Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. X.] IONAWR, 1852. [Llyfb. II. TEYENAS NEFOEDD. GAN Y PARCH. D. CHARLES, A.B., TREFECCA. Mab crcfydd yn gynwyscdig mewn credu a chyflawni. Nid teimlad yn unig yw, nid dychymyg, nid mympwy. Y mae ganddi wirioneddau i'w credu a dyledswyddau yn tarddu o honynt i'w cyflawni. Mao hi wedi ei sylfaenu ar ddeddfau cynhenid dyn. Mae barn ar y gwahaniaeth rhwng drwg a da ynghyd â iheimlad o rwymedigaeth i ymgadw oddiwrth y naill a chyflawni y llall, yn egwyddorion sylfaenol ei natur focsol. Âr hyn y mae ei gyfrifoldcb yn gorphwys; a chyfrifoldcb dyn yw sylfaen erefydd. Oddiar wironeddau eyl- faenol ein natur, fc gwyd cwestiynau a ffcithiau ag sydd yn dwyn cysylltiad pwysig â ni fel dciliaid llywodracth foesol; a llawer o honynt nis gall rheswm naturiol mo'u hateb; ond y rhai hyn, yn ngwyneb y diffyg, mae y datguddiad dwyfol yn cin helpu i ddadrys, a'r canlyniad o hyn yw fod athrawiaethau yn codi ag sydd yn anghenrheidiol i'w credu— gorchymynion, ag sydd yn gofyn ufudd-dod, ac addewidion i foddloni gobaith a dysgwyl- iadau dyn. Nid peth personol rhwng dyn a Duw yn unig yw crefydd, ond y mae yn egwyddor gym- deithasol hefyd rhwng dyn a dyn. Gwirionedd, nid etifeddiaeth unrhyw ddyn a neh ond cfc ydyw ond y mac yn anymddibynol ar bawb ac yn dwyn perthynas gyffredinol a phawb. Dyledswydd dynólryw yn y cyfan yw i ymofyn am dano, ac hefyd i'w broffesu gyda'u gilydd. Deddf, ag y mae rhwymau ar un dyn, fel dyn i ufuddhau iddi, y mae felly ar batcb; dyledswydd pawb yw ei chyhoeddi, ac i ymdrechu dwyn pawb o dan ei llywodraeth. Yn oí yr ystyriaethau hyn ynte, y mae cymdeithas grefyddol yn tarddu yn naturiol ac o anghenrheidrwydd oddiar egwyddorion elfenol crefydd, a'r fath gymdeithas yw eglwysy dynion mcwn undeb ac o dan rwymau i'w gilydd i ymddwyn yn ol egwyddorion crefydd. Y mae gwahanol grefyddau yn y byd. Ỳ rhai enwocaf o honynt, a'r mwyaf helaeth eu dylanwad yw crefydd Confucius yn China, crefydd Bramah yn yr India, a chrefydd Mohammed yn Arabia a gwledydd eraill, heblaw y grefydd Gristionogol; ac y mae ganddynt oll eu gwahanol gymdeithasiadau a'u ffurfiau a'u defodau i gynal i fynu ac i ledaenu eu daliadau gwahanol. Cymdeithas o ddynion yn gwneuthur proffes gyhoeddus o grefydd Crist, sef, eu bod yn oredu athrawiaeth Crist, ac yn ufuddhau i orchymynion Crist, yw eglwys Crist ar y ddaear. Y mae yn allanol; y mac yn guddiedig. Y mae yn weledig; y mae hefyd yn ddirgeledig. Eghcys yw yr enw a roddir arni, fel arwydd gwirioneddol o'r hyn ydyw; sef cynulleidfa wedi ei galw allan o'r byd sydd yn gorwedd mewn drygioni; ond fel y mae pob peth yn anmherffaith ar y ddaear, felly hithau; uNid Israel yw pawb a'r sydd o Israel." Megya pan aeth Israel âllan o'r Aipht, pobl gymysg lawer a aethant i fynu gyda hwynt, felly mae hi hefyd yn eglwys Crist. Naill ai trwy ddygiad i fynu, neu trwy ddylanwad cyfeillion a pherthynasau, neu er mwyn esmwythau y gydwybod, neu i ddybenion gau, mae llawer "yn proffesu yr adwaenant Dduw, eithr ar weithredoedd ei wadu y maent." Maent yn yr vr eglwys allanol, ond ni pherthynant i'r wir eglwys; nid ydynt yn aelodau o gorph dirgeledig Crist,- Maent yn tyfu yn mhlith y gwenitii, ac fe'u gadewir i gyd-dyfu hyd amscr y cynhauaf; ond efrau yw llawer; y rhai hyn a rwymir i'w llwyr-losgi, ond y gwenitìi a gesglir i'r ysgubor. Yr eglwys ddirgeledig, dyna'r fath yw hi; wedi ei hethol.i fod'yn sanctaidd; wedi ei rhagluniaethu i fabwysiad; tculu Duw ydyw; preswylfod i Dduw trwy*r Yspryd" Corph Crist ydyw; ei gỳflawnder ef, yn mha un y mae golud gogoniant ei etifcddiaeth ef yn trigo. Priodasferch gwraig yr Oen yw, yr hwn a'i carodd ac a'i roddes ei hun drosti! Ië, ty ysprydol, offeiriadaeth sanctaidd, rhywogaeth ctholedig,