Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y C YLCHGRÄ WiN. Rhif. V.] AWST, 1851. [Llyfr I. EDIFEIRWCH. Paií ddacth cyflawnder yr amser—pan oedd Duw Abraham, Isaac, a Jacob ar fyned i gwblbau ei drugaredd â'r tadau—pan oedd cenedl Israel yn griddfan oblegid y tywyllwch,. ac yn dcisyf ei myned yn ddydd—pan yr oedd cenedloedd eraill yn dysgwyl fod rhyw gyf- newidiadau mawr ar gymeryd lle yn y byd; clywyd llef un yn llefain yn y diffeithweh, Parotowch ffordd yr Arglwydd, a gwnewch yn union ei lwybrau ef. Ioan Fedyddiwr ydoedd y pregethwr hwnw, ac " edifar/iewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd," ydoedd sylwcdd ei bregeth. "Wedi i'r genad fel hyn arloesi y ffordd o'i flaen, yn ddisymwth fe ddaeth yr Arglwydd, yr hwn yr oeddynt yn ei ddysgwyl. Yr oedd yn y byd yn hir cyn hyn, ond yn awr fe ddaeth i'r golwg; fe'i bedyddiwyd yn yr Iorddonen, fe'i temtiwyd ar y mynydd, ac "o'ramser hwnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, gan ddywedyd, Edifarhewch, canys y mae teyrnas nefoedd yn agosâu." Bu ei weinidogaeth i fesur yn llwyddiannus, casglodd rhai dysgyblion, anfonodd y rhai hyny allan i bregethu; "A hwy a aethant allan, gan brcgethu y dylai dynion edifarhau." Pan ddaeth ei awr ef, bu farw ar y groes, gwnaeth iawn am bechod, trwy farwolaeth dinystriodd yr hwn y mae nerth marwolaeth ganddo; adgyfododd y trydydd dydd, esgynodd i'r uchelder, gan gaethiwo caethiwed; ond cyn ei esgyniad anfonodd ei ddysgyblion i "bregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mhlith yr holl genedloedd." Mae edifeirwch i'w bregethu fel dyledswydd. Fe " ddylai dynion edifarhau;" yr ydym wedi troseddu cyfraith santaidd, gyflawn, a da. Os yw yn un santaidd, gyfìawn, a da, ni a ddylasem ei chadw; os ydym wedi ei throseddu, yr ydym wedi gwneyd yr hyn ni ddylasem; a chan ein bod wedi gwneyd yr hyn.ni ddylasem, ni a ddylem edifarhau am yr hyn a wnaethom. Mae rhai yn amheu y ddyledswydd hon. Y mae rhai yn haeru nas gwyddant pa un a yw yn ddyled arnynt hwy i edifarhau ai nad yw, a hyny am "nas gwydd- ant pa un a ydynt wedi eu hethol a'u prynu." Mae rhai, oblegid eu bod yn gwybod nad yw yr etholedigaeth a'r brynedigaeth yn cynwys pawb, yn teimlo yn bur wan i alw pawb i edifeirwch. Mae hyn yn gam dirfawr ag athrawiaethau gras. Nid yw yr efengyl yn anerch dyn fel etholedig neu brynedig, ond yn unig fel pecliadur. Nid yw dyn yn cael ei alw i edifarhau fel pechadur etholedig, neu bechadur prynedig, ond yn unig fel pechadur; fel un wedi gwneyd yr hyn na ddylasai, ac fel un a ddylai edifarhau am yr hyn a wnaeth. Hyd yn nod pe na buasai un addewid i'r edifeiriol yn ngair y gwirionedd, pe na buasai un gobaith am faddeuant, y mae yn ddyledswydd rwymedig ar bob pechadur i edifarhau. Mae Duw yn gorchymyn i bob dyn yn mhob man i edifarhau. Mae yr Arglwydd wedi datguddio ei hun yn ei air yn Dduw cariad. Y mae er tragy- wyddoldeb pell wedi bwriadu yn rasol i achub pechaduriaid colledig; y mae wedi anfon ei Fab i'r byd i weithredu iachawdwriaeth. Mae ein Harglwydd Iesu Grist, "yn nyddiau ei gnawd," trwy ddyoddef a marw, wedi darpar iachawdwriaeth ddigonol i'r penaf o bechadur- iaid. Mae yr holl bethau hyn yn anogaethau i edifeirwch. Mae yr Arglwydd wedi tystio yn ei air, y bydd iddo faddeu i bob pechadur edifeiriol. Mae hyn yn galondid i edifarhau, ond y mae sail y ddyledswydd yn àros yr un. Yr ydym oll wedi pcchu, ac o ganlyniad ni a ddylent oll edifarhait.