Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROPHWYD Y JUBILL "mae y deyrnas wedi dyfod." Rhif. 6.] RHAGFYR, 1846. [Cyf. I. CORFF NEU EGLWYS CRIST. " Un coríf sydd, ac un Ysbryd," medd }t ysgrythyr; ac y mae yn perthyn i'r corff hwn, megys i'r corff dynol, amrywiol o aelodau, yr oll wedi eu gosod ynddo a'u cydgyssylltu fel ag y mae yr Ysbryd yn ewyllysio. Megys ag y mae anghen yn y corff dynol am yr holl aelodau, efelly y mae anghen yn nghorff neu eglwys Crist am yr holl wahanol aelodau sydd yn perthyn iddynt. Nid all y corff dynol hebgor y llygaid; y mae eisieu y rhai hyn i'w arwain a'i dywys. Mae y clustiau jt un mor wasanaethgar yn eu swydd: y traed, y breichiau, a'r aelodau oll, ydynt yn anghenrheidiol ac yn ddefnyddiol yn eu lle. Ni ddywed y glust wrth y llygad, Nid rhaid i mi wrthyt. Y droed nis dywed nad yw y fraich yn ofynol; na'r fraich nad yw y droed. Y mae yr oll yn cyfansoddi ac yn gweini i'r un corff. Y mae eisieü iddynt oll i barbau yn eu priodol waith; y llygaid i wyho, y clustiau i glywed, y breichiau i amddiffyn, a'r traed i ymlwybro. Nid gwiw i'r llygaid ymadael â'r corff pan yn ieuanc, a dweyd eu bod wedi cyflawni digon yn ei ieuenctyd ef i'w ddiwallu yn ei hen oed. Efelly y gellir dywedyd am yr aelodau ereill. Y niaent oll i fod mewn undeb, ac i barhau mewn undeb. Tebyg i hyn y mae corff Crist wedi ei gyfansoddi. " Rhai yn wir ä osododd Duw yn yr egiwys; yn gyntaf apostolion, yn ail prophwydi, yn drydydd athrawon, yna gwyrthiau; wedi hyny doniau i iachâu, cynnorthwyau, llywodraethau, rhywiogaethau tafodau." Mae y petháu hyn oll "i berffeithio y saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist;" ac y mae y pethau hyn oll i wasanaethu yn eu gwahanol swyddi tra y parhao anghen y corff —fe, " hyd oni ymgyfarfyddom oil yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist."