Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XXIII.] CHWEFROR, 1853. [Llyfr III. Y TLODI MAWE! " Eich bod chwi y pryd hwnw heb Grist, wedi eich dyeithrio oddiwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddiwrth amodau yr addewid, heb obaith genych, ac heb Dduw yn y byd." Èph. ii. 12. Y mae y testun yn cynwys cyfres o bethau i'w cofio. Yr oedd cyfnewidiad mawr wedi cymeryd Ue yn yr Éphesiaid, a hwnw yn gyfnewidiad er gwell—y fath gyfhewidiad ag sydd raid cymeryd lle ynom ninnau oll os dianc a wnawn rhag tragywyddol wae. Yr oeddynt yn feirw mewn camweddau a phechodau, ond cawsant eu bywhau; yr oeddynt yn elynion, oüd heddychwyd hwy â Duw; yr oeddynt yn mhell, ond dygwyd hwy yn agos; yr oeddynt yn ddyeithriaid a dyfodiaid, ond yn awr yn gyd-ddinasyddion a'r saint, ac yn deulu Duw. Y mas yr apostol am argraffu ar eu meddyliau wirionedd y ffaithmai nid hwy eu hunain oeddynt wedi cyfnewid eu hunain. Yr ocddynt wedi eu bywhau, ond Efe, Duw pob gras oedd wedi eu bywhau hwy; yr oeddynt wedi eu gwneyd yn agos trwy waed Crist, yr oeddynt wedi eu heddychu trwy y groes. Yr ocdd Iuddewon a Chenedloedd wedi eu heddychu a'r un Duw, wedi eu gwncuthur yn un corph, ac w"edi eu heddychu a'u gilydd trwy yr un groes. Yr oedd yr elyniaeth rhyngddynt a'u gilydd, a'r elyniaeth rhyngddynt a Duw wedi ei ladd trwy y groes. Lladd yr clyniaeth ac arbed y geíyn—pwy allasai wneyd hyny ond Duw pob gras? Ac nid oedd wedi gwneuthur hyn â hwy oblegid eu bod wedi haeddu y fath gymwynasau, nid oeddynt hwy mwy na ninnau yn haeddu un daioni, ond yn haeddu pob drwg. Rhad ras, pcnarglwyddiactbol ras oedd wedi gwneyd y cwbl. "Trwy ras yr ydych yn gadwedig; trwy ffydd, a hyny nid o honoch cich hunain; rhodd Duw ydyw." Gras yw yr Alpha a'r Omega, gras yw y dechreu a'r diwcdd yn iachawdwriacth dyn. Y mae careg sylfaen ein hiachawdwriaeth yn cael ci gosod i lawr gan ras, ac fe ddygir allan y maen penaf gyda bloeddiadau "gras, gras iddo." Y mae yr apostol yn galw i gof yr Ephesiaid y scfyllfa yn mha un yr oeddynt gynt, fel anogaeth i ddiolchgarwch, ac fel cyffroad i ostyngeiadrwydd. "Am hyny, cofiwch," &c. Pe byddem pob amser yn cadw yn ein cof y tlodi mawr, y trucni dwfn, o ba rai yr ydym wedi ein gwaredu; pe byddem bob amser yn cadw yn ein cof y bendithion gwerthfawr sydd wedi cu dwyn i'n meddiant; pe byddem bob aniser yn cadw yn ein cof Awdwr y cyfncwidiad gwerthfawr, yn wir nis gallem lai na bod yn ostyngedig, yn sicr nis gallem lai na bod yn ddiolchgar, yn wir nis gallem lai na bod yn ymdrechgar i fynegu rhinweddau y Duw sydd wedi cin dwyn ni mor rasol o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni cf. Cofiwch pa beth ocddyeh. Cofiwch pwy sydd wedi dwyn y cyfnewidiad o amgylch. Dylem alw allan boll drysorau y cof i gynorthwyo gras; yn wir dylem alw allan holl alluoedd yr enaid i helpu gras yn yr enaid. Digon gwan y w gras yn y gorcu, ac y mae iddo elynion cryfìon; gwneir ymosodiadau cryfion arno o fewn ac o faes. Gad yw—y mae rhyw lu yn ei orfod, dylem geisio pob help iddo o bob man er mwyn iddo yntau orfodb'r diwedd. Ac nid yr hclp lleiaf iddo yw cofìo pechodau gynt gydag edifeirwch, a chofio gwarcdigaethau gynt gyda diolchgarwch. Desgrifiad yw y tcstun o'r peth a fu yr Ephesiaid gynt—desgrifiad o'r hyn a fu y darllenydd sydd yn awr yn gredadyn; a thra mae yn desgrifio pa beth a fu y Cristion gynt, mae yn desgrifio gyda pherffaith gywirdeb a manyìder y peth yw y pechadur anedifeirioí yn awr. Y mae pob dyn anedifeiriol sydd heb Grist yn estron i wladwriaeth Israel, yn ddyoithr i amodau yr addewid, heb obaith, ac heb Dduw yn y byd. V mae y gwirionedd weithiau yn dangos trueni dyn trwy ddangos pa beth yw, a pha beth sydd ganddo. Y mae y testun yn dangos yr un peth trwy ddangos pa bcth nad yw, a pha pcth y mae hebddo. Y mae yn ddyn hcb Grist, heb bcrthynas a gwladwriaeth Lrael, heb gydnabyddiaeth ag amodau yr addewid, hcb obaitb, ac heb Dduw yn y byd.