Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. VIII.] TACHWEDD, 1851. [Llyfr I. HEDDWCH Á HUW YN SICBWYDD 0 BERFFEITHIAD IECHYDWEIAETH. " Canys os pan ooddym yn elynion ein heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef, mwy o lawer wedi ein heddychu ein hachubir trwy ei fywyd ef.'r Y mae deehreuad pob gorchwyl, yn ol graddau ei fawredd a'i bwysigrwydd, yn arwydd o'i gwblhad; eto nid yw yn aml amgen arwydd, oblegid amryw oruchwylion a ddechreuwyd yn llwyddiannus a ddybenwyd yn aflwyddiannus, eraill a ddechreuwyd heb eu dybenu byth. Ond pa orchwyl bynag a ddecbreua Duw, gellir sicrhau y perffeithir ef. Yr oedd y weithred gyntaf yn y greadigaeth yn sicrwydd o'r weithred olaf. Ni chyferfydd Ef ag anhawsderau yn nygiad unrhyw waith yn mlaen nad oedd yn gwbl hysbys o honynt yn ei ddechreuad. Ynfydrwydd yw son am rwystrau ar flbrdd Hollalluogrwydd; pa le bynag y gosoda y sylfaen efe a gyfyd yr adeilad; y mae gosodiad y sylfaen yn sicrwydd o osodiad y penconglfaen. Os dechreua ymdrin â phechadur yn ei drefh rasol, gellir dywedyd am y pechadur hwnw, Dyna ddyn i ogoniant. Pe na buaaai Duw ond wedi rhoddi ei Fab i farw dros ei bobl, buasai hyny yn ddigonol brawf o'u hachubiaeth, fel y dywed Paul yn ei adfarngais effeithiol i'r Ehufeiniaîd: "Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef drosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?" Eithr yma cadarnheir yr ymresymiad trwy y ffaith nid yn unig fod iechydwriaeth wedi ei phwrcasu, ond hefyd fod y cymhwysiad o honi wedi dechreu. Profìr perffeithiad iechydwriaeth credinwyr oddiwrth y cyfnewidiad a effeithiwyd eisoes yn eu cymeriadau moesol ac ysbrydol—" ein heddychwyd â Duw." Cyfnewidiad dirfawr yw gwneyd dyn gelynol yn gyfaill mynwesol i Dduw—gwneyd prif wrthddrych casineb yn brif nod serch—gwneyd y galon sydd yn gronfa o lygredd yn fangre sûnteiddrwydd. Gorchestwaith yw cyfnewid cymeriad unrhyw fpd rhesymol; hawddach oedd creu natur santaidd na santeiddio natur aflan; mewn un golygiad, hawddach gwneuthur angel glân o ddim nag o gytbraul, oblogid tra yr effeithia dwyfol allu y naill, dwyfol Iawn yn unig a effeithia y llall. Mae natur y credinwyr megia wedi ei chreu o newydd; yn gyfatebol gelwir hwy yn "greaduriaid newydd." Yn yr adenedigaeth, gosodwyd egwyddorion uniòndeb a phurdeb yn eu calonau, ac yn y cynawnhad, sef y cyfnewidiad a olygir yma, eymudwyd ymaith y gollfarn, a sefydlwyd heddwch rhyngddynt a Duw. Gan hyny, os yw peth mor fawr wedi ei gyflawni, oa yw cymaint o ras wedi ei amlygu, a chymaint o elyniaetìbL wodi ei orchfygu, os yw pechod yn wrthddrych casineb, ac ogwyddorion santaidd ynrheolauymddygiad; 'ie, os yw y cymeriad wedi ei hollol gyfnewid, a wna yr hwn a 2x