Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. III.] MEHEFIN, 1851. [Llyfr I. "T DIN CEIST IESÜ." "Canys un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu."—1 Tim. ii. 5. Dexgys cydgordiad, cydweithrediad, ac undeh amrywiaethau gwrthddrychau'r greadigaeth, mai "un Duw sydd." Tardda effeithiau o achosion, ac achosion o efFeithiau; ond gan fod y greadigaeth yn feidrol, rhaid ei hod yn derfynol; gan hyny, angenrhaid yw bod rhyw Fod ruawr tu cefn i hoh peth, heb fod yn effaith o un achos, ond yn achos digonol o bob achos ac effaith creadigol; a'r Bod hwnw yw Duw. Dichonadwy dilyn cadwen y greadigaëth, nes dod o hyd i'r ddolen olaf, yr un nesaf i wlad diddymdra: sicr yw fod rhyw law anweledig, llaw yr Ìiunan-ddigonol, yr anfeidrol, a'r tragywyddol Jehofa, yn ymaflyä yn hono ac yn ei hys- gogi yn gystal ac yn dylanwadu ar y lleill. "Tiy*r greadigaeth ol a gwrthol wrth ei air." " Tragywyddol allu a Duwdod i weled ynddynt hwy." Mor nerthol, mor rymus, mor anorch- fygol yw awdurdod hyawdledd dystawrwydd "llu'r uchelder," nes yw plant gwylltion natur yn rhandiroedd anial anian yn cael eu dofi i grediniaeth o fodolaeth Preswylydd mawr tragywyddoldeb, yr IIwn rhyw bryd a ddefFrodd y bydoedd i fodolaeth, a phresenoldeb yr hwn o hyny hyd yn awr a'u ceidw ar ddihun yn brydferth ac yn drefnus. Nis gall ond ùn Anfeidrol fodoli. Nid yn llaw seneddwyr, tywysogion, breninoedd, nac ymerawdwyr chwaith y saif llywydd- iaeth llestr Ehagluniaeth; '' palla doethineb y doethion'' hyn yn fynych; '' ymdroant ac ym- symudant fel meddwyn." Nid yw eu bod ar y bwrdd mwy na phe na baent fawr o wahan- iaeth. Hwylia un Cadben cyfarwydd y Uong " yn ol cynghor ei ewyllys ei hun" ddydd eu genedigaeth, ddydd eu marwolaeth, lawn cystal a dydd eu bywyd. Mae un cadben yn well na rhagor—un medrus a digonol; un felly yw Duw. Oblegid prinder chwiliwn ni am ddigon mewn llawer; os ceir digon mewn un, mae hyny yn fyrach, yn grynoach, ac yn rhagorach. Llais diflin rhagluniaeth yw, "Un Duw sydd." Perffaith gyduna y dat- guddiad dwyfol yn yr Hen Destament a'r Newydd â datganiad naturiaeth, ac â llef rhag- luniaeth. " Clyw, 0, Israel, yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd," ynghyd â Uiaws o ysgrythyrau craill yn undeb geiriau ein testun—"Canys un Duw sydd." Profa'r gread- igaeth fod Duw—dengys ei ddwylaw. Dynoetha troion Ehagluniaeth "ei ben yn wyn fel gwlan," mewn ystad o addfedrwydd tragywyddol ddoethineb; ond egyr ei air ddorau ei fynwes, a dwg i'r golwg ei galon, a hono yn byrlymu o anfeidrol gariad er oesoedd tragy- wyddoldeb at elynion iddo a dirmygwyr o hono. Cartrefle yr eilunod, oedd maes gweinidogaethol y dyn ieuanc at yr hwn yr ysgrifenwyd y Uythyr a gynwysa ein testun. Nis gwelai yr apostol hwy yn ddigon o werth i ddcfnyddio ymadrodd chwerw am danynt, er eu diraddio a'u darostwng, ond dadlena y gwir a'r bywiol Dduw. Wrth wneuthur hyn tafl hwy i'r tragywyddol gysgodion. Mae yn Uawn bryd i hoU lwythau cibddaU y gaddug, ydyUuanod, a'rystlumynod, ahoU ddeüiaid y nos, i wneyd y goreu o'u ffordd pan godo yr Haul. "Un Duw sydd." "Onid un Tad sydd i ni oU?" Oer bron pwy y gosodn: achosion ac amgylchiadau ei greaduriaid, os nid ger bron eu Creawdwrî " Ac un Cyfryngwr hefyd." Nid oedd oisiau Cyfryngwr yn y greadigaeth fel yr oedd pan ddaeth allan o law Duw. Yr oedd organ fawr bodolaeth greadigol yn hyfryd chwareu