Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE CAMBRIAN JOURNAL. ALBAN (summer solstice.) HEVIN. PYMTHEG LLWYTH GWYNEDD; o Drefn y Brenin Alfryd ac Anarawd ap Rhodri Mawr; lie nid oedd cyn no hynny amgen na phob gwr ei dir. i. Hwfa ap Cynddelw ym Mon, a Phresaddfed ei lys, yn amser Owain Gwynedd ydoedd efe, a phenteuluwr iddaw, a'r swydd arodded arno ef ai etifeddion o baladr ydoedd gwisgo 'r dalaith am ben Tywysog Aberffraw pan ai coroned. Pedwar mab oedd iddaw, nid amgen, Methu- salem, Cyfherth Ieuan, a Iorwerth ; a rhai lyfrau a ddy- wedant fod iddo fab arall ai enw Bledrws. 0 honaw ef y mae Hywel y Pedolau ap Gruffudd ap Iorwerth ap Maredudd ap Methusalem ap Hwfa ap Cynddelw. Mam Sir Hywel oedd mammaeth Edward yr ail, a elwid Edward o Gaernarfon, a mawr y perchid Syr Hywel gan y Brenin hwnnw, ai urddoli ef yn Farchog Rhyfel. Cymmaint oedd nertholdeb dwylaw a breiehiau Syr CAMB. JOUR., 1859. M