Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif. II.] MAI, 1851. [Llyfh I. /VvA/WWVWWWWV\AAAA/WWWWVV ^/W^/WWt^WN/S/yj PA BETH YW CEEFYDD? Nid oes un darllenydd a amheu am funud, feddyliaf, nad yw y gofyniad yn un o'r pwys niwyaf. Mae crefydd yn fwy pwysig na phob peth arall, o gymaint ag y mae tragywyddol- deb yn fwy pwysig nag amser. Y mae crefydd yn fwy pwysig na pbob petb arall, o gymaint ag y mae ein sefyllfa yn myd mawr yr ysbrydoedd yn fwy pwysig na'n sefyllfa yn y byd baeh presenol; o gymaint ag y mae gogoniant a dedwyddwcb tragywyddol yn fwy pwysig na bapusrwydd tymhorol. Y mae ein oll am dragywyddoldeb yn troi ar ba un a oes genym grefydd, ai nad oes. Oddiwrtb ein crefydd yr ydym yn dysgwyl dyddanwcb yn angeu— gogoniant yn yr adgyfodiad—derbyniad yn nydd mawr y farn, a dedwyddwch didòr am byth bytboedd. Os ydym heb grcfydd, yr ydym yn annuwiol; os ỳdyni yn annuwiol, ni ehawn fyned i'r nefoedd. Yr annuwiolion a ymchwelant i uffern, medd gair y Duw digel- wyddog. Nid digon i ni yw ein bod yn byw mewn gwlad lle y mae crefydd yn ffynu, lle y mae helaethrwydd o foddion crefyddol, lle y mae tyrfaoedd o ddynion crefyddol. Nid digon i ni yw ein bod yn disgyn o deuluoedd crefyddol, fod i ni rieni neu berthynasau agos ac anwyl yn meddu crefydd; y mae yn rhaid i ni fod yn grefyddol ein hunain. Rhaid i ni fcddiannu crefydd fywiol wirioneddol ein hunain yn bersonol, neu drengu byth uc yn dragywydd. Ni ddichon crefydd ein cyfeillion achub ein heneidiau, mwy nag y gall yr awyr a anadlir gan ein cyfeülion barhau ein bywydau. Y mae testun ein hymchwiliad, gan hyny, o'r pwys mwyaf. Gan fod yn rhaid i ni fod yn druenus i dragywyddoldeb maith os byddwn hehgrefydd, y mae arnom eisiau gwybod yn iawn pa beth yw crefydd. Y mae Uawer wedi byw yn y tywyllwch, gan dybied ei bod ganddynt, ond pan ddacthant i farw cawsant allan, er eu tristwch anaele, eu bod hebddi. Fel y cafodd y morwynion ffol allan eu diffyg o olew pan yr oedd yn rhy ddiweddar i fyned i brynu, felly y mae ílawer yn cael allan cu diffyg o grefydd pan y mae yn rhy ddiweddar i'w^chael. Eto nid oes un testun ag y mae cymaint o wahanol farnau yn ei gylch. Peth rhyfedd na buasai y byd erbyn hyn wedi dyfod i'r un farn am beth mor bwysig; ond pell iawn yw o hyny hyd yma. Y prinder o honi, tybiwyf, yw yr achos o hyny. Pe buasai ein hanner yn meddu gwir grcfydd, prin y credaf na buasai gan yr hanner aràll amcaniaeth bur gywir am yr hyn ydyw. Ond yn agwedd brescnol pethau, dywed un mai hyn yma yw crefydd; dywed y llall mai hyn acw; dywed y nesaf mai peth arall yw, hollol wahanol i'r ddau. Y niae yr holl ddadleu sydd wedi bod yn nghylch crefydd, wedi gwneyd llawer mwy tuag at ddyrysu a chaledu pechaduriaid na thuag at eu hachub. Tra y mae un yn dywedyd wrth y dyrfa, Dyma'r arch; a'r llall yn dywedyd, Nage, dynahi; a'r llall yn dywedyd, Nage, dacw hi; y mae y diluw yn dyfod, ac yn eu dwyn hwy oll ýmaith. Yr ysgrythyrau yw yr unig awdurdod safadwy mewn perthynas i grefydd. Pa beth bynag a ddywed y gair nad yw crefydd, nid hyny yw. Pa beth bynag a ddywed y gair jw crefydd, hyny ydyw. Ni wna y peth sydd yn brin yn nghlorian y Bibl unrhyw ddaioni i ni; ond os yw ein crefydd yn bwysau yn nghlorian y gair, hi a dry glorian y dydd mawr'a ddaw. Cryn orchwyl fyddai rhifo y gwahanol bleidiau crefyddol i ba rai y mae y byd wedi ymranu. Ond efallai y cynwysir hwy oll mewn podwar dosparth. Pedwar math, debygaf, o grefydd sydd yn y byd. Galwaf hwynt y ffurfiol, yr olygiadol, y ffug-foesol, a'r "wirioneddol. Y ffui-fiol sydd gynwyscdig yn unig neu yn benaf mewn ffurfiau. Y mae un peth mawr yn perthyn i bob math o grefydd; ffurfìau yw yr un peth mawr sydd yn perthyn i hon. Y ^ae ei heiddunwyr (votarietJ yn gosod yr holl bwys ar ffurfiau allanol, ac ymarferiadau