Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Riiif. I.] EBRILL, 1851. [Llyfr I. ANERCHIAD. Garedig Frodyr,—"Wele y Rhifyn cyntaf o'r Cylchgrawn wedi gwneyd ei ymddangosiad. Bamai bagad cyn ei welcd y dylasai fod arno gywilydd dangos ei ben, " a hitbau wedi myned yn gymaint o'r dydd." Tybiai y rbai byny, wrth reswm, mai un o rywogaeth y dylluan, un o adar y nos a fuasai; ac mai rhyfyg i'r eithaf fuasai iddo ymrestru yn mhlith y mis- olion a ddarllenir " yn yr oes oleu hon." Rhyfyg neu beidio, wele ef yn ymddangos, ac yn gyntaf peth yn dywedyd wrth ei gyfeülion uchod, " Na fernwch ddim cyn yr amser." A ddichon dim da ddyfod o Nazareth ? A gyfododd prophwyd o Galilea ? A oes rhai yn y gwledydd yna a fedrant ysgrifenu fel y dylid ysgrifenu i Gyhoeddiad o'r fath ? Ni lwydda byth, gan ddiffyg rhes o ohebwyr campus. Ni lwydda byth, gan ddiffyg golygydd ag y mae gan y cyhoedd ymddiried yn ei dalentau." Ust, frodyr anwyl, am ychydig fìsoedd. "Na fernwch ddim cyn yr amser." Prynwch y Cylchgrawn; talwch am dano; darllen- wch cf yn nesaf, a barnwch wed'yn. Tybia ereül nad yw y Cylchgrawn namyn gwrthwynebydd i'r argraff-wasg Ogleddol— ymwybyddiaeth o ragoriaeth y Gogledd yn peri i'r Deheu wingo yn wanaidd; tipyn o dcimlad anfrawdol at y Gwyneddwyr yn esgor 'ar Gyhoeddiad misol gwantan. Heriwn y byd yn grwn gyfan i brofì gwirionedd yr haeriad. Pwy o dan yr holl nefoedd a feiddia ddywedyd yn cin hwyneb fod bechgyn Mynwy yn ddig wrth fechgyn Mou ? Pwy ar wyneb daear a all brofi fod y rhith lleiaf o gcnfìgen yn mynwesau meibion Morganwg at feibion Meirionydd ? Na, brodyr anwyl i ni yw plant Gwynedd; a'r rhai sydd yn chwareu Jt ysgrifcll ac yn trafod y wasg yno yw rhai o'r cyfeülion mwyaf mynwesol a feddwn ar wyneb y ddaear. Casineb, hawyT! Cenfìgen, yn wir! Y mae rhyw deimladau crebych- aidd, dirmygus fclly yn eithaf pcllafoedd y pellafedigaethau oddiwrth ein mynwes. Ofnir ybydd i'r Cylchgrawn cffeithio yn ddrwg ar ledaeniad "y Drysorfa hen," "y Drysorfa anrhydeddus;" Cyhoeddiad cyfundebol y Methodistiaid. Byddai hyny yn drueni garw. Gellir mesur zel y Methodistiaid dros eu Cyhoeddiad cyfundebol wrth faint ei gylch- rediad. Y mae yn perthyn i'r cyfundeb oddeutu triugain mil o gymunwyr; a derbynir o'r uDrysorfa" ynghylch pedair mil! Rhag cywilydd! Ond fe ddy wed rhai fod y uDrysorfa" yn wael. Paham na byddent hwy yn ei gwneyd yn well ? Gwyddom yn dda na osodai ein brodyr bcthau gwaelion ynddi tra fyddai pethau gwychion wrth law. A phwy ddylai fod mor gymmwys i roddi ychydig o enghreifftiau a siamplau o wychder, a'r dynion sydd yn siarad am waelder. Cymerodd rhyw Iota o Lan Tywi arno ei fod yn deall fod " Methodistiaid y Deheubarth wedi ymwrthod a'r Drysorfa" Dymunai wybod "yn mha le" y gwnaethant felly. Gwyddai yn dda, os gwyddai rhywbeth, nad oeddynt wedi gwneuthur felly mewn lle yn y byd. Ös oedd arno awydd cael gwybodaeth helaethach am y Cylchgrawn nag a gyn- nwysai yr hysbysiad, gwyddai y gallasai gael hyny tiwy anfon atom ni. Os "ymwrthod á'r Drysorfa" ydoedd penderfynu cyhoeddi y Cylchgrawn, gallasem ddywedyd wrtho yn rìiwydd, pe buasai callach, pa le y gwnaed hyny. Ond tybiodd yn well anfon at Olygwyr y Drysorfa eu hunain; tybiodd yn well anfon i'r Gogledd i ofyn rheswm am symu,diadau ychydig o gj^feillion dhüwed yn y Deheu. Nis gwyddom ni ar y ddaear pwy ydyw. Efallai ei fod yn ddyn mawr, ẅedi gwneyd tro bychan am unwaith; neu mai dyn bach yw,