Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XXVI.] MAI, 1853. [Llyfr III. "ÁW EHAGOM AT BEEEFEITHEWYDD." GAN Y PARCH. W. GRIFFITHS, GOWER. Y mab yr hen ddywediad, "nad oes dim perffaith mewn byd anmherffaith," mewn rhan yn wir, ac mewn rhan yn wallus. Mae holl waith Duw yn mhob byd yn berffaith, ond holl waith dyn yn anmherffaith. Mae hefyd amryw fath o berffeithrwydd; megis perffeithrwydd corphorol, elfenol, moesol, ac ysbrydol; perffeithrwydd egwyddorion a chynlluniau pethau heb eu gweithio allan, a pherffeithrwydd y gwaith pan orphener. Nid yw Duw yn per- ffeithio pob gwaith ar unwaith, er fod perffeithrwydd yn mhob rhan a phob cyfnod o'i waith Ef. Mae perffeithrwydd yn arwyddo peth difai, pa un bynag ai mewn natur ai mewn celfyddyd y bydd; hefyd peth nas gellir chwanegu ato na thynu oddiwrtho—peth nas gellir ei ddyrchaíu na'i ddarostwng, neu weithredu ynddo yr un cyfnewidiad. Yn y golygiad hwn Duw yn unig sydd berffaith o ran natur; ac o ganlyniad Efe sydd berffaith ei ffordd yn ei holl weithredoedd. Efe yn unig sydd bob amser yr un, heb gyrhewidiad na chysgod troed- igaeth, yn preswylio yn y goleuni dysglaer nis gellir dyfod ato. Nis gall Efe gyfnewid dim sydd ynddo ei hun mewn natur, bwriad, neu gynghor; ac nis gall neb arall fyth ddyfod yn agos ato, er effeithio yr un cyfnewidiad ar ei feddwl neu ei weithredoedd Ef. Mae Duw yn berffaith anfeidrol yn ei holl briodoliaethau, cyfranogol ac annghyfranogol; nid oes chwanegu at, na thynu oddiwrth ei wybodaeth, ei ddoethineb, ei allu, na'i santeiddrwydd Ef. Y mae pcrffeithrwydd pob creadur yn ymddibynu ar y peth ydyw fel gwaith Duw, fel y mae yn dyl'od o'i law ef wedi ei orphen, neu y peth a fydd pan fyddo wedi ei berffaith gyflawni. Ünd wrth sylwi ar greaduriaid moesol (ac yn bresenol cyfyngir ein sylw at ddynion) y mae yn hawdd canfod fod perffeithrwydd neu anmherffeithrwydd y rhai hyn, mewn ystyr foesol a dedwydd, wedi ei gysylltu a rhyddid gweithrediad yr ewyllys sydd ynddynt fel creadur- iaid rhesymol a chyfrifol. Bhaid i ni edrych ar ddyn yn wahanol i bob creadur arall, fel ag yr oedd, fel ag y mae, ac fel ag y bydd mewn sefyllfa ddyfodol. Gwnaed ef yn berffaith ar y cyntaf, er heb ei gwbl berffeithiomewn graddau. Gwnaeth ei hun yn anmherffaith iawn a thruenus; ond gwneir ef eto gan ras yn fwy perffaith nag ar y cyntaf. Yr oedd ei wneuthuriad cyntaf oll o Dduw, heb un llaw ganddo ei hun; yr ail yn gwbl o'i ddewisiad a'i ysgogiad ei hun, heb un llaw gan Dduw yn ei gwymp: " Hwy a'm gadawsant i ffynon y dyfroedd byw." Trwy hyn syrthiodd eu coron; aeth yr aur pur yn sothach, a newidiodd yr aur coeth yn beth Uygredig a diwerth. Eithr y mae gras wedi trefnu moddion i adferu a phuro y.creadur gwrthgiliedig hwn, nes ei gwncir o'r diwedd pan ei dygir i ogoniant, yn fwy perffaith nag yn y dechreuad. Mae y pcrffeithiad hwn hefyd, mewn ystyr gyfyng, oll yn.waith Duw, ond mewn ystyr weithredol yn waith y dyn danddylanwad Ysbryd Duw. "Gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn; canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu." Mae gan wir Gristionogion oll waitly'w wneuthur mewn ystyr dufewnol ac ysbrydol, a hwnw hefyd yn waith mawr, ac yn brif orchwyl eu bywyd, sef ilperffcithio santciddrwydd yn ofn ŵw." Gwaith na wneir yn neb heb fod eu hunain yn weithgar ynddo. At y gwaith hwn y mae ein golwg yn yr ysgrif hon. "Awnrhagom at berffeithrwydd:' Mae yma ddyben ac amcan personol i'w gyrhaedd, yn nghydag anogaeth ddwys i wneyd ymdrech deg i'w fwynhau. Dymunem alw sylw ein darllenwyr, er anog at hyn, at yr anmherffeithrwydd mawr mewn gwybodaeth a phrofiad sydd mor amlwg yn mysg crefyddwyr, a'r tlodi ysbrydol sydd yn ganlyniaa i hyny. Cyn myned yn mhellach angenrheidiol yw sylwi fod dau berffcithrwydd mewn golwg yn yr ysgrythyrau mewn cysylltiad a chrefydd. Perffeithrwydd y saint ar y ddaear, yr awn nid yw ond cydmariaethol, a pherffeithrwydd dibechod gwlad goleuni, lle y mae pob egwyddor a gwaith wedi eu cwbl berffeithio. At y cyntaf y mae prif amcan ein sylw pres-