Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PítOPHWYD Y JUBILI, NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 17.] TACHWEDD. [Pris 2g. ADOLYGIAD AR DDARLITH Y PARCH. D. JONES, CAERDYDD, AR " AR- DDERCHOGRWYDD Y GREFYDD GRISTIONOGOL." (Parhad o tudalen \bA.J Er mwyn rheswm a chysondeb, peidiwch chwi a hòni " goleuni yr haul," tra wedi eich geni yn ddall, ac heb ddyfod i weled dim o'i oleuni etto. Na feddyliwch fod hyn yn ddywediad rhy galed, Mr. J.; canys eich gweithredoedd sy'n ei brofi. Mae eich addefiad na chawsoch afael ar ffynnonell y goleuni (sef drwy ysbryd y goleuni), ond ei chamgymmeryd am y Uyfr, a gwadu ysbryd y dat- guddiad, yr hwn yn unig a oleuodd y Saint gynt, yn ffaith hefyd i brofi mai uii o blant y nos ydych. A chan i chwi addef eisoes, fod gan " Joe" oleuni o'r un rhyw â goleu yr haul, gwell i chwi dder- byn hyny bach i ddechreu, nag aros yn y tywjrllwch dudew ynayn hwy. Mae llwybr y cyfiawn f'el y goleuni, yn cynnyddu fwy fwy hyd ganol dydd; goleuni canwyll fach a gaffai y Saint bach ieuanc gynt, yr hwn a gynnyddai, ac efallai mai feliy goleu canwyll "Joe." Mr. J., peidiwch a cheisio ei diffodd, ynte, canys nid oes perygl i'r dyn gonest gael gormod o oleuni; twyllwyr sydd yn arswydo rhag y goleuni, fel yr arswydwch chwi rhag canwyìl fach " Joe." Nid rhyfedd i chwi waeddi mor uchel " gwrthodwch ei ganwyll, &c.," canys i'r graddau ag ei meddid dynoethai eich cyfeihornadau chwi ac ereill; ond y syndod mwyaf oedd clywed dyn oedd a'i ddau lygad yn nghauad, ac yn nghanol y ddunos, yn gwaeddi nerth ei ben, " deuwch i oleuni haul!" Ac erbyn dyfod yno, beth oedd ei haul ond Uyfr yn desgrifio yr haul a welai rhyw rai ereill er ys deunaw can mlynedd yn ol! Dychỳmygaf glywed rhyw un afeddai ronyn o common sense yn ceisio ei berswadio i ddod allan o'i dwJI M [Cyf. ii.