Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROPHWYD Y JUBILL "MAE T DETRWA8 WEDI DTPOD.' Rhif. 4.] HfDREF, 1846. [Cyf. I. MAE YR ESBONWYR GYDA NI!!! Pwy, mewn gwir, a fuasai yn dysgwyl ? Eithr y mae yn ddigo» gwir, er hyny. Mae yr holl Esbonwyr a welsom, Taenelliadol a Throchyddol, Esgohyddiaethol ac Ymneillduol, Protestanaidd a Phabaidd—oll, meddwn, gyda ni! " Nid yw Barnes gyda chwi," medd rhywun, " na Lewis, na Phillips, na Jenkins o Hengoed, na Henry, na Scott, yr enwogion hyn." Ydynt; O, ydynt! ydynt! Barnes, beth meddi di, ynte, am ein pwnc ni, o fedyddio er maddeuant pechodau? Myna ein gwrthwynebwyr yn awr, nad er mwyn derbyn maddeuant a feddyhr wrth ymadrodd Pedr yn Act. ii, 38; beth a ddywedi di ? Yr wyt ti yn cael dy werthu o fesur y " ddwy fil a hanner" yn mysg Annibynwyr Deheubarth Cymru. Mae dy air di o bwys, i ni allu ei gyflwyno iddynt dros ein hathrawiaeth. Dere di, Barnes anwyl, â'r gwir allan i'th ddyscyblion. Barnes : " Er maddeuant pechodau. Nid yn unig y pechod o groeshoelio y Messiah, ond o bob pechod. [Felly dywedwn ninnau hefyd.] Nid oes dim mewn bedydd ei hun a all olchi ymaith bechod. [Gwir bob gair. Níd oes dim mewn bedydd ei hun. Gwyddoch fod y geiriau Italaidd er mwyn pwysleisiad, yn eiddoch chwi.] Gwneid hyny [sef golchi ymaith bechod] gan drugaredd faddeuol Duw drwy iawn Crist. [Da iawn etto. Gan y drugaredd hòno, a thrwy yr Iawn hwnw, meddwn ninnau hefyd.] Ond y mae bedydd yn arddangosiadol o ewyllysgarwch i dderbyn maddeuant yn y ffordd hòno [Dyma wir etto! Canys nid oes neb yn ewyllysgar i dderbyn maddeuant " y ffordd hòno"—ffordd Duw, yn dod o'r dwfr yn fyr o hòno], ac yn gyhoeddiad difrifol o'n hargyhoerldiad nad oes un ffordd arall o faddeuant. Mae yc