Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XXI.] RHAGFYR, 1852. [Llyfr II. CEEDU YN NGHBIST. "Fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragywyddol." Ioan iii. 15. Y mae ein sefyllfa am dragywyddoldeb yn ymddibynu ar ba un ai credinwyr neu annghred- inwyr y byddwn yn Mab Duw. Y mae daioni credu, a drwg annghredu—y fraint o gred- iniaeth, a'r pechod a'r perygl o annghrediniaeth, yn cael eu dangos yn berffaith amlwg yn ngair yr Arglwydd. Yr oedd Abel yn credu, ac fe gymeradwywyd ei aberth; yr oedd Cain yn annghredu, ac fe wrthodwyd ei aberth. Nid yn y pethau a aberthcnt yr oedd y rheswm am dderbyniad y naill, a gwrthodiad y llall, ond. yn agwedd meddwl yr aberthwyr. Yr oedd Abel yn credu, a Chain yn peidio—dyna paham y cymeradwywyd y cyntaf, ac y gwrthodwyd yr olaf. Fe gredodd Noah y dclai diluw, ac fe ddarparodd arch; ond ni fynai y cynddiluwiaid gredu, a dirmygasant yr arch; a'r canlyniad fu, fe achubwyd Noah, a boddwyd hwythau. Fe gredodd Lot dystiolaeth yr angylion, ac fe'i achub- wyd rhag y tân ; gwrthododd ei gymydogion gredu, ac fe'u Ûosgwyd gan y tân. Gellid lluosogi siamplau, a'r siamplau o'r ysgrythyrau santaidd, yn dangos y daioni o gredu, a'r drwg o beidio. Ond y mae yr un pwys mewn credu yn awr ag yn yr amseroedd gynt. Y mae yr un perygl yn gysylltiedig ag annghrediniaeth yn awr ag a fu erioed. Dengys ein testun fod yr hwn sydd yn credu yn Iesu Grist yn ddiogel rhag colledigaeth, yn sicr o gael y peth mawr hwnw ag y mae pawb yn eiddewis—bywyd tragywyddol; ac o ganlyniad fod yr hwn nad yw yn credu yn ngafael colledigaeth, ac yn agored i farwolaeth dra- gywýddol. I. Gan fod annghrediniaeth yn gymaint bai—gan fod credu yn beth o gymaint pwys—gan fod ein sefyllfa dragywyddol yn troi ar gredu, y mae o bwys i ni wybod a ydym yn credu ai peidio; a thuag at wybód a ydym yn credu, y mae arnom eisiau gwybod a deall pa beth yw credu. Fy aracan ar hyn o bryd fydd ceisio egluro y pwnc pwysig hwn. Efallainad oes dim yn cael ei wneyd yn fwy mynych na dangos i ddynion ei fod yn ddyledswydd arnynt i gredu yn Nghrist, a bod perygl ofnadwy mewn peidio a chredu; efallai nad oes dim ÿn fwy anfynych na dangos mewn dull hawdji i bob un ei ddeall pa beth yw credu. Mae rhai wedi gosod credu yn amod bywyd tragywyddol; fel yr oedd perffaith ufudd-dod yn amod bywyd o dan yr hen gyfamod, fod bywyd yn cael ei roddi am gredu o dan y cyfamod newydd. Ond camsyniad yw hyny—nid oes un sail iddo yn y gwirionedd—a chamsyniad wedi rhoddi bod i luaws o gamsyniadau eraill yn mherthynas i'r peth yw credu. Oddiyma ỳ tardd y farn gyfeiliornus hono am gredu noeth. Chwi glywsoch am "greâu noeth." Os mynwch wybod pa beth yw, neu pa beth y mae eu ffurfwyr yn ei feddwl wrth JT ymadrodd rhyfedd hwn, hyn ydyw : Credu gwirionedd yr hanes ysgrythyrol fel y bydd- wch yn credu gwirionedd rhyw hanes arall. Chwi glywsoch eich rhieni yn adrodd* rhyw hanesion pan oeddych yn ieuainc, am bethau wedi dygwydd o fewn cylch eu gwybodaeth flwy : yr oeddych yn credu fod y rhai hyny yn wirionedd. "Wel, mae y bobl hyn yn dweyd os credwn ni fel hyny fod yr holl bethau ag y mae Duw yn eu dweyd yn ei air yn wirionedd, er na chaffo y credu hwnw un effaith ar ein teimladau nac ar ein bucheddau, y rhydd Duw %wyd tragywyddol i ni am hyny. Mae yma ddau o jgamsyniadau pwysig. Y cyntaf yw, fod yr Arglwydd yn rhoddi bywyd tragywyddol «»ýun máth o gredu yn y byd; a'r ail yn terddu o'r cyntaf, fod rhyw fath o gredu arwynebol, marw, yn ddigon i gyrhaedd y sefyllfa ^ynfydedig hono. Y mae credu yn Nghrist yn cynwys credu yr hanes a roddir am dano. Mae yn rhaid credu pob hanes cyn y teimlwn oddiwrtho; y mae yn rhaid credu hanes cyn 2u