Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif XV.] MEHEFIN, 1852. [Llyfr II. CAEIAD EEENGYLAIDD A'I BEAWFNOD. " Yr hwn sydd a'm gorchymynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i." GAN Y PARCH, D. JENKINS, BABELL, MYNWY. Nid oes dim yn fwy hanfodol i grefydd na chariad. Efe yw unig ffynonell pob ufudd-dod derbyniol yn y byd hwn, ac ernes dcdwyddwch perffaith mewn mwynhad o Dduw yn y byd nesaf. Er fod dirfawr amrywiaeth yn ansawdd a gwrthddrychau amrywiol grefyddau y byd, eto cyfaddefír yn gyffredinol fod cariad yn rhan arbenig ac hanfodol yn mhob un o honynt. Mae crefydd heb gariad mor afresymol ag y byddai cyfeillach heb gariad. Yr ynfydrwydd mwyaf a ellir ei ddychymygu yw addoli Duw nad y'm yn garu, mawrhau rbagoriaethau nad ym yn eu cymeradwyo, neu arddel crefydd a sefydlwyd gan elyn. Pel y mae cariad yn hanfodol i grefydd, felly y mae adnabyddiaeth yn hanfodol i gariad. Annichonadwy yw caru gwrthddrych anadnabyddus. Mae pob teimlad o ymhyfrydiad mewn gwrthddrych yn gynyrchedig gan, ac yn sylfaenedig ar ragoriaeth sylweddol neu dybiedig yn y gwrthddrych hwnw; gan hyny mae adnabyddiaeth o hono yn hanfodol i roddi yr ysgogiad cyntaf i'r cyfryw deimlad. Mae gan y credadyn reswm am ei gariad at Fab Duw—mae yn adnabod y gwrthddrych. Hefyd y mac cymeradwyaeth a derbyniad calonog o Grist yn un o brif gyneddfau cariad cfengylaidd. Ac mewn trefn i ddyn wneuthur y cyfryw gymeradwyaeth, rhaid ei fod yn feddiannol ar egwyddorion a thueddiadau cydunol a chyfaddasol â'r priodoleddau a gyfansoddant deilyngdod y gwrtbddrych. Mae cyd-darawiad mewn anian a thuedd yn. beth hollol angenrheidiol er cynhyrfu a mcithrin serch. Anmhosibl i anffyddiwr ymserchu mewn Cristion, nid am fod yr olaf yn ymddifad o ragoriacthau, ond am fod y fath anngbydffurfìad dirfawr rhwng eu golygiadau a'u hegwyddorion llywyddol. Rhaid cael graddau o gyfatebolrwydd yn ein meddwl a'n hewyllys ni i feddwl ac ewyllys Crist cyn y gallwn ymbyfrydu ynddo. Nid oes y radd leiaf o'r cyfryw gyfatebolrwydd yn nghalon dyn diadgonedledig, yr hyn sydd yn profì yr angcnrheidrwydd am "dduwiol anian," neu "Grist ynom," er ein galluogi i ymserchu ynddo. Bhaid i ni gael cariad fel y mae yn ras wedi ei "dywallt ar led yn y galon," cyn y gallwn ei weithredu fel y mae yn ddyledswydd. Mae gan ffydd ran arbenig yn nghynyrchiad a meithriniad y cariad hwn. Hi sydd yn galluogi y meddwl i weled y gwrthddrych yn ngoleuni datguddiad yr efengyl; ac y mae yr olygfa oruwchnaturiol hon yn dylanwadu mor rymus ac anwrthwynebol ar y galon, nes ei Uwyr gyfnewid o ran ei natur foesol a'i thucddiadau llywodraethol; mae yn gorchfygu gdyniaeth y meddwl at y gwrthddrych, ac yn dwyn yr holl serchiadau i weithredu arno. Mao gan Grist hawl gyfiawn yn ein serchiadau oddiar wahanol ystyriaethau. \V