Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROPHWYB Y JUBILI, NEU SEREN Y S-AINT. Rhif. 29.] TACHWEDD, 1848. [Pris 2g. DARLITH YR APOSTOL 0. PRATT YN NGHYMMANFA MANCHESTER. " Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerusalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Judah, Wele eich Duw chwi."—Esay xl, £). Mae y geiriau uchod, yn mhlith ereill, yn perthyn i'r d^'gwyddiadau rhyfedd a gymmerant le ychydig o flaen dyfodiad ein Harglwydd, yr hwn ddyfodiad a grybwylla yr adnodau canlynol:—" Wele yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a ly wodraetha drosto: wele ei wobr gydag ef, a'i waith o'i flaen. Fel bugail y portha efe ei braidd ; â'i fraich y casgl ei ẁyn, ac a'u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid." Cawn ddosranu y gwa- hanol bynciau a gynnwysir yn ein testun dan dri o benau cyffredinol, neu gwestiynau. I. Pwy oedd y bobl hyny i fod ag a enwai y prophwyd yn " Seion." II. Pa natur yw y newj-ddion da hyny a gyhoeddir gan Seion ? III. Paham y gorchymynir i Seion fyned " i fynydd uchel ?" Nid oes genym amser, mewn cymmanfa fel hon, i drin y gwahanol bynciau hyn yn helaeth iawn ; o ganlyniad ni wnawn sylwi ond ar ryw bethau neill- duol ag sydd yn perthyn iddynt. I. Pwy oedd y bobl hyny i fod ag a enwai y prophwyd yn " Seion."—Pobl oeddynt ag a gyfodai yr Arglwydd i fyny ei hunan, ychydig cyn y " daw gyda Ilaw gadarn" i deyrnasu. Dywed Dafydd (yn Salm cii), " Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant." Nis gall y Seion a ddesgrifia yr ymadroddion hyn fod yn meddwl y Seion hono ag oedd yn bodoli yr amser hwnw yn Jerusalem, ond Seion ag oedd i gael ei hadeiladu mewn amser dyfodol. Nis gallai fod yn cyfeirio at yr eglwys a sefydlwyd dan weinyddiad yr apostolion cjmtefìg ; cany* yr Argíwydd " ni welwyd yn ei ogoniant" yn teyrnasu â llaw gadarn yn yr amser hwnw. Nis gallai fod yn dal perthynas ag unrhyw bobl a fodolent yn yspaid y ddwy ganrif ar bymtheg ddiweddaf: o herwydd, yn ol eu tystiolaethau hwy eu hunain, ni ddarfu i'r Arglwydd lefaru yn y tymmor hwnw, ac o ganlyniad ni alwodd efe y rhai hyny yn Seion. Ni ddarfu iddo ychwaith adeiladu unrhyw ddinas yn eu plith a elwid yn Seion ; o herwydd pe gwnaethai, buasai yn sicr o ymddangos yn ei ogoniant. Ond, fel gwaith parotöawl erbyn ei ddyfodiad gogoneddus, y mae pobl a dinas a elwir Seion i gael eu cyfodi i fyny. Yn awr mae y bobl yn bodoli. Mae y ddinas i'w hadeiladu etto ganddynt, yn ol y cynllun a rydd yr Arglwydd trẁy ddadguddiadau adnewyddol. Mae " Saint y Dyddiau Diweddaf"—y "pur o galon^—wedi eu cydnabod eisoes gan yr Arglwydd yn "Seion" (Ath. a Chyf^