Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROPHWYD Y JUBILI,. NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 20.] CHWEFROR, 1818. [Pais 2</. MYFYRDODAU Ait Y FLWYDDYN A AETII IIEIBIO. Mae y flwyddyn un fil a wyth cant a saith a deugain wedi ei rhifo gyda y rhai a fu. Darfu ei gobeithion, a'i hofnau, ei phleserau, a'i thristwch, i'e, darfuant ara byth! Màe y croniclydd anffáeledig ag sydd yn cofrestru pethau amserol erbyn tragwyddoldeb wedi rhoddi un gyfrol yn ychwanegol i gadw yn ddiogel yn y cofgelloedd fry erbyn dydd yr arholiad, o h'anes gweithredoedd blj nyddol pob perchea rheswm, da a drwg. Yno yr arbosant mewn lliwiau digyfnewid, ar ddefnyddiau annhreuliadol, fel nas gellir na thynu ymaith na chj i- newid un frawddeg nac un iot o'r cofrestiad gwirioneddol. Gormes, rhyfeloedd, ac anghyrráwnder cenedloedd at eu gilydd—balchde-,. afradlonrwydd, a thrais breninoedd, tywysogion, a llywiawdwyr— rhagrith, twyll, ac annyngarwch y rhai a hònant y teitl o Beirch., ac a broffesant fod yn arweinyddion y werin, pechodau yr holl bobloedd, ac yn neillduol celwyddau y penboethiaid creTyddol, pa rai a ddyfeis- iasant, a draethasant, ac a gyhoeddasant ar y Saint druain, y maent oll yn argraffedig ar groniclau anghyfnewidiol, yn aros i'w darllen etto yn eu wynebau, yn nghlywedigaeth y myrddiynau diri^*,. yn nydd yr ymweliad. O feddylddrych sobr i Etto, olt yn. ffaith ■! Pa le, pryd hyny, yr ymguddia yr annuwiolion ? Pa greigiau anfertìi", ar eu galwad, a neidiant ar y cëlwyddwyr a'r erlidwyr i'w cuddio rha"- wynebu y gwir í Diau nad ystyrient mŵngloddiau'r-byd ond bych- ain i'w rhoddi am gyfnewid un frawddeg, neu ddileu un gair ! Etto, heb obaith am hyny. Mae gruddfanau y caethion dan eu beichiau pan y mae eu gormcs- wyr yn cysgu, pa rai sydd yn newynu t a mae yr olaf yn gwledda— ochenaid y trallodedig, a chystudd yr anghenus, y weddw, a'r amdd'-. faid, wedi esgyn i glustiau Arglwydd Sabaoth, ac yn tystio yn erbyu «unuwioldeb mewn Ueoedd uchel, pan y mae hefyd ddagrau, a gwaec1, a lluAded y Saint, a ddyoddefasant o herwydd tystiolaeth yr Iesu—e»- B • LCry. HI..