Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XXIV.] MAWRTH, 1853. • [Llyfb III. DADLENLAD ANFAEWOLDEB. " Yr hwn a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy yr efengyl."—Paul. Y fath frenin galluog yw angau! Mor eang yw ei deyrnas! mor afrifol yw ei fuddugol- iaethau! Mae wcdi ysgubo cenedloedd i ddinystr â llif'eiriaint ei gedyrn ruthriadau. Mae pob llwyth, iaith, pobl, a chenedl, o'r cwymp hyd yn awr, wedi ymgrymu i'r llwch ger ei fron. Mae ein daear wedi ei thori yn feddrod i'w phreswylwyr ei hun. Y tadau oll, pa le y macnt hwy? Er cadarned y breniniaethau a godasant, er amled y byddinoedd a arwein- iasant, ac er dysgleiried y buddugoliaethau a enillasant, hunant yn dawel er ys oesoedd o dan ocrleni y pridd. Yr ydym ninnau yn chwyrn yru ar eu hol. Mae eu "tŷ" hwy yn "rhagderfynedig" i ninnau. Yno dcrfydd ein cyffro, difiana ein rhwysg, a ni a fyddwn megis pe na fuasem. Darostyngir pawb i'r un raddfa: dodir y tywysog yn ymyl y cardotyn, a'r deiliad yn ymyl y brenin. Try glendid yn llygredd—nerth yn wendid—gogoniant yn warth. Yno mae y gwron fel y baban, a'r gorchfygwr fel y gorchfygedig. Mewn gair, yno y mae llwch holl drigolion yr oesoedd yn ymgymysgu. Oh! y fath esgyrndy anferth yw y ddaear hon! Mae wedi ei hamdoi ag adfeilion ein natur, wedi ei gwaghau a'i thangloddio â beddau ein hynafìaid. Pe cydgesglid holl weddillion dynolryw at eu gilydd, y fath fynyddoedd a ffurfient! Wrth edryeh ar y lladdfa fawr hon, ar y galanastra dychrynllyd hwn, ar yr adfeilion anferth hyn, pwy na frawycha gan ofyn, "Ai hon yw sefyllfa derfynol dynoliaeth? A yw yr holl fyrddiynau hyn o fodau a luniwyd mor gywrain, a gynysgaethwyd â chyneddfau mor ardderchog, ac a ddygwyd trwy oruchwyliaethau mor ryfeddol gymhlethedig, wedi eu llwyr ddifodi, a'u taflu i lynclyn diddymdra, heb fyth adymddangos ar esgynlawr bodolaeth mwyach ? Ai hyn yw diwedd y bod rhyfeddol—dyn?" Treuliwyd oesoedd i geisio ateb y gofyniadau hyn. Llwyrfethodd prifgewri dysg a gwybodaeth yn eu hymgais. Ymdrechodd rheswm am oesocdd lawer'i ddadgloi dôr marwolaeth, fel y caffai olwg ar ddirgelion "tir pell" tragwyddoldeb: ond safai y barauyn ddiysgog! Gwnaeth gwroniaid y cynoesoedd orchestweithiau a'u coronasant ag anrhydedd anniflanol, ac a'u dyrchafasant i'r eisteddfa orwychaf yn nheml anfarwoldeb: ond pan gyfarfyddent ag angau, troént yn fabanod diddym, gorchuddid eu hagweddau a glesni annaearol; heb un arf i'w wrthwynebu, nac un ddirnadaeth am ddybenion na dylynofíonei oruchwyliaeth, dystawent yn syn, tarawid hwy â mudanrwydd anesboniadwy. Yr oedd y cyfan o'u blaen yn dywyllwch pardduaidd, yn nos hollawl. Gwnaeth dysgedigion Cenedlig ddarganfyddiadau rhyfeddol ynmydmeddwl a gwyddoniaeth: esboniasant lawer o ddirgelion a ystytid yn anesboniadwy; tynasant ymaith lawer llen, a dygasant olygfaoedd newyddion ac ysblenydd i'r amlwg: agorasant lawer elo, a chawsant fynediadau ehelaeth i mewn i ryfeddodau anian: yr oedd y cymylau duon a amdoent wahanol ddosbarthiadau natur yn diflanu, a'r holl dywyllni yn troi yn oleu dydd o flaen ysblander goleuni eu hymchwiliadau: ond pan ofynid iddynt, Pa beth yw angau, neu pa beth sy tu hwnt i angau? tröai eu tafodau yn fud, eu rheswm yn ffolineb, eu dychymyg yn wagedd, a'u teimlad yn oerni. Y bedd! dyna derfynle eu holl wybodaeth, dyrysfa euholl ddysg, llynclyn eu holl ddychymyg: Uen ydyw, na allodd ag na all holl offer rheswm wneyd un rhwyg ynddi: caddug, nad yw lamp synwyr o un gwasanaeth ond i'w ddangos. Yn absenoldeb goleuni dadguddiad, ni fuasai haul rheswn y digyffelyb Newton yn ddigon dysglaer i oleuo glyn cysgod angau. Gallodd ef, a lluaws ar ci ol ef, esgyn i fonwes yr haul, ac oddiyno dynu darlun cywir o'r °^ygfa ar y bydoedd amgylchynawl; ond pe cynygasid "tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, ahebdrefn" iddynt i'w darlunio, cawsent dreulio myrddiytíau ar fyrddiynau o ganrifoedd heb dynu un lUnell gywir. Ar y "tir" hwn mae "goleuni" natur fel y tywyll-