Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROPHWTD Y JUBILI, 'NEU SEREN Y SAINT. Rhif. 8.] CHWEFROR, 1847. [Pris 2g. FFYDD. Gan mai ar y pegwn cadarn hwn, sef ffydd, y raae hyd y nod yr egwyddor gyntaf ac ardderchocaf o grefydd ddadguddiedig wedi ei sylfaenu, a phob careg o'r ddinas nefol hòno, "saer ac adeiladydd yr hon yw Duw," wedi ei goruwch-adeiladu ar hyn, buddiol i ni ym- chwilio i mewn i'r egwyddor werthfawr hon, er ei hiawn ddeall, a chynnyddu ynddi, yr hyn a wnawn mor ddealladwy ag y gallwn, gan ddechreu yn ol yrhyna ddywed Paúl, yn Heb. xi, 1 :—" Ffyddyn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled." Pa beth ydyw ffydd ? ébe aral un. Wel, dyma ateb eglur iawn, sef, mai yr egwyddor hòno ag sydd yn tystio neu yn sicrhau i'w pher- chenog fodoliaeth pethau, manau, neu bersonau, heblaw a welodd ei lygaid ef, ydyw. Pan glywir arall yn adrodd hanes y pethau a welodd efe, neu a gjywodd arall yn eu dweyd, y mae y dyn o'r cyfryw gyfan- soddiad, ag y creda neu yr anghreda yr hanes hwnw i'r graddau yr ystyria yn deilwng o'i sylw. Wel, heb ffydd anmhosibl fyddai iddo gredu nac anghredu; canys y mae y peiriant cynneddfol a ddygir mewn gweithrediad drwy dystiolaeth un arall, o anghenrheidrwydd yn rhoddi ei dedfryd o gymmeradwyaeth, neu o gondemniad, ar bob peth a ystyria. Mae gwaith dyn yn credu unrhyw beth, yn brawf ei fod yn feddiannol ar y fath beiriant; a'i weithrediad ar y naill beth, yn brawf digonol y gall gredu peth arall, îe, bob peth a ewyllysia neu ynte, os nad all, nid yw ei Greawdwr wedi rhoddi iddo feddiant ar ftlluoedd ei hun, yr hyn sydd yn arwain i waeth dyryswch etto, ac yn gwneyd dyn yn beiriant analluog /ic anghyfrifol. Dywed llawer yn ein gwlad ni, na allant gredu y cyfryw beth, pan nad allant ddangos un rheswm paham, ond nad oes ganddynt ffydd. Amlwg yw nad yw y rhai hyny yn eu hadnabod eu hunain, nac yn deall beth ydyw ffydd. r ► [Cyf. II.