Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Hhif XXV.] EBRILL, 1853. [Llyfr III. YSBEYD Y GWIEIONEÜD. "Eithr pan ddel y Dyddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddiwrth Tad (sef Ysbryd y gwirionedd yr hwn sydd yndeiíliaw oddiwrth y Tad), efe a dystiolaetha am danâf fi." Mae geiriau ein testun yn rhan o'r ymddyddan diweddaf a fu rhwng Iesu Grist a'i ddysgyblion. Ar ol i'r Iesu dreulio rhai blynyddau i ddysgu ci ddysgyblion, yr oedd yn naturiol iddo cyn ei gadael yn angau, roddi iddynt rai rhybuddion, cynghorion, a chyfarwyddiadau. Fe welodd Ysbryd Duw yn dda i gynhyrfu Ioan i ysgrifenu y pethau diweddaf a ddywcdodd Crist wrth ei gyfeillion cyn marw ar y groes. Yn mysg pethau eraill a ddywedodd wrthynt, gorchymynodd iddynt garu eu gilydd: "Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi." Mewn adnod arall dywedai, "Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch cich gilydd." Mae fod yr Iesu yn aÚadrodd yr un gorchymyn yn dangos fod brawdgarwch yn beth pwysig, buddiol, ac angenrheidiol. Wrth glywed yr Iesu yn son cymaint am gariad, ac yn rhoddi gorchymyn ar orchymyn o berthynas i garedigrwydd brawdol, yr oedd yn naturiol i feddyliau i yrngodi ynddynt am gasineb y byd tuag atynt. Mae yn debygol fod yr Iesu yn gweled y fath feddyliau yn ymgodi yn eu calonau, pan y dywedodd, " Os yw y byd yn eich casâu chwi, chwi a wyddoch gasâu o hono fyfi o'ch blaen chwi." Debygid mai nid o fiaen o ran amser a fcddyliai yn y fan hono, ond o'r blaen o ran rhagoriaeth : "Chwi a wyddoch gasâu o hono fyfi oedd yn rhagori arnoch chwi." "Pe byddech o'r byd, y byd a garai yr eiddo." Yr oedd y dysgyblion yn y byd; eto nid oeddynt o'rbyd; nid egwyddorion y byd oedd yn llywodraethu yn eu calon. Nis gall y byd garu neb na dim ond ei ei'ddo. "Pe byddech o'r byd, y byd a garai yr eiddo; ond oblegid nad ydych o'r byd, cithr i mi eich dewis allano'r byd, amhyny y mae y byd yn eich casâu chwi." Dcwisiad Crist o honynt a gyffrodd gasineb y byd. Yr oedd clywcd eu Harglwydd yn rhagfynegu y byddai i'r byd eu casâu, yn tueddu i'w Hwfrhau a'u digaloni; ond rhag iddynt gael eu gorchfygu gan dristwch, dywedodd Crist wrthynt, "Cofìwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd." Mae yn ddiau i'r frawddeg fer hon gael ei chofio gan y dysgyblion mewn llawcr ystorm gref, mewn llawer profedigaeth danllyd, ac mewn Hawer erledigaeth boeth. Melus a fu iddynt gofio yn fynych, "Nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd." Peth ofer oedd i'r gweision hyn i Grist, y rhai oeddynt wcdi eu meddiannu gan yr un egwyddorion ag yntau, i ddysgwyl mwy o barch ac anrhydedd na'u Harglwydd. "Os erlidiasant fi, hwy a'ch crlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant." Mae yr ymresymiad a gynwysir yn yr ymadroddion hyn yn llefaru yn uchel am zel a ohariad y dysgyblion. Deallasant wrth yr ymresymiad mai erledigaeth fyddai eu rhan. "Eithr hyn oll a wnant i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm tanfonodd i." Yr oedd yr Iuddewon yn proffesu yr adwaenent Dduw; a'r byd yn gyffredinol yn cymeryd arno barchu uniondcb a rhinwedd; ond nid adwaenent y Tad. Wedi rhagfyiiegu y profedigaethau a gyfarfyddai y'dysgyblion, troes meddwl yr addfwyn Iesu yn ol ato ei hunan, ac at aflwydaiant ei weinidogaeth. Nid oedd raid iddo ef gywilyddio oblegid anffyddlondeb a musgrellni, wrth edrych yn ol ar ei yrfa •weinidogaethol. Pechod aawr yr luddewon yn annghredu oedd y peth a wasgai ar ei feddwl ef. " Oni bai fy nyfod a Uefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awr hon nid oes ganddynt esgus am eu pochod." Debygem i ryw ddystawrwydd pruddaidd ganlyn llefariad yr ymadrodd pwysig a sobr hyn. Nid ydym i ddeall na fuasai pccliod ar yr Iuddewon pe buasai Iesu heb ddyfod ir byd yn yr ocs hono: ond ni buasai y pechod mawr o annghredu gweinidogaeth Mab Duw arnynt, oni buasai iddo ddyfod a llefaru wrthynt. Wcdi clywed y fath genadwri o enau y fath gena'd, nid oedd ganddynt esgus am eupechod. AIae ymwŷbodolrwydd Crist o'i anfoniad yn dyfod i'r golwg'yn yr adnod nesaf. "Yr hwu