Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. IV.] GORPHENAF, 1851. [Llyfr I. "Y DYN CEIST IESÜ." " Canys un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crìst íesu."—1 Tim. ii. 5. [PAEHAD O BIFYN MEHEFIN.] Yn oedd yn rhaid caol cynrychiolwyr o'r Cenedloedd hefyd, i gael ei weled ef yn ddyn, pan oedd yn hlentyn: nid y Scythiaid fyddant, maent yn rhy farbaraidd; nid y Groegiaid, maent yn rhy goelgrefyddol; nid y Rhufeiniaid, maent yn rhy lygredig. Y dynion goreu eu moesau, mwyaf eu rhinweddau, glanaf eu hucheddau, helaethaf eu dysg, eu gwybodaeth, a'u doniau, yn y hyd Cenedlig yr amser hwn oedd rhyw ddosbarth o Bcrsiaid—"y doethion o'r dwyrain." Ynddynt y cydgyfarfu crefydd, boneddigeiddrwydd, a doethineb y byd hwn. Yr oedd hen brophwydoliaeth "mab Peor," er amser ei llefariad, wedi cadw rhyw rai ar ddihun yn y parthau hyny, trwy y nos hirfaith, hyd ddyfodiad y Blaenor Messia; "Seren a ddaw allan o Jacob." Bhyw ffordd neu gilydd, yr oedd y swn wedi myned filoedd o fUltiroedd tu hwnti dcrfynau Palestine, "yr ymwelai Duw â'i bobl." Dywedir i Confucius, hen ddiwygiwr yn China, ragddywedyd am ddyfodiad Crist, a gorchymyn idd ei ddysg- yblion yn gaeth, pan ddelai y cyfnod i fynu, am idd eu holynwyr fod yn sicr o anfon cenadaeth i ymweled ag ef, ac i ddysgu ganddo egwyddorion gwirionedd ac anfarwoldeb. Gwnaethant fel y gorchymynwyd; daethant i galon Asia fras, i'r India tu hwnt i'r Ganges; cyfarfuant yno ag addolwyr Buddhism, hen grefydd rhy dehyg i Gristionogaeth: dywodai offeiriaid Buddhiaeth wrthynt taw am danynt hwy y prophwydasai eu harweinydd, felly, druain, dychwelasant yn eu hol i China fawr â llonaid eu dwylaw o dwyll, ac nid â'r gwir- ionedd ganddynt "megis y mae yn yr Iesu." Beth bynag, e ddaeth "y doethion o'r dwyrain i Jerusalem," ac oddiyno i Bethlehem: "ahwya geisiant y dyn bach yny tŷ gyda Mair a Joseph." Ymaflai un mewn un llaw, a'r llall yn y llaw arall; hwyrach nad oedd yn dechreu cerdded tua'r amser hwn: cerddasant yn ol ac yn mlaen gydag ef yn y tŷ. Wedi ei addoli, cymerasant ef yn eu breichiau, gwasgasant ef at eu mynwesau. Clywch, foneddigion! pwy sydd genych yna? "Dymuniant yr holl genedloedd,"—y dyn Crist Iesu. Nid llai na thriugain o weithiau y geilw ei hun yn "Fab y dyn." Meddai y cwbl o'r natur ddynol; ni hu erioed o'r blaen yn gyfan ond mewn un—ddim yn gyfan mewn per- ffeithrwydd. Bu hifer liosog o'i rhanau yn go berffaith mewn llawer un, ond nid i gyd; ond yn Nghrist yr oedd yr oll o'r peiriant dynol yn ysgogi yn herffaith, yn brydferth, ac yn baradwysaidd. "Yr ailddyn" ydoedd; dirywioddeinnatur; nis gweloddneb, wediyrAdda cyntaf, yn werth ei alw yn ddyn nes y cafodd "y brawd hynaf" yn ei gwisgo. Pa le mae yr hen wr fu byw tua Mamre î Pa le mae Moses, Dafydd, ac Esaiahî I gyd dan y ske; byrion a bychain, nis gallent gyrhaedd ý llinyn a dynir gan apostol y cenedloedd o'r Adda cyntaf i'r "ail ddyn." Nid rhyfedd oedd i'r wraig o Samaria waeddi yn Sichar, "Deuwch, gwelwch ddyn." Gwisgwydef âgwcndidaueinnatur; "ar ol hyny efe a newynodd;" "bu