Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XVII.] AWST, 1852. ~ ^ [Lltfe II. GOLYGFEYDD 0 FYWYD ABEAHAM. EHIF I.—GALWAD ABEAHAM. "A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy goncdl, ac o dŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti. A ini a'tb. wnaf yn genedlaetli fawr, aè a'th fendithiaf; mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith," &c.—Gen. xii 1—4. GAN Y PARCH. D. EVANS, ABERTAWY. Abraham ydyw un o brif wroniaid yr hcn oesau. Mawr ydyw ei rym, a gogoneddus ydyw ei gynnriad. Sonir mwy am dano yn yr Hen Destament nag am neb arall. Pan na ddcfnyddir ond chwcch o bcnnodau i roddi hanes y byd o'r greadigacth i'r dylif, cyfnod o un fil chwech cant ac un ar bymtheg a deugain o flynyddoedd, dcfnj'ddir dim llai na phedair ar bymthcg o bennodau i ddarlunio bywyd Abraham, er na chuddiai hyny ond ysbaid o gant a phymthcg a tliri ugain o íìynyddoedd. Ac nid oes un afresymoldeb yn hyn. Pan y meddyliwn am y dybenion gorbwysfawr a fwriedid gyfìawni gan ddoethineb Duw trwy alw Abraham allan o blith cencdl o eilunaddolwyr, a'i wnenthur cf yn ben hil bennodol a dewisedig, dysgwyliwn yn naturiol idd ei fywgraffiad gael ei ysgrifenu gyda gofal a man- yldeb. Yr oedd Abraham i fod yn ben goruchwyliaeth newydd. Er na fodola ond un gyfundraeth o ras a thrugaredd o ddechreu hyd ddiwedd amser, eto gwna yr un hono ranu ei hun i dair o oruchwyliaethau olynol, pa rai a wahaniaethant yn eu nodweddau yn ol cyflwr y byd yr amser yteyrnasant, a'r gwrthddrych a ewyllysir gyflawni trwyddynt. Yr oruchwyliaeth gyntaf oedd yr un archdadol; perthynai hono i deuluoedd. Yr ail oedd yr un Iuddewaidd; perthynai hono i genedl. Y drydedd ydyw yr un Gristionogol; perthyna hon i'r byd. Y gyntaf a ymddangosai fel scren gryncdig yn y pellafoedd anfesur- adwy, yn methu dadguddio dim ond y tywyllwch a'i hamgylchynai; yr ail a ymddangosai fel y íleuad wiwlon, yn Uai yn ei phellder, ac yn gryfach yn ei goleuni; ond eto yn methu dangos fawr ond bryniau a chysgodau; y drydedd a ymddysgleiria fel haul yn ei rwysg a'i ogoniant. Y cyntaf oedd yr eginyn, fel y gwthiai efe ei ben gwan uwchlaw y briddell; yr ajl ocdd y glaswelltyn, fel y dechreuai y dywysen ffurfio; y drydedd yw y dywysen yn ei llawnder a'i haddfcdrwydd. Meddai yr oruchwyliaeth gyndadol ar gymhwysderau ac elfenau er rheoleiddio teuluoedd; meddai yr un Abrahamaidd ar gymhwysderau er Uyw- odracthu ccnedl; meddai yr un Gristionogol ar egwyddorion a chyfaddasrwydd er llywyddu oyd. Gwareiddiai y cyntaf; mocsolai yr ail; efangyleiddia y drydedd. Y cyfnod at ba un y cyfeiiir ein sylw yn awr ydyw yr amscr yn mha un y dygwyd i mewn yr ail: pan y dechreuodd y Goruchcl neillduo iddo ei hun y genedl ctholcdig. Y mae y geiriau ar ba rai y sylfaenir y nodiadau a ganlyn yn llawn o addysg a dyddordeb. Y peth a hawlia cin sylw ydyw— I. Galwad Abraham. "A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o'th wlad ac oddiwrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti." Ymddibynai canlyniadau pwysfawr a gogoneddus ar alwad Abraham. Ymddangosai fel «ynonell fywiol, o "ba un yr ocdd i darddu afon hirfaith a llydan ag ocdd i ffrwythloni tiriogaethau eang; neu agorfa o ba un y cymerwyd y maen cyntaf allan o graig, o ba n y penderfynid i adeiladu dinas orwych a mawrcddog. Beimiaid a wahaniaethant yn eu golygiadau mewn porthynas i alẁad Abraham. E.hai a dybiant iddo gael dwy alwad; eraill a ymdrcchant brofi na chafodd ond un. Ymddengys i fiii mai y dyb gyntaf ydyw'r un fwyaf cyson. Dyweda Stephan yn bendcrfynol yn Act. vii, | r ArglWydd alw Abraham pan yn Mesopotamia, cyn iddo drigo yn Charran. Yr oedd ü3'ny o ganlyniad yn flaenorol i'r tro y sonir am dano yn ein testun. Y drychfeddwl towỳaf natur'iol a chyngwcddol ydyw'r un a ganlyn. Galwyd Abraham pan yn Mesopotamia 1 ymadael â Ur y Caldeaid; gwnaeth yntau hyny yn adnabyddus idd ei dad, ac i'r holl üeulu, a gwahoddodd hwynt i gydymdcithio ag ef. Gwnaeth Terah, Lot, a Sarah ufudd- üau; a hwy a aethant allan yn nghyd i fyued i dir Canaan. Cyrhaeddasant Haran, a 2 D