Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROPHWY» Y JUBILI, NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 30.] RHAGFYR, 1848. [Pris 24<;. DARLITH YR APOSTOL 0. PRATT YN NGHYMMANFA MANCHESTER. (Parhad oV Rhifyn diweddaf.J III. Paham y gorchymynir i Seion fyned " i fynydd uchelì" Paham y darfu iddo ddweyd mor neillduol, " Dos rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel." Mae yn rhaid iddo weled rhyw achos o natur bwysig, paham yr oedd yn gorchymj-n i Seion fyned i fynydd uehel, onide ni roddai byth orchymyn ag oedd i gael ei ufyddhau yn mhen oddeutu 3000 o flynyddoedd wedi hyny. Y prif achos paham y rhaid i Seion fyned " i fynydd uchel" yw, fel y galî adeil- ndu tŷ i Dduw yno, mewn cyflawniad i brophwydoliaeth. Mae Micah (pen. 4) yn dweyd, " A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau yn mhen y mynyddoedd ; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. A chenedloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei Iwybrau y rhodiwn, canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerusalem. Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ae a gerydda genedlçedd cryfion hyd yn mhell ; a thorant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau; ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Ond eisteddant bob un dan ei win- wydden a than ei fngysbren, heb neb i'w dychrynu ; canys genau Arglwydd y lluoedd a'i llefarodd. Yr oedd yr holl bethau hyn i gymmeryd lle yn y DTnn- iaü diweddaf. Yr ydym yn gweled, ynte, y priodoldeb o fod Esay yn galw ar bobl Seion y dyddiau diweddaf, i fyned fyny " ifynydd whd." O herwydd yno y mae " ty Dduw Jacob i gael ei adeiladu." O'r mynyddoedd y mae Seion i ddanfon allan ei chyfraith berffaith i ddysgn doethineb i freninoedd j ddaear, a ffurf berffaith o lywodraeth i'r cenedloedd pellenig. Yn nhŷ Ddnw, yr hwn a fydd yn {y mynyddoedd, y dysgir ffyrdd yr Arglwydd i "gcnedloedd latoer," ac yno yr arweinir hwy " t' rodio yn ei Iwybrau." Y mae yn rhaid fod rhywbeth mewn cyssylltiad â thŷ Dduw yn y mynyddoedd ag sydd yn dra hynod, neu ni thynai sylw cenedloedd lawer. Mae llawer o filoedd o dai wedi eu hadeiladu yn y dyddiau presennol, yn proffesu eu bod yn dai i|Dduw. Gwehr ugeiniau o honynt braidd yn mhob dinas trwy America ac Ewrop ; ond etto nid oes dim byd neillduol yn perthyn i un o honynt. Nid oes un tŷ yn mhlith. y cyfan ag sydd wedi tynu sylw gymmaint ag un genedl. Y mae rheswm da dros hyn : o herwydd y mae pob cenedl wedi hod yn gwbl amddifad o " dy i Z)átt»" dros ddau cant ar bymtheg o flynyddoedd. Yn wir, nid oedd tŷ Dduir i'w adeiladu eilwaith cyn y dyddiao diweddap ; a phan oedd i gael ei adeiladu, ei le oedd i fod ar y mynyddoedd, ac nid mewn cynnifer o gannoedd • leoedd yn mysg y cenedloedd. Nis gellir adeiladu " tŷ Dduw" heb ddad-