwyta afal bychan, neu ryw ffrwyth tebyg." Atolwg pa niwed mawr a allai fod yn hyny r Oni «hyflawnwyd pechodau Uawer mwy a gwaeth wedi hyny? Onidoedd pechod Cain, yr hwn a laddodd ei frawd, yn llawer mwyofnadwy? "m ddarfu i lawer a osodir allan yn y Bibl fel dynion da, fod yn euog o bechodau liawer nrwydiriaid? Mae yn wir mai bwyta o ffrwyth pren ydoedd y weithred; ondymaeyr amgylchiadau ó dan ba rai y cyflawnwyd y weithred hono yn ei gwneyd y fwyaf andwyol & f W^ drygionus a gyflawnwyd oddiar hyny hyd yn awr. Mae euogrwydd a drwg pechod yp oael ei fwyhau neu ei leihau yn ol yr amgylchiadau o dan ba rai ei cyflawnir. ■ûnwn rai pethau sydd yn gwneyd peohod Adda yn bechod erchyll..